Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 5Apeliadau Treth Cyngor

Dehongliad

24.—(1Mae unrhyw gyfeiriad yn narpariaethau canlynol y Rhan hon—

(a)at barti mewn apêl, yn cynnwys yr apelydd ac unrhyw berson y mae ganddo hawl bod copi o hysbysiad am apêl yr apelydd yn cael ei gyflwyno iddo; ac

(b)at adran wedi'i rhifo neu Atodlen, oni fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn gyfeiriad at yr adran neu'r Atodlen a rifwyd felly yn Neddf 1992.

(2At ddibenion Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn, ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw—

(a)Clerc Interim neu Glerc a benodir o dan reoliad 18(5) a (7); ac

(b)unrhyw gyflogai arall i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 18(8), y mae holl swyddogaethau neu ran o swyddogaethau Clerc yn Rhan 5 y Rheoliadau hyn, wedi'u dirprwyo iddynt.

Awdurdodaeth

25.—(1Yn ddarostynedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn—

(a)ymdrinnir ag apêl, ar wahân i apêl yn erbyn cosb, gan y Tribiwnlys Prisio a sefydlwyd ar gyfer yr ardal lle y saif yr annedd y mae'r apêl yn ymwneud â hi;

(b)ymdrinnir ag apêl yn erbyn cosb gan y Tribiwnlys Prisio y mae ardal ei awdurdodaeth yn cynnwys ardal yr awdurdod bilio dan sylw.

(2Lle bo—

(a)mwy nag un awdurdod bilio wedi penderfynu fod person yn atebol i dalu treth cyngor ar gyfer yr un diwrnod am fod y person hwnnw'n breswylydd mewn perthynas ag annedd, a

(b)bod y person yn apelio o dan adran 16(1) yn erbyn y ddau neu bob un o'r penderfyniadau, ac

(c)oni bai am y paragraff hwn byddai'r apeliadau'n gymwys i wahanol Dribiwnlysoedd Prisio ymdrin â hwy,

ymdrinnir â'r apeliadau, yn ddarostynedig i baragraff (3), gan ba un bynnag o'r Tribiwnlysoedd Prisio hynny ag a ddewisir gan y person hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Glerc y Tribiwnlys Prisio hwnnw.

(3Lle bo'r apelydd yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio a fyddai, oni bai am y paragraff hwn, yn ymdrin ag apêl yr apelydd, ni ddylai'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi, ond Tribiwnlys Prisio arall a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(4Lle bo'r apelydd yn gyn aelod o'r Tribiwnlys Prisio y byddai ei apêl yn gymwys iddo ymdrin â hi, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliad hwn, a bod Llywydd y Tribiwnlys Prisio hwnnw'n penderfynu na ddylai'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi, ymdrinnir â hi gan ba Dribiwnlys Prisio arall ag a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(5Lle bo'r apelydd yn gyflogai i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, ymdrinnir â'r apêl gan Dribiwnlys Arbennig a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(6Lle'r ymddengys i Lywydd Tribiwnlys Prisio a fyddai, oni bai am y paragraff hwn, yn ymdrin ag apêl, na fyddai'n briodol i'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi oherwydd gwrthdaro, neu'r hyn a allai ymddangos fel gwrthdaro buddiannau, bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, pan hysbysir ef o hynny gan y Llywydd, yn penodi Tribiwnlys Prisio arall i ymdrin â'r apêl honno.

(7Er gwaethaf darpariaethau'r rheoliad hwn, lle'r ymddengys yn briodol i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, caiff benodi Tribiwnlys Arbennig i ymdrin ag apêl.

(8Os bydd—

(a)yr apelydd yn gyn aelod neu gyflogai i hen Dribiwnlys, a

(b)Tribiwnlys Prisio, yn unol â pharagraff (1) neu (2), i ymdrin ag unrhyw apêl gan berson y cyfeirir ato ym mharagraff (a), a bod ardal y Tribiwnlys yn cynnwys ardal neu ran o ardal yr hen Dribiwnlys hwnnw, ac

(c)bod Llywydd y Tribiwnlys Prisio'n penderfynu na ddylai'r Tribiwnlys hwnnw ymdrin â'r apêl

ymdrinnir â hi gan Dribiwnlys Arbennig a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(9Mewn achosion yr ymdrinnir â hwy o dan baragraffau (5), (7) neu (8), bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n penodi un o'r Clercod a benodir dan reoliad 18(5) neu (7) i wasanaethu'r Tribiwnlys hwnnw.

Terfynau amser

26.—(1Bydd apêl gan berson mewn perthynas â'r hwn y bodlonir yr amod a grybwyllir yn adran 16(7)(a) neu (b) yn cael ei gwrthod oni chychwynnir hi yn unol â'r Rhan hon yn ddim hwyrach nag ar derfyn dau fis gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno hysbysiad yr awdurdod bilio dan yr adran honno.

(2Pan fodlonir yr amod a grybwyllwyd yn adran 16(7)(c), gwrthodir apêl gan y person a dramgwyddwyd oni chychwynnir hi o fewn pedwar mis i ddyddiad cyflwyno hysbysiad y person hwnnw o dan adran 16(4).

(3Gwrthodir apêl o dan baragraff (3) o Atodlen 3 i Ddeddf 1992 oni chychwynnir hi'n ddim hwyrach nag ar derfyn dau fis gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o roddi'r gosb.

(4Gwrthodir apêl yn erbyn hysbysiad i gwblhau oni chychwynnir hi'n ddim hwyrach nag ar derfyn pedair wythnos gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad.

(5Er gwaethaf paragraffau (1) i (4), caiff y Llywydd awdurdodi i apêl gael ei hystyried lle bo'r Llywydd yn fodlon fod methiant y person a dramgwyddwyd i gychwyn yr apêl fel y darperir gan y rheoliad hwn, wedi digwydd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person hwnnw.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “y Llywydd” (“the President”) hefyd, mewn achosion yr ymdrinnir â hwy o dan reoliad 25(5), (7) neu (8), yw Cyfarwyddwr Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Cychwyn apêl

27.  Rhaid cychwyn apêl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc (“hysbysiad am apêl”) (“a notice of appeal”) .

(2Lle gwneir yr apêl o dan adran 16, rhaid i'r hysbysiad am apêl gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)ar ba seiliau y gwneir yr apêl;

(b)y dyddiad pryd y cyflwynwyd yr hysbysiad o dan adran 16(4) i'r awdurdod bilio, ac

(c)y dyddiad, os o gwbl, pryd yr hysbyswyd yr apelydd gan yr awdurdod, fel y crybwyllwyd yn adran 16(7)(a) neu (b).

(3Lle bo apêl yn apêl yn erbyn hysbysiad i gwblhau, rhaid i'r hysbysiad am apêl fod â'r canlynol yn cyd-fynd ag ef—

(a)copi o'r hysbysiad i gwblhau; a

(b)datganiad yn nodi ar ba seiliau y gwneir yr apêl.

(4Lle gwneir yr apêl yn erbyn cosb, rhaid i'r hysbysiad am apêl gynnwys y wybodaeth ganlynol—

(a)ar ba seiliau y gwneir yr apêl; a

(b)dyddiad cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o roddi cosb.

(5Rhaid i'r Clerc, o fewn pythefnos i gyflwyno'r hysbysiad am apêl, hysbysu'r apelydd fod y Clerc wedi'i dderbyn, a rhaid iddo gyflwyno copi ohono i'r awdurdod bilio y mae ei benderfyniad, ei weithred neu ei hysbysiad yn destun yr apêl, ac unrhyw awdurdod bilio arall yr ymddengys i'r Clerc ei fod yn gysylltiedig.

Trefniadau ar gyfer apeliadau

28.—(1Dyletswydd Llywydd Tribiwnlys Prisio fydd sicrhau y gwneir trefniadau i apeliadau gael eu penderfynu yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon.

(2Mae'r paragraff hwn yn berthnasol lle bo apêl o dan y Rhan hon ac apêl o dan un neu fwy o'r canlynol—

(a)rheoliadau a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 1988;

(b)rheoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992;

yn ymwneud â'r un eiddo.

(3Lle bo paragraff (2) yn gymwys—

(a)bydd y Llywydd yn sicrhau yr ymdrinnir â'r apeliadau yn y fath drefn ag yr ymddengys i'r Llywydd hwnnw fyddai orau i sicrhau buddiannau cyfiawnder;

(b)rhaid i'r swyddog prisio neu'r swyddog rhestru (yn ôl y digwydd) a'r awdurdod bilio gael eu cysylltu fel parti i apêl dan y Rhan hon;

(4Ym mharagraff (3), ystyr “swyddog prisio” (“valuation officer”) yw'r swyddog a benodir o dan adran 61(1)(a) o Ddeddf 1988.

(5Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl, gyflwyno copi o'r hysbysiad am apêl i berson a wnaed yn barti yn unol â pharagraff (3).

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae “Llywydd Tribiwnlys Prisio” (“the President of a Valuation Tribunal”) hefyd yn golygu, mewn achosion yr ymdrinnir â hwy o dan reoliad 25(5), (7) neu (8), Cyfarwyddwr Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Tynnu'n ôl

29.—(1Ceir tynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc cyn i wrandawiad, neu ystyriaeth o sylwadau ysgrifenedig gan Dribiwnlys, ddechrau.

(2Rhaid i'r Clerc hysbysu'r apelydd pa fo'r hysbysiad am dynnu'n ôl wedi'i dderbyn, a rhaid iddo gyflwyno copi o'r hysbysiad i bob parti arall i'r apêl.

Penderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig

30.—(1Gellir penderfynu ar apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig os yw pob parti wedi cytuno i hynny'n ysgrifenedig.

(2Lle bo pob parti wedi rhoi cytundeb fel y nodir ym mharagraff (1), rhaid i'r Clerc gyflwyno hysbysiad i'r partïon yn unol â hynny, ac, o fewn pedair wythnos o gyflwyno hysbysiad o'r fath i barti, caiff pob parti gyflwyno i'r Clerc hysbysiad yn datgan—

(a)y rhesymau, neu'r rhesymau pellach am yr anghytundeb sydd wedi achosi'r apêl; neu

(b)nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach.

(3Rhaid i gopi o unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (2) gael ei gyflwyno i'r Clerc ac i'r parti neu'r partïon eraill i'r apêl, a rhaid anfon gydag ef ddatganiad am effaith paragraffau (4) a (5).

(4Caiff unrhyw barti y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (3), o fewn pedair wythnos i'r cyflwyno hwnnw, gyflwyno i'r Clerc hysbysiad pellach yn datgan ateb y parti hwnnw i ddatganiad y parti arall, neu nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach, yn ôl y digwydd; a rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o unrhyw hysbysiad pellach o'r fath i'r parti neu'r partïon eraill.

(5Ar derfyn pedair wythnos gan ddechrau o ddiwedd y cyfnod o bedair wythnos a grybwyllir ym mharagraff (4), rhaid i'r Clerc gyflwyno copïau o—

(a)unrhyw wybodaeth a drosglwyddwyd i'r Clerc dan y Rheoliadau hyn, a

(b)unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) neu (4),

i Dribiwnlys a gyfansoddwyd fel y darperir yn rheoliad 34.

(6Caiff y Tribiwnlys y cyfeirir apêl iddo fel y darperir ym mharagraff (5), os yr ystyria'n briodol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti ddarparu'n ysgrifenedig wybodaeth bellach am y seiliau y dibynnir arnynt ac am unrhyw ffeithiau neu haeriadau perthnasol; neu

(b)orchymyn y dylid penderfynu'r apêl ar sail gwrandawiad.

(7Lle bo Tribiwnlys yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti ddarparu manylion o dan baragraff (6)(a), rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o'r manylion i bob parti arall, a chaiff pob parti o'r fath o fewn pedair wythnos i'r cyflwyno, gyflwyno i'r Clerc unrhyw sylwadau pellach y dymuna'r parti hwnnw eu gwneud mewn ymateb.

Hysbysiad o wrandawiad

31.—(1Lle bo'r apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad, rhaid i'r Clerc, o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad dan sylw, gyflwyno i'r partïon hysbysiad am y dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennir ar gyfer y gwrandawiad.

(2Bydd y Clerc yn hysbysebu'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennir ar gyfer unrhyw wrandawiad drwy sicrhau fod hysbysiad yn nodi'r fath wybodaeth yn cael ei arddangos mewn man amlwg—

(a)y tu allan i swyddfa'r awdurdod bilio a benodir gan yr awdurdod i'r diben hwnnw, neu

(b)mewn man arall o fewn ardal yr awdurdod hwnnw.

(3Rhaid i'r rhybudd sy'n ofynnol o dan baragraff (2) enwi man lle y gellir archwilio rhestr o'r apeliadau sydd i'w clywed.

(4Lle bo gwrandawiad apêl wedi'i ohirio, rhaid i'r Clerc gymryd pa gamau bynnag sy'n rhesymol ymarferol yn yr amser sydd ar gael—

(a)i hysbysu'r partïon am y gohiriad; ac

(b)i hysbysebu'r gohiriad.

Gwaharddiad rhag cymryd rhan

32.—(1Gwaherddir person rhag cymryd rhan fel aelod yn y gwrandawiad neu'r penderfyniad, neu rhag gweithredu fel Clerc neu swyddog Tribiwnlys mewn perthynas ag apêl, os yw'r person hwnnw'n aelod o'r awdurdod bilio perthnasol.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod bilio perthnasol” (“relevant billing authority”) yw—

(a)yn achos apêl yn erbyn hysbysiad cwblhau, yr awdurdod bilio y mae'r annedd sy'n destun yr apêl wedi'i leoli ynddi; ac

(b)yn unrhyw achos arall, yr awdurdod bilio yr apelir yn erbyn ei benderfyniad.

(3Gwaherddir person rhag cymryd rhan fel aelod yn y gwrandawiad neu'r penderfyniad, neu rhag gweithredu fel Clerc neu swyddog Tribiwnlys mewn perthynas ag apêl, os yw'r apelydd yn gymar i'r person hwnnw neu'n bartner sifil neu fod y person hwnnw'n cynnal yr apelydd yn ariannol, neu o dan rwymedigaeth i wneud hynny.

(4Fel arall, ni fydd person yn cael ei wahardd rhag gweithredu mewn unrhyw fodd mewn perthynas ag apêl yn unig am y rheswm fod y person hwnnw'n aelod o awdurdod sy'n derbyn arian yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o daliadau mewn perthynas â threth cyngor allai gael ei effeithio gan weithredu swyddogaethau'r person hwnnw.

Cynrychiolaeth yn y gwrandawiad

33.  Caiff unrhyw barti i apêl sydd i'w phenderfynu mewn gwrandawiad, ymddangos yn bersonol (gyda chymorth gan unrhyw berson os yw'r person hwnnw'n dymuno hynny), gan gwnsler neu dwrnai, neu unrhyw gynrychiolydd arall (ar wahân i berson sy'n aelod o Dribiwnlys Prisio neu Gyngor Llywodraethu Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, neu gyflogai Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru).

Trefn y gwrandawiad

34.—(1Yn ddarostynedig i baragraff (2), gweithredir swyddogaeth Tribiwnlys i wrando neu benderfynu apêl gan dri aelod o Dribiwnlysoedd Prisio ac mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf un Cadeirydd; a Chadeirydd fydd yn llywyddu.

(2Lle bo pob parti i apêl sy'n ymddangos yn cytuno, gellir penderfynu'r apêl gan ddau aelod o Dribiwnlysoedd Prisio, ac er gwaethaf absenoldeb Cadeirydd.

