xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
37. Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol a rheoliadau 38 a 39.
38.—(1) Yr awdurdod addysg lleol sydd i benodi clerc cyntaf corff llywodraethu dros dro ysgol newydd a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, neu ysgol arbennig gymunedol, neu ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig y cafodd y cynigion i'w sefydlu eu cyhoeddi gan yr awdurdod addysg lleol.
(2) Hyrwyddwyr yr ysgol sydd i benodi clerc cyntaf corff llywodraethu dros dro ysgol newydd a fydd yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol sefydledig neu'n ysgol arbennig sefydledig y cafodd y cynigion i'w sefydlu eu cyhoeddi gan hyrwyddwyr.
39.—(1) Y clerc sydd i alw cyfarfod cyntaf corff llywodraethu dros dro.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu dros dro ethol cadeirydd ac is-gadeirydd yn y cyfarfod cyntaf hwnnw.
(3) Os yw'r clerc yn methu â galw cyfarfod o fewn unrhyw gyfnod sy'n rhesymol ym marn yr awdurdod addysg lleol, rhaid i'r awdurdod addysg lleol ei alw.
40.—(1) Mae Rhan 8 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol ac i baragraff (2).
(2) Os yw dwy neu fwy o ysgolion i'w cau (“yr ysgolion sydd i'w cau”) a disgwylir y bydd y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny, neu nifer sylweddol ohonynt, yn trosglwyddo i ysgol newydd, mae gan benaethiaid yr ysgolion hynny sydd i'w cau yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod corff llywodraethu dros dro'r ysgol newydd hyd nes y penodir pennaeth newydd ar gyfer yr ysgol honno.
41.—(1) Mae Rhan 9 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol ac i baragraff (2).
(2) Os yw dwy neu fwy o ysgolion i'w cau (“yr ysgolion sydd i'w cau”) a disgwylir y bydd y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny, neu nifer sylweddol ohonynt, yn trosglwyddo i ysgol newydd, mae gan benaethiaid yr ysgolion hynny sydd i'w cau yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o bwyllgor i gorff llywodraethu dros dro'r ysgol newydd hyd nes y penodir pennaeth newydd ar gyfer yr ysgol honno.
42. Mae Rhan 10 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol.