- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
44. —Yn ddarostyngedig i reoliad 63 o, ac Atodlen 7 i, y Rheoliadau hyn mae gan y personau canlynol yr hawl i fynychu unrhyw un o gyfarfodydd y corff llywodraethu—
(a)yn ddarostyngedig i reoliad 49, llywodraethwr;
(b)pennaeth yr ysgol, boed yn llywodraethwr neu beidio;
(c)clerc y corff llywodraethu; ac
(ch)personau eraill y bo'r corff llywodraethu yn penderfynu yn eu cylch.
45.—(1) Rhaid i'r corff llywodraethu gynnal un cyfarfod o leiaf yn ystod pob tymor ysgol.
(2) Rhaid i gyfarfodydd y corff llywodraethu gael eu cynnull gan y clerc ac, heb amharu ar baragraff (3), wrth arfer y swyddogaeth hon rhaid i'r clerc gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—
(a)y corff llywodraethu; neu
(b)y cadeirydd, i'r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o'r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).
(3) Caiff unrhyw dri aelod o'r corff llywodraethu ofyn am gyfarfod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r clerc sy'n cynnwys crynodeb o'r busnes sydd i'w drafod; a rhaid i'r clerc gynnull cyfarfod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (7), rhaid i'r clerc roi hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod, copi o'r agenda, ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw i—
(a)pob llywodraethwr;
(b)y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio); ac
(c)yr awdurdod addysg lleol.
(5) Pan fo'r cadeirydd yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, bydd yn ddigon i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, y copi o'r agenda, yr adroddiadau a'r papurau eraill sydd i'w hystyried gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd.
(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod lle bo—
(a)diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd,
(b)atal unrhyw lywodraethwr,
(c)diswyddo llywodraethwr cymunedol neu noddwr-lywodraethwr, neu
(ch)penderfyniad i gyflwyno hysbysiad i ddirwyn yr ysgol i ben o dan adran 30 o Ddeddf 1998
i gael ei ystyried.
(7) Pan fo paragraff (6) yn gymwys—
(a)rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod, copi o'r agenda ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill i'w hystyried yn y cyfarfod o leiaf saith niwrnod gwaith clir ymlaen llaw; a
(b)nid yw pŵer y cadeirydd i roi cyfarwyddyd i gynnal cyfarfod o fewn cyfnod byrrach yn gymwys.
(8) Caiff yr is-gadeirydd arfer swyddogaethau'r cadeirydd yn y rheoliad hwn yn absenoldeb y cadeirydd neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag.
(9) Ni chaiff cyfarfod o'r corff llywodraethu ei annilysu oherwydd nad yw unrhyw berson wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod neu gopi o'r agenda.
46.—(1) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r corff llywodraethu ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y corff llywodraethu heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw lywodraethwyr sydd wedi eu hatal o'r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 49.
(2) Rhaid i bob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau'r llywodraethwyr sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y mater.
(3) Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y cadeirydd neu, yn ôl fel y digwydd, y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod (ar yr amod bod person o'r fath yn llywodraethwr) ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(4) Ni fydd unrhyw benderfyniad i gyflwyno hysbysiad i gau'r ysgol o dan adran 30 o Ddeddf 1998 yn effeithiol, pa un a gymerir ef gan y corff llywodraethu ynteu gan bwyllgor, oni chaiff ei gadarnhau gan y corff llywodraethu mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn llai na 28 diwrnod wedi'r cyfarfod y gwnaed y penderfyniad ynddo ac—
(a)oni bennir y mater yn eitem o fusnes ar agenda'r ddau gyfarfod; a
(b)oni roddir hysbysiad o'r ail gyfarfod yn unol â rheoliad 45(7).
(5) Ni chaiff trafodion corff llywodraethu ysgol eu hannilysu gan—
(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau;
(b)unrhyw ddiffyg wrth ethol, penodi nac enwebu unrhyw lywodraethwr;
(c)unrhyw ddiffyg wrth benodi'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd; neu
(ch)y ffaith bod gan yr ysgol fwy o lywodraethwyr o gategori arbennig nag y darperir ar eu cyfer gan yr offeryn llywodraethu(1).
47.—(1) Rhaid i'r clerc (neu'r person a benodir i weithredu fel clerc at ddiben y cyfarfod yn unol â rheoliad 42(4)) sicrhau bod cofnodion trafodion cyfarfod o'r corff llywodraethu'n cael eu llunio a'u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu) gan y cadeirydd (neu gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd) yn y cyfarfod nesaf.