(3Cynhelir y gwrandawiad yn gyhoeddus, oni fo'r Tribiwnlys yn gorchymyn fel arall ar gais parti, ac wedi iddo gael ei fodloni y byddai buddiannau'r parti hwnnw'n cael eu heffeithio'n niweidiol.

(4Os metha'r apelydd ag ymddangos yn y gwrandawiad, caiff y Tribiwnlys wrthod yr apêl, ac os metha unrhyw barti arall ag ymddangos, caiff y Tribiwnlys wrando a phenderfynu'r apêl yn absenoldeb y parti hwnnw.

(5Caiff y Tribiwnlys fynnu bod unrhyw dyst yn rhoi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhau, a bydd ganddo hawl i'r diben hwnnw i weinyddu llw neu gadarnhad yn y ffurf briodol.

(6Caiff partïon yn y gwrandawiad eu clywed ym mha drefn bynnag a benderfynir gan y Tribiwnlys, a chânt holi unrhyw dystion gerbron y Tribiwnlys a galw tystion.

(7Caniateir gohirio gwrandawiad am ba amser bynnag, i ba le bynnag ac ar ba delerau bynnag (os o gwbl) a ystyrir yn briodol gan y Tribiwnlys; a rhaid rhoi hysbysiad rhesymol o'r amser a'r lleoliad y gohiriwyd y gwrandawiad iddo, i bob parti.

(8Os ystyria ei fod yn briodol, caiff Tribiwnlys, wedi hysbysu'r partïon a'u gwahodd i fod yn bresennol, archwilio unrhyw annedd sy'n destun apêl.

(9Yn ddarostynedig i unrhyw ddarpariaethau yn y Rhan hon, o ran y Tribiwnlys—

(a)rhaid iddo gynnal y gwrandawiad yn y modd a ystyria'n fwyaf priodol i egluro'r materion ger ei fron ac yn gyffredinol i ymdrin yn gyfiawn â'r achos;

(b)rhaid iddo, cyn belled ag yr ymddengys yn briodol iddo, geisio osgoi ffurfioldeb yn ei drafodion; ac

(c)ni fydd wedi'i glymu gan unrhyw ddeddfiad neu reol cyfraith yn ymwneud â derbynioldeb tystiolaeth gerbron llysoedd barn.

Tystiolaeth: cyffredinol

35.—(1Mae'r rheoliad hwn yn berthnasol i wybodaeth a gyflenwir yn unol â rheoliadau o dan adran 13 neu Atodlen 2 i Ddeddf 1992.

(2Yn ddarostynedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, bydd gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn berthnasol iddi yn dderbyniol mewn unrhyw achos perthnasol fel tystiolaeth o unrhyw ffaith a nodir ynddi; a chymerir fod unrhyw ddogfen sy'n honni cynnwys gwybodaeth o'r fath, oni ddangosir yn wahanol—

(a)wedi'i chyflwyno gan y person yr honnir iddi gael ei chyflwyno ganddo; ac

(b)y cyflwynwyd hi gan y person hwnnw ym mha fodd bynnag yr honnir iddi gael ei chyflwyno.

(3Ni ddylai gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn berthnasol iddi gael ei defnyddio mewn unrhyw achosion perthnasol gan awdurdod bilio oni fo—

(a)dim llai na phythefnos o rybudd, yn nodi'r wybodaeth sydd i'w defnyddio yn y fath fodd a'r annedd neu'r person y mae'n ymwneud â hi, wedi'i roi'n flaenorol i bob parti arall yn yr achos; a

(b)bod unrhyw berson sydd wedi rhoi dim llai na 24 awr o rybudd o fwriad y person hwnnw i wneud hynny wedi derbyn caniatâd gan yr awdurdod hwnnw ar unrhyw amser rhesymol—

(i)i archwilio'r dogfennau a chyfryngau eraill y delir y wybodaeth ynddynt neu arnynt; a

(ii)i wneud copi o unrhyw ddogfen neu unrhyw ddarn o ddogfen yn cynnwys y fath wybodaeth.

