Gwybodaeth bod cwnsela ar gael
14.—(1) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ynghylch argaeledd cwnsela i unrhyw berson —
(a)sy'n holi am wybodaeth o dan adrannau 60, 61 neu 62 o'r Ddeddf;
(b)yr holwyd am eu sylwadau o ran datgelu gwybodaeth amdanynt o dan adran 61(3) neu 62(3) neu (4) o'r Ddeddf;
(c)sy'n ymrwymo, neu'n ystyried ymrwymo, mewn cytundeb â'r asiantaeth o dan reoliad 10.
(2) Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1) gynnwys gwybodaeth am y ffioedd y gellir eu codi gan bersonau sy'n darparu cwnsela.