(2) Rhaid i gofnodion y trafodion gael eu rhoi mewn llyfr a gedwir at y diben gan y clerc a gellir eu rhoi ar dudalennau rhyddion wedi eu rhifo'n olynol; ond os gwneir hynny rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cofnodion dorri llythrennau'i enw ar bob tudalen.
(3) Rhaid i'r person sy'n gweithredu fel clerc y corff llywodraethu at ddibenion unrhyw gyfarfod ysgrifennu'n union cyn y nodyn sy'n cofnodi'r cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau'r aelodau hynny o'r corff llywodraethu ac unrhyw berson arall a oedd yn bresennol yn y cyfarfod dan sylw.
(4) Rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu copi o gofnodion drafft neu wedi'u llofnodi o gyfarfod penodol i'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol dan sylw os caiff gais gan yr awdurdod dan sylw.
48.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi ar gael i'w archwilio yn yr ysgol, gan unrhyw berson â diddordeb, o—
(a)agenda pob cyfarfod;
(b)cofnodion wedi'u llofnodi o bob cyfarfod o'r fath;
(c)unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath; ac
(ch)cofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os cymeradwywyd hwy gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw.
(2) Caiff y corff llywodraethu dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu iddi fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—
(a)person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn yr ysgol; neu
(b)disgybl yn yr ysgol sy'n cael ei enwi, neu un sy'n gwneud cais am le yn yr ysgol; neu
(c)unrhyw fater arall y mae'r corff llywodraethu yn fodlon y dylai aros yn gyfrinachol oherwydd ei natur.
(3) Rhaid i bob tudalen o gopïau a gyhoeddir o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd nodi eu bod yn gofnodion drafft.
49.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad atal llywodraethwr o'r cyfan neu o rai o gyfarfodydd y corff llywodraethu, neu o bwyllgor, am gyfnod penodol o hyd at 6 mis am un neu ragor o'r rhesymau canlynol—
(a)bod y llywodraethwr, ac yntau'n berson y telir iddo am weithio yn yr ysgol, yn destun achos disgyblu mewn perthynas â'i gyflogaeth;
(b)bod y llywodraethwr yn destun achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys, y gallai ei ganlyniad olygu y caiff ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o dan Atodlen 5;
(c)bod y llywodraethwr wedi gweithredu mewn modd sy'n anghyson ag ethos neu gymeriad crefyddol yr ysgol ac wedi dwyn neu'n debygol o ddwyn anfri ar yr ysgol neu ar y corff llywodraethu neu ar ei swydd; neu
(ch)bod y llywodraethwr wedi torri ei ddyletswydd o gyfrinachedd i'r ysgol neu i unrhyw aelod o'r staff neu i unrhyw ddisgybl yn yr ysgol.
(2) Ni fydd penderfyniad i atal llywodraethwr o'i swydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 45(7).
(3) Cyn y cymerir pleidlais ar benderfyniad i atal llywodraethwr, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig y penderfyniad ddatgan yn y cyfarfod ei resymau dros wneud hynny, a rhaid rhoi cyfle i'r llywodraethwr sy'n destun y penderfyniad wneud datganiad yn ymateb cyn mynd allan o'r cyfarfod yn unol â pharagraff 2(2) o Atodlen 7.
(4) Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n effeithio ar hawl llywodraethwr a ataliwyd—
(a)i gael hysbysiad o gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agendâu ac adroddiadau neu bapurau eraill ar eu cyfer, na
(b)i fynychu cyfarfod o'r corff llywodraethu a gynullir yn unol â rheoliad 30 i ystyried ei ddiswyddo
yn ystod cyfnod ei ataliad.
(5) Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n rhwystro corff llywodraethu rhag atal llywodraethwr a ataliwyd o dan baragraff (1) am gyfnod neu gyfnodau pellach, pa un a yw am yr un rheswm â'r atal gwreiddiol ai peidio, a bydd paragraffau (1) i (4) yn gymwys i bob ataliad.
(6) Ni chaiff llywodraethwr ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 5 am beidio â mynychu unrhyw gyfarfod o'r corff llywodraethu tra bydd wedi ei atal o dan y rheoliad hwn.
50.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 51 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998(2) a rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(3), caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw rai o'i swyddogaethau i—
(a)pwyllgor;
(b)unrhyw lywodraethwr; neu
(c)y pennaeth (boed lywodraethwr neu beidio).
