xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3052 (Cy.229)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

1 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

11 Tachwedd 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymghynghori fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 11 Tachwedd 2005.

Diwygiadau i Reoliadau Mêl 2003

2.  Diwygir Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003(4) yn unol â rheoliad 3.

3.  Yn Atodlen 1, Nodyn 1, yn lle'r geiriau “a 6” rhodder y geiriau—

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Tachwedd 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn cywiro camgymeriadau i Reoliadau Mêl 2003 O.S. 2003/2243, er mwyn sicrhau bod Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC ynghylch mêl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47) yn cael ei throsi'n gywir.

2.  Mae arfarniad rheoleiddiol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.