xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17.—(1) Gan eithrio rheoliadau 14 i 16, bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os bydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant perchennog mewn eiddo a gaffaelwyd ar ddisgownt oddi wrth landlord cymdeithasol cofrestredig a ddefnyddiodd ei bŵer i waredu tir yn adran 9(1) o Ddeddf Tai 1996, yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol.
(2) Yn rheoliad 1—
(a)yn lle'r diffiniad o “landlord blaenorol” rhodder—
“ystyr “perchennog blaenorol” (“former owner”) yw'r landlord cymdeithasol cofrestredig a waredodd yr eiddo o dan adran 9 o Ddeddf Tai 1996”;
(b)yn lle'r diffiniad o “perchennog” rhodder—
“ystyr “perchennog” (“owner”) yw'r person sydd yn berchennog rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol yr eiddo ac sy'n gyfrwymol i gyfamod hawl cynnig cyntaf a osodwyd o dan adran 12A o Ddeddf Tai 1996”; ac
(c)yn lle'r diffiniad o “eiddo” rhodder—
“ystyr “eiddo” (“property”) yw eiddo sy'n ddarostyngedig i gyfamod hawl cynnig cyntaf a osodwyd o dan adran 12A o Ddeddf Tai 1996”
(3) Yn rheoliad 10(3), yn lle “adran 158 o Ddeddf 1985” rhodder “adran 12B(2) o Ddeddf Tai 1996”.
(4) Ble bynnag y mae'r ymadrodd “landlord blaenorol” yn digwydd rhodder “perchennog blaenorol”.
Diwygiwyd adran 9 gan adrannau 140 a 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac Atodlenni 16 ac 18 iddi.
Mewnosodwyd adran 12B gan adran 200 o Ddeddf Tai 2004.