(2) Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hyn yn rhwystro'r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu adolygu'n flynyddol y modd yr arferir swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo.
51.—(1) Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo o dan reoliad 50(1) ei swyddogaethau o dan y rheoliadau canlynol—
(a)y rhai hynny yn Rhan 2 (categorïau o lywodraethwyr);
(b)y rhai hynny yn Rhan 3 (cyfansoddiad cyrff llywodraethu);
(c)y rhai hynny yn Rhan 4 (diswyddo llywodraethwyr);
(ch)y rhai hynny yn Rhan 5 (offerynnau llywodraethu);
(d)rheoliadau 39 a 41 (ethol a diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd);
(dd)rheoliad 42 (penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu);
(e)rheoliad 49 (atal llywodraethwyr);
(f)rheoliad 50 (dirprwyo swyddogaethau);
(ff)rheoliad 54 (sefydlu pwyllgorau)
ac ni chaiff ychwaith ddirprwyo ei swyddogaethau mewn perthynas â phanelau dethol pennaeth a dirprwy pennaeth o dan baragraff 6 o Atodlen 16 a pharagraffau 7 a 30 o Atodlen 17 i Ddeddf 1998.
(2) Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo i unigolyn o dan reoliad 50(1)—
(a)y swyddogaethau yn:
(i)adrannau 28, 29, 30 a 31 o Ddeddf 1998, a pharagraff 10(4) yn Atodlen 6 iddi (Newid neu cau ysgolion a gynhelir);
(ii)adrannau 28(4) a 31 o Ddeddf 1998 fel y maent yn effeithiol yn rhinwedd Rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 8 i Ddeddf 1998 mewn perthynas â chynigion o dan yr Atodlen honno (Newid categori ysgolion a gynhelir);
(iii)cynllun a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, i'r graddau y mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu gymeradwyo cynllun cyllideb ffurfiol cyntaf y flwyddyn ariannol;
(iv)adran 61(1) i (3) o Ddeddf 1998 (polisïau disgyblaeth ysgolion);
(v)adrannau 88, 89(5), 89A(6) 90(8) a 91 o Ddeddf 1998 (sy'n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau derbyn i ysgolion), adran 90(1) o Ddeddf 1998 (sy'n ymwneud â chyfeirio gwrthwynebiadau ynghylch trefniadau derbyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru), adran 93 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 23 iddi (sy'n ymwneud â phennu niferoedd derbyn ac amrywio niferoedd safonol), neu adran 94(7) o Ddeddf 1998 i'r graddau y mae'n ymwneud â phenderfynu ynghylch trefniadau apêl gan y corff llywodraethu;
(vi)adran 63 o Ddeddf 1998 (targedau mynychu ysgol);
(vii)adran 439(7) o Ddeddf 1996 (gorchmynion mynychu ysgol);
(viii)adran 95(2) a 97(3) o Ddeddf 1998 (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod addysg lleol i dderbyn plentyn a chyfeiriad i'r Cynulliad mewn cysylltiad â chyfarwyddyd a wneir gan awdurdod addysg lleol i dderbyn plentyn); na'r
(b)swyddogaethau y mae'n rhaid eu dirprwyo i'r pwyllgorau a enwir yn rheoliadau 55 i 57.
52.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw swyddogaeth o eiddo'r corff llywodraethu wedi ei dirprwyo i'r canlynol neu'n arferadwy fel arall gan y canlynol—
(a)llywodraethwr (gan gynnwys y cadeirydd neu'r is-gadeirydd);
(b)y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio); neu
(c)pwyllgor.
(2) Rhaid i unrhyw unigolyn neu bwyllgor y dirprwywyd swyddogaeth corff llywodraethu iddo neu sydd fel arall wedi arfer swyddogaeth corff llywodraethu, adrodd wrth y corff llywodraethu ynghylch unrhyw gam a gymerwyd neu benderfyniad a wnaed mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth honno.
Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2002 a rheoliad 22.
O.S. 1998/2535 fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 1999/2243.
O.S. 2000/3027 (Cy. 195) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1396 (Cy. 138).
Diwygiwyd gan adran 154 o Ddeddf 2002.
Diwygiwyd gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf 2002.
Rhoddwyd i mewn gan adran 47(2) o Ddeddf 2002. Noder hefyd y diddymir adran 93 o, ac Atodlen 23 i, Ddeddf 1998 gan Ddeddf 2002.
Diwygiwyd gan adran 50 o, a pharagraff 8 o Atodlen 4 i, Ddeddf 2002.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys