xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 3(1)
1. Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol o ran y gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys achosion yn ymwneud â mabwysiadu rhwng gwledydd.
2. Y trefniadau y mae'r awdurdod lleol eisoes wedi eu gwneud i asesu ac i wneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
3. Enw a chyfeiriad y rheolwr.
4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr.
5. Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod.
6. Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu.
7. Y system sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso gwaith darparu'r gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol.
8. Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol.
9. Manylion y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r gweithdrefnau am asesiadau ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r ddarpariaeth ohonynt.
10. Crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989(1), Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Cwynion) 1990(2) ac adran 114 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003(3).
11. Cyfeiriad a Rhif ffôn y swyddog priodol o'r Cynulliad Cenedlaethol.