Gwneud offeryn llywodraethu a chyfansoddiad y corff llywodraethu
43.—(1) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod offeryn llywodraethu wedi'i wneud ar gyfer pob ysgol newydd yn unol â rheoliadau 32 i 34 o'r Rheoliadau Llywodraethu cyn dyddiad agor yr ysgol.
(2) Bydd yr offeryn llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad y mae'n cael ei wneud er mwyn cyfansoddi'r corff llywodraethu ond nid yw'n effeithio ar gyfansoddiad neu enw'r corff llywodraethu dros dro sy'n rhedeg yr ysgol newydd.
(3) At ddibenion y Rhan hon, mewn perthynas ag unrhyw ysgol newydd, y dyddiad ymgorffori yw'r dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn hysbysu'r corff llywodraethu'n ysgrifenedig, a rhaid iddo fod yn ddyddiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad agor yr ysgol ond pa fodd bynnag heb fod yn hwyrach na diwrnod olaf y tymor y mae'r ysgol yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf ynddo.
(4) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod penodiadau neu etholiadau llywodraethwyr sy'n ofynnol o dan offeryn llywodraethu ysgol newydd yn cael eu cynnal yn unol â'r offeryn hwnnw cyn y dyddiad ymgorffori a'u bod yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
(5) At bob diben arall, bydd yr offeryn llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad ymgorffori.
(6) Ar y dyddiad ymgorffori, rhaid i gorff llywodraethu ysgol newydd fod wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu.
(7) Rhaid i'r corff llywodraethu dros dro arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf 1998, Deddf 2002 a'r Rheoliadau hyn mewn modd y bwriedir iddo alluogi'r awdurdod addysg lleol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y rheoliad hwn.