xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â gweddill darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”) i rym ar 15 Hydref 2005, sef adrannau 61, 64 i 71, 74 a 76 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym), ac eithrio'r darpariaethau o fewn yr adrannau hynny ar gyfer gwneud rheoliadau ac sy'n dod i rym ar 5 Hydref 2005.

Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn gymwys o ran Cymru ac mae'n sefydlu system o gynlluniau datblygu lleol (CDLlau) yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod 1 o Ran II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Deddf 1990). Mae hefyd yn darparu ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru.

Daw'r holl ddarpariaethau a gynhwysir yn erthyglau 3 i 7 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Hydref 2005.

Mae'r Gorchymyn hwn yn mewnosod paragraff 1B yn Atodlen 13 o'r Ddeddf er mwyn darparu ar gyfer CDLlau ac mae'n gwneud trefniadau trosiannol ar gyfer cynlluniau datblygu sydd eisoes yn bod.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dod â'r trefniadau trosiannol i ben a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1229) (Cy.87) (C.56). O dan y trefniadau hynny daeth rhai o ddarpariaethau Rhan 6 o'r Ddeddf, sef y darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol i gychwyn ar baratoi'u CDLlau, yn effeithiol o ran awdurdodau penodol yn unig, sef—

Felly, effaith y Gorchymyn hwn fydd gwneud y system o GDLlau yn effeithiol yng Nghymru. Ond ni fydd yr awdurdodau cynllunio lleol a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn o dan ddyletswydd i baratoi CDLl hyd nes y gwneir gorchymyn pellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.