- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 (Rheoliadau 2002).
Mae'r diwygiadau i Reoliadau 2002 yn rhoi effaith yng Nghymru i'r diwygiadau canlyniadol a wnaed i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC (OJ Rhif L106, 17.4.02, t.1) ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd (y “Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol”) gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1830/2003 (OJ Rhif L286, 18.10.03, t.1) ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (y “Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid”).
Mae'r Rheoliadau diwygio hyn—
(a)yn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth CE berthnasol (rheoliadau 2(2)(a) a 2(3)(b));
(b)yn darparu, pan fo cynhyrchion wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau deddfwriaethol heblaw'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau 2002, bod y cynhyrchion hynny yn esempt rhag gofynion adrannau 108(1)(a) a 111(1)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ond os ydynt wedi'u marchnata yn unol ag unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodwyd ar y cydsyniad a ddyroddwyd o ran y cynnyrch hwnnw (rheoliad 2(3)(a));
(c)yn darparu ar gyfer marchnata bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig ac sydd wedi'u hawdurdodi o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid heb yr angen am gydsyniad marchnata o dan adran 111(1)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“y Ddeddf”), neu asesiad risg ychwanegol o dan adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (rheoliad 2(3)(c)); ac
(ch)yn darparu, tan 18 Ebrill 2007, y bydd gosod ar y farchnad olion organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig mewn cynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu yn esempt rhag gofynion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf (cael cydsyniad marchnata) ac adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (cynnal asesiad risg) cyhyd ag y bodlonir yr amodau a bennir yn erthygl 47 o'r Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (rheoliad 2(4)).
(d)egluro bod rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi na gwrthod caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd y dyddiad diweddaraf pryd y caniateir gwneud y sylwadau a grybwyllir yn rheoliadau 21(c) ac (dd) o Reoliadau 2002 (rheoliad 2(5)).
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i bartoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael gafael ar gopïau o'r is — adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys