Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Buddiannau ariannol

1.—(1At ddibenion rheoliad 63(2), mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—

(a)pan fo person perthnasol wedi ei enwebu neu ei benodi i swydd gan berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu

(b)pan fo person perthnasol yn bartner i berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu

(c)pan fo gan berthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod, ei bartner sifil o fewn ystyr “civil partner” yn Neddf Partneriaethau Sifil 2004(1) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai'n briod neu'n bartner sifil iddo), a'r person hwnnw'n gwybod hynny, fuddiant o'r fath neu y câi ei drin fel petai ganddo fuddiant o'r fath.

(2At ddibenion rheoliad 63(2) ni chaiff person perthnasol ei drin fel petai iddo fuddiant ariannol mewn unrhyw fater—

(a)ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater yn fwy na buddiant cyffredinol y rhai hynny y telir iddynt am weithio yn yr ysgol;

(b)yn unig oherwydd iddo gael ei enwebu neu ei benodi i'r swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o gorff o'r fath, neu'n cael ei gyflogi gan gorff o'r fath; neu

(c)yn unig oherwydd ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall os nad oes iddo unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau o eiddo'r gorfforaeth honno neu gorff arall.

(3Ni rwystrir llywodraethwr, oherwydd ei fuddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried a phleidleisio ynghylch cynigion i'r corff llywodraethu gymryd yswiriant i ddiogelu'r aelodau rhag rhwymedigaethau yr ânt iddynt sy'n deillio o'u swydd, ac ni rwystrir y corff llywodraethu, oherwydd buddiannau ariannol ei aelodau, rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.

(4Ni rwystrir llywodraethwr rhag ystyried neu bleidleisio ynghylch unrhyw gynnig sy'n ymwneud â lwfansau sydd i'w talu'n unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005(2) oherwydd bod iddo fuddiant mewn taliadau o lwfansau o'r fath i aelodau'r corff llywodraethu'n gyffredinol, ond rhaid i aelod o gorff llywodraethu neu o unrhyw bwyllgor o gorff llywodraethu fynd allan o gyfarfod pan ystyrir neu trafodir a ddylai ef gael lwfans arbennig, swm unrhyw daliad neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans sydd wedi cael ei dalu iddo, a rhaid iddo beidio â phleidleisio arno.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill