xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
59.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) ac Atodlen 7 i'r Rheoliadau hyn bydd gan y canlynol yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o bwyllgor—
(a)unrhyw aelod o'r pwyllgor, ar yr amod nad yw'n llywodraethwr a ataliwyd yn unol â rheoliad 49;
(b)pennaeth yr ysgol, pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio;
(c)clerc y pwyllgor; ac
(ch)personau eraill y bo'r corff llywodraethu neu'r pwyllgor yn penderfynu yn eu cylch.
(2) Caiff pwyllgor wahardd aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw ran o'i gyfarfod y mae ganddo fel arall hawl i'w fynychu pan fo'r busnes o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o'r staff neu â disgybl.
(3) Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys mewn perthynas â'r pwyllgorau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 55 a 56 nac mewn perthynas ag unrhyw bwyllgor neu banel dethol sy'n arfer unrhyw swyddogaeth o dan Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998.