xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Erthygl 3
Darpariaethau | Diben |
---|---|
Adran 1 a pharagraffau 1, 2, 3, 5(1) i (3), 6 ac 8 o Atodlen 1 | At y diben o benodi'r Ombwdsmon. |
Adran 10 ac Atodlen 2 | Pob diben. |
Is-adrannau (7) i (9) o adran 25 | Pob diben. |
Adran 28 ac Atodlen 23 | Pob diben. |
Adran 29 | Pob diben. |
Adran 30 | Pob diben. |
Adran 39 a pharagraffau 61 i 63 o Atodlen 6 | At y diben o benodi'r Ombwdsmon. |
Darpariaethau | Diben |
---|---|
Adran 39 a pharagraff 18(11) a (13) o Atodlen 6 | At y diben o symud ymaith y ddyletswydd ar y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru i baratoi ac gyflwyno amcangyfrif o'r treuliau y bydd yn eu tynnu yn y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007. |
Adran 39 a'r cofnod yn Atodlen 7 ar gyfer Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993(1) ond yn unig er gweithredu diddymiad paragraff 9 o Atodlen 1A i'r Ddeddf honno | At y diben o symud ymaith y ddyletswydd ar Gomisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru i baratoi ac i gyflwyno amcangyfrif o incwm a threuliau ei swydd y bydd yn eu tynnu yn y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007. |
Adran 39 a'r cofnod yn Atodlen 7 ar gyfer Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ond yn unig er gweithredu diddymiad paragraff 8 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno | At y diben o symud ymaith y ddyletswydd ar Ombwdsman Gweinyddiaeth Cymru i baratoi ac i gyflwyno amcangyfrif o incwm a threuliau ei swydd y bydd yn eu tynnu yn y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007. |
Erthygl 5
Darpariaethau | Addasiadau |
---|---|
Adran 1(3) a pharagraffau 10 i 14 o Atodlen 1A i Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 | At ddibenion paragraff 12 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno, yr Ombwdsmon fydd yn cael ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu. |
Adran 111(2) a pharagraffau 9 i 13 o Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 | At ddibenion paragraff 11 o'r Atodlen honno i'r Ddeddf honno, yr Ombwdsmon fydd yn cael ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu. |
Adran 51A(7) a pharagraffau 13 i 17 o Atodlen 2A i Ddeddf Tai 1996(2) | At ddibenion paragraff 15 o'r Atodlen honno i'r Ddeddf honno, yr Ombwdsmon fydd yn cael ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu. |