(4Os nad yw unrhyw wybodaeth y mae angen sicrhau ei bod ar gael i'w harchwilio'n unol â'r rheoliad hwn ar gael ar ffurf dogfen, bodlonir y ddyletswydd i sicrhau ei bod ar gael felly os sicrheir fod allbrint, ffotograff neu atgynhyrchiad arall o'r ddogfen a gafwyd o'r cyfrwng storio a fabwysiadwyd mewn perthynas â'r ddogfen, ar gael i'w archwilio.

(5Yn y rheoliad hwn ystyr “achos(ion) perthnasol” (“relevant proceedings”) yw unrhyw achos(ion) ar, neu o ganlyniad i apêl, ac unrhyw achos(ion) ar neu o ganlyniad i gyfeirio i gyflafareddiad o dan reoliad 42.

Tystiolaeth o restrau a dogfennau eraill

36.—(1Gellir profi cynnwys rhestr drwy ddangos copi ohoni, neu o'r rhan berthnasol, yr honnir yr ardystiwyd iddo fod yn gopi cywir gan y swyddog rhestru.

(2Gellir profi cynnwys hysbysiad cwblhau drwy ddangos copi ohono yr honnir ardystiwyd iddo fod yn gopi cywir gan y swyddog priodol o'r awdurdod bilio.

(3Ym mharagraff (2) mae gan “swyddog priodol” (“proper officer”) yr un ystyr ag yn Neddf Llywodraeth Leol 1972(1)).

Penderfyniadau ar apeliadau

37.—(1Caiff apêl ei phenderfynu gan fwyafrif yr aelodau sy'n cymryd rhan; a lle (yn unol â rheoliad 34(2)), y penderfynir arni gan ddau aelod ac nad oes modd iddynt gytuno, rhaid iddi gael ei hanfon yn ôl gan y Clerc i'w phenderfynu gan Dribiwnlys yn cynnwys tri aelod gwahanol.

(2Lle penderfynir ar apêl ar sail gwrandawiad, gall penderfyniad y Tribiwnlys gael ei ohirio neu ei roi ar lafar ar derfyn y gwrandawiad.

(3Yn ddarostynedig i baragraff (4) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i benderfyniad gael ei wneud, rhaid iddo—

(a)yn achos penderfyniad a roddwyd ar lafar, gael ei gadarnhau,

(b)yn unrhyw achos arall, gael ei gyfleu,

drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r partïon; a rhaid anfon datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad, gyda'r hysbysiad.

(4Ni fydd unrhyw beth ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi i barti os byddai'n ail-adrodd unrhyw ddogfen a gyflwynwyd i'r person hwnnw yn unol â rheoliad 41.

(5Yn achos apêl yn erbyn hysbysiad cwblhau, rhaid i'r Clerc anfon hysbysiad o'r penderfyniad i'r swyddog rhestru a benodir ar gyfer yr awdurdod bilio sy'n barti i'r apêl.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o Dribiwnlys a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 34.

Gorchmynion

38.—(1Pan benderfynir ar apêl neu ar ôl penderfynu arni, caiff y Tribiwnlys, o ganlyniad i'r penderfyniad, fynnu drwy orchymyn—

(a)i amcangyfrif gael ei ddileu neu ei ddiwygio;

(b)i gosb gael ei dileu;

(c)i benderfyniad awdurdod bilio gael ei wrth-droi;

(ch)i gyfrifiad (ar wahân i amcangyfrif) o swm gael ei ddirymu, gan ail-gyfrifo'r swm.

(2Caiff gorchymyn fynnu y rhoddir sylw i unrhyw fater sy'n atodol i'r pwnc sydd dan sylw ganddo.

Adolygu penderfyniadau

39.—(1Yn ddarostynedig i baragraffau (2) a (3) bydd gan Dribiwnlys a gyfansoddwyd fel y darperir ym mharagraff (4) hawl, ar dderbyn cais ysgrifenedig gan barti, i adolygu neu roi o'r neilltu drwy dystysgrif dan law'r aelod sy'n llywyddu—

(a)unrhyw benderfyniad ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllwyd ym mharagraff (5), a

(b)penderfyniad ar apêl yn erbyn hysbysiad cwblhau ar y sail ychwanegol a grybwyllir ym mharagraff (6).

