xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Cyflwyniad

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005, ar wahân i baragraff (2) o reoliad 2, a rheoliad 38 ac Atodlen 6, a ddeuant i rym ar 1 Ionawr 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dirymiadau, arbedion a diwygiadau

2.—(1Dirymir drwy hyn Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Trawsnewid i Fframwaith Newydd) 1998(1).

(2Dirymir Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999(2) yn effeithiol o 1 Ionawr 2006, ac eithrio'r darpariaethau canlynol sy'n parhau mewn grym yn achos pob ysgol a gynhelir hyd nes y gwneir offeryn llywodraethu newydd i'r ysgol yn unol â rheoliad 33—

(3Diwygir paragraff (1) o reoliad 31 o Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999(3), drwy roi'r geiriau “Part 5 of the Government of Maintained Schools (Wales) Regulations 2005” yn lle'r geiriau “Schedule 12 to the 1998 Act”.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

dehonglir “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yn unol ag adran 122 o Ddeddf 2002;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(4);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Deliadau Ariannol 1971(6).

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

(a)at y corff llywodraethu neu at gorff llywodraethu ysgol yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir y mae'r ddarpariaeth yn berthnasol iddi;

(b)at lywodraethwr yn gyfeiriad at aelod o gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r ddarpariaeth yn berthnasol iddi;

(c)at yr awdurdod addysg lleol yn gyfeiriad at yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

(a)at reoliad, Rhan neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad, Rhan neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt;

(c)at is-baragraff â rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.

(3)

O.S. 1999/2243; diwygir y rheoliad hwn hefyd gan reoliad 8 yn Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol etc (Cymru) 2005, O.S. 2005/2913 (Cy. 210).