Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3252 (Cy.245)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

23 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

25 Tachwedd 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978(1) ac adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(2) ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol(3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(1)

1978 p.3. Gweler adran 11(1) i gael y diffiniad o “prescribed”.

(2)

1984 p.27. Gweler adran 142(1) i gael y diffiniad o “prescribed”.

(3)

Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dan adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004, O.S. 2004/3044, erthygl 2 ac Atodlen 1.