Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 259 (Cy.25)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

8 Chwefror 2005

Yn dod i rym

1 Mawrth 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  O ran y Rheoliadau hyn—

(a)eu henw yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005;

(b)deuant i rym ar 1 Mawrth 2005; ac

(c)maent yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995

2.  Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(4) yn unol â rheoliadau 3 a 4 isod.

3.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC”, yn lle'r geiriau “and Commission Directive 2002/82/EC”, rhodder y geiriau a ganlyn—

4.  Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (1D), mewnosoder y paragraff a ganlyn—

(1E) In any proceedings for an offence in contravention of regulation 3(1) where it is alleged that a food additive failed to satisfy the purity criteria for that additive, it shall be a defence for the accused to show either—

(a)that the food additive concerned is E431-E436, or polyethylene glycol 6000 and the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1 November 2004; or

(b)that the food additive concerned is E407, E407a, E1517 or E1519 and the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1 April 2005;

and that that matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made to them by regulation 3 of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2005 had not been in force when that matter occurred.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Chwefror 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/95/EC (OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.71) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2004/45/EC (OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.19), y mae'r ddau ohonynt yn diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/77/EC (OJ Rhif L339, 30.12.1996, t.1) sy'n gosod meini prawf purdeb penodol ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion. Rhoddwyd Cyfarwyddeb 96/77/EC ar waith drwy ddiwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995.

2.  Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu meini prawf o ran purdeb, fel a amlinellir yn yr Atodiadau i Gyfarwyddebau y Comisiwn 2003/95/EC a 2004/45/EC, mewn perthynas â'r ychwanegion a ganlyn:

  • E251 Sodiwm Nitrad

  • E431 Polyocsiethylen (4) Stearad

  • E432 Polyocsiethylen Sorbitan Monolawrad (Polysorbad 20)

  • E433 Polyocsiethylen Sorbitan Monoolead (Polysorbad 80)

  • E434 Polyocsiethylen Sorbitan Monopalmitad (Polysorbad 40)

  • E435 Polyocsiethylen Sorbitan Monostearad (Polysorbad 60)

  • E436 Polyocsiethylen Sorbitan Tristearad (Polysorbad 65)

  • E459 Beta-Cylchodecstrin

  • Polyethylen Glycol 6000

  • E407 Carrageenan

  • E407a Gwymon Eucheuma a broseswyd

  • E907 Poly-1-desin hydrogenedig

  • E1517 Glyseril Deuasetad

  • E1519 Bensyl Alcohol

3.  Paratowyd arfarniad rheoliadol ar yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi, sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddebau 2003/95/EC a 2003/45/EC i gyfraith ddomestig. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Ty Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(5)

OJ Rhif L292, 28.10.2002, t.1.

(6)

OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.71.

(7)

OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.19.