xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5. Ar 3 Ionawr 2006 sefydlir Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru. Bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n cynnwys y Tribiwnlysoedd Prisio a sefydlir o dan reoliad 11.
6. Ar 3 Ionawr 2006 sefydlir Cyngor Llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.
7. Yn ddarostynedig i reoliadau 19 a 20 bydd swyddogaethau Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru dan y Rheoliadau hyn yn cael eu gweithredu ar ei ran gan ei Gyngor Llywodraethu.
8. Aelodaeth y Cyngor Llywodraethu fydd:
(a)Llywyddion y Tribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru a benodir yn unol â rheoliad 14;
(b)unrhyw berson a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan reoliad 9.
9. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benodi un person i fod yn aelod o'r Cyngor Llywodraethu.
10.—(1) Yn ddarostynedig i baragraff (2), o fewn y cyfnod a bennir, rhaid i aelodau'r Cyngor Llywodraethu, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn, benodi person i fod yn Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu a phenodi person i fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu.
(2) Rhaid i'r personau sydd i'w penodi dan y rheoliad hwn fod yn aelodau o'r Cyngor Llywodraethu ac o Dribiwnlys Prisio.
(3) Penderfynir ar y personau sydd i'w penodi drwy fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd, gyda phob aelod o'r Cyngor Llywodraethu'n cael un bleidlais.
(4) Pan gynhelir etholiad dan baragraff (3), a bod y canlyniad yn un cyfartal, penderfynir pa bersonau sydd i'w penodi o blith y rhai gyda nifer cyfartal o bleidleisiau, drwy fwrw coelbren.
(5) Ni chynhelir unrhyw etholiad arall i benodi Cyfarwyddwr neu Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu, ar wahân i yn unol â'r rheoliad hwn cyn terfyn pythefnos gan ddechrau ar y dyddiad pryd y dyroddir hysbysiad am yr etholiad gan y Prif Weithredwr yn unol â pharagraff (6).
(6) Rhaid i'r hysbysiadau sy'n ofynnol o dan baragraff (5) gael eu cyflwyno i bob person sy'n aelod o'r Cyngor Llywodraethu a rhaid i'r hysbysiadau hynny gael eu cyflwyno ar y dyddiad byddant yn cael eu cyhoeddi.
(7) Lle, ar derfyn y cyfnod a bennir, na chynhaliwyd etholiad yn unol â darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Cyngor Llywodraethu yr ystyria'n addas, ac yn ddarostynedig i baragraff (2), yn penodi un o'u plith i fod yn Gyfarwyddwr a/neu Ddirprwy Gyfarwyddwr fel y bo'n briodol.
(8) Bydd y Cyfarwyddwr a'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn ddeiliaid y swydd hyd nes y bydd pa un bynnag o'r canlynol yn digwydd gyntaf—
(a)terfyn cyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad pryd y cychwynnodd y Cyfarwyddwr neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr ar ei swydd;
(b)nad yw'r Cyfarwyddwr neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn aelod o'r Cyngor Llywodraethu mwyach;
(c)hysbysiad o ymddiswyddiad y Cyfarwyddwr neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr o dan baragraff (9) yn dod i rym;
(ch)hysbysiad terfynu o dan baragraff (10) yn dod i rym.
(9) Caiff Cyfarwyddwr neu Ddirprwy Gyfarwyddwr ymddiswyddo drwy roi hysbysiad o ddim llai nag un mis yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(10) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Cyngor Llywodraethu yr ystyria'n addas, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cyfarwyddwr a/neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr, fel y bo'n briodol, derfynu eu cyfnod yn y swydd.
(11) Os nad oes modd i Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu, oherwydd gwaeledd neu absenoldeb neu unrhyw reswm arall, gyflawni swyddogaethau dan y Rheoliadau hyn, yna bydd y swyddogaethau hynny, gydag awdurdod ysgrifenedig y Cyfarwyddwr, neu os na all y Cyfarwyddwr ei ddarparu, y Prif Weithredwr, yn cael eu cyflawni gan Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu.
(12) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfnod a bennir” (“prescribed period”) yw un mis gan ddechrau o 3 Ionawr 2006, neu dri mis o'r dyddiad pryd y daw swydd wag ar gael;
ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).
11.—(1) Sefydlir Tribiwnlys Prisio ar