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan benderfynwyd apêl yn erbyn y penderfyniad dan sylw gan yr Uchel Lys.

(3Caiff cais o dan baragraff (1) ei wrthod oni wneir ef o fewn y cyfnod o bedair wythnos gan ddechrau ar y diwrnod pryd y rhoddir hysbysiad (boed yn unol â rheoliad 37(3) neu reoliad 40(3)) o'r penderfyniad dan sylw.

(4Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bydd y Tribiwnlys a benodir i adolygu'r penderfyniad yn cynnwys yr un aelodau ag a oedd ar y Tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad.

(5Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—

(a)y gwnaed y penderfyniad yn anghywir o ganlyniad i gamgymeriad clerigol;

(b)na fu i barti ymddangos, ac y gall ddangos rheswm rhesymol pam na wnaeth y parti hynny; ac

(c)yr effeithir ar y penderfyniad gan benderfyniad gan neu ar apêl o'r Uchel Lys neu'r Tribiwnlys Tir mewn perthynas ag apêl ynglŷn ag annedd, neu yn ôl y digwydd, berson a oedd yn destun penderfyniad y Tribiwnlys.

(6Y seiliau a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yw bod tystiolaeth newydd, na ellid bod wedi sicrhau ei bodolaeth drwy ymchwil rhesymol drylwyr, na'i rhagweld, wedi dod ar gael ers terfyn yr achos y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef.

(7Os bydd Tribiwnlys yn gosod penderfyniad o'r neilltu yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid iddo ddirymu unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw a rhaid iddo orchymyn ail wrandawiad neu ailbenderfyniad gerbron un ai'r un Tribiwnlys neu un gwahanol.

(8Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol hysbysu'r partïon i'r apêl yn ysgrifenedig am—

(a)benderfyniad na fydd y Tribiwnlys yn ymgymryd ag adolygiad dan baragraff (1);

(b)penderfyniad y Tribiwnlys, wedi iddo gynnal adolygiad dan baragraff (1), na fydd yn rhoi o'r neilltu'r penderfyniad dan sylw;

(c)dyroddi unrhyw dystysgrif o dan baragraff (1); a

(ch)dirymu unrhyw orchymyn o dan baragraff (7).

(9Yng nghyswllt penderfyniad y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1), lle bo apêl i'r Uchel Lys yn parhau heb ei phenderfynu ar y diwrnod perthnasol, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Uchel Lys cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol yn dilyn y digwyddiad perthnasol.

(10Ym mharagraff (9)—

ystyr “diwrnod perthnasol” (“the relevant day”) yw'r diwrnod pryd, yn ôl y digwydd,—

(a)

y gwneir y cais o dan baragraff (1);

(b)

y digwydd y digwyddiad y cyfeirir ato yn unrhyw un o'r is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (8); ac

ystyr “y digwyddiad perthnasol” (“the relevant event”) mewn perthynas â diwrnod perthnasol, yw'r digwyddiad sy'n digwydd ar y diwrnod hwnnw.

(11Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o Dribiwnlys a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 34.

Cofnodion o benderfyniadau, ayb

40.—(1Dyletswydd y Clerc fydd gwneud trefniadau i bob penderfyniad, pob gorchymyn a wneir o dan reoliad 38 ac effaith pob tystysgrif a dirymiad o dan reoliad 39, gael eu cofnodi.

(2Ceir cadw cofnodion ar unrhyw ffurf, boed ddogfennol neu fel arall, a rhaid iddynt gynnwys y manylion a nodir yn Atodlen 2 isod.

(3Rhaid i gopi, ar ffurf dogfen, o'r nodyn perthnasol yn y cofnod, gael ei anfon i bob parti i'r apêl y mae'r cofnod yn berthnasol iddi, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.

(4Rhaid cadw pob cofnod am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau o'r dyddiad y gwnaed nodyn ynddo ddiwethaf.

(5Caiff unrhyw berson, ar amser rhesymol a nodir gan neu ar ran y Tribiwnlys dan sylw, a heb dalu, archwilio'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan baragraff (1).

(6Os bydd person sydd yng ngofal y cofnod, heb esgus rhesymol yn rhwystro'n fwriadol berson rhag gweithredu'r hawl a roddir gan baragraff (5), bydd y person hwnnw'n agored, ar dderbyn euogfarn ddiannod, i ddirwy dim uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

(7Caiff yr aelod a lywyddodd yn y gwrandawiad neu pan benderfynwyd apêl, awdurdodi cywiro unrhyw gamgymeriad clerigol yn y cofnod, a rhaid i gopi o'r cofnod wedi'i gywiro gael ei anfon i'r personau yr anfonwyd copi o'r cofnod gwreiddiol iddynt.

(8Bydd dangos, yn unrhyw achos yn unrhyw lys barn, ddogfen yr honnir yr ardystiwyd iddi fod yn gopi cywir gan Glerc Tribiwnlys o gofnod neu benderfyniad y Tribiwnlys hwnnw, oni phrofir i'r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o'r ddogfen a'r ffeithiau a gofnodir ynddi.

Apeliadau

41.—(1Bydd apêl yn mynd i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol yn codi o benderfyniad neu orchymyn a roddir neu a wneir gan Dribiwnlys ar apêl, a ceir gwneud hynny gan unrhyw barti i'r apêl.

(2Yn ddarostynedig i baragraff (3), ceir gwrthod apêl dan baragraff (1) oni wneir hi o fewn pedair wythnos i'r dyddiad pryd y rhoddir hysbysiad o'r penderfyniad neu'r gorchymyn sy'n destun yr apêl.

(3Lle—

(a)mewn perthynas â chais dan baragraff (1) o reoliad 39 a wnaed o fewn pedair wythnos i ddyddiad pryd y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad sy'n destun yr apêl, y rhoddir hysbysiad fel y crybwyllir ym mharagraff (8)(a) y rheoliad hwnnw, neu

(b)y rhoddir hysbysiad fel y crybwyllir ym mharagraff (8)(b) y rheoliad hwnnw,

ceir gwrthod yr apêl oni wneir hi o fewn pedair wythnos i gyflwyno'r hysbysiad dan y paragraff (8)(a) neu (b) hwnnw.

(4Caiff yr Uchel Lys gadarnhau, amrywio, gosod o'r neilltu, dirymu neu ddileu unrhyw orchymyn y gallai'r Tribiwnlys fod wedi'i wneud.

(5Rhaid i awdurdodau bilio weithredu'n unol ag unrhyw orchymyn a wnaed gan yr Uchel Lys; a bydd paragraff 10A o Atodlen 11 i Ddeddf 1988 yn effeithiol yn ddarostynedig i'r gofyniad hwn.

Cymrodeddu

42.—(1Ar unrhyw adeg cyn dechrau gwrandawiad neu ystyriaeth o sylwadau ysgrifenedig gan Dribiwnlys, lle cytunir yn ysgrifenedig rhwng y personau a fyddai'n bartïon i'r apêl, pe digwyddai i anghydfod fod yn destun apêl i'r Tribiwnlys, cyfeirir y mater i gymrodeddiad.

(2Bydd adran 94 o Ddeddf Cyflafareddu 1996(2) yn effeithiol at ddibenion cyfeirio cwestiwn yn unol â'r rheoliad hwn, fel pe bai'r cyfeiriad yn un o gymrodeddiad o dan Ddeddf arall o fewn ystyr yr adran honno.

(3Yn unrhyw gymrodeddu yn unol â'r rheoliad hwn, gall y dyfarniad gynnwys unrhyw orchymyn allai fod wedi'i wneud gan Dribiwnlys mewn perthynas â'r cwestiwn, a bydd paragraff 10A o Atodiad 11 i Ddeddf 1988 yn berthnasol i orchymyn o'r fath fel y mae'n berthnasol i orchmynion a gofnodwyd yn unol â'r Rhan hon.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill