- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd fel y cyfryw o dan reoliad 4;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, a
os oes Awdurdod Iechyd Porthladd, yr awdurdod hwnnw yn ychwanegol at yr awdurdod a bennwyd yn (a) uchod;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000(1);
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw un o ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1830/2003(2) Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch olrhain a labelu organeddau a addaswyd yn enetig ac olrhain cynhyrchion bwyd a chynhyrchion bwyd anifeiliaid a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig a diwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC.
(2) Mae i ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1), ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor neu y cyfeirir atynt ynddo, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol at ddibenion Rheoliad y Cyngor.
(3) Mae gofyniad sy'n cael ei osod ar berson gan y Rheoliadau hyn i gyflawni gweithred neu i ymatal rhag ei chyflawni, ac sy'n amodol ar p'un a roddwyd rhyw hysbysiad neu a fynegwyd rhyw ofyniad i'r person hwnnw gan arolygydd, gan awdurdod lleol neu gan y Cynulliad, i'w osod hefyd os oedd yr hysbysiad hwnnw wedi'i roi neu'r gofyniad wedi'i fynegi gan berson a chanddo bŵer i wneud hynny o dan reoliadau sy'n gymwys i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig ac sy'n rhoi ei effaith i Reoliad y Cyngor.
2000 p. 7; diwygiwyd y diffiniad o “electronic communications” yn adran 15(1) gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.
OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.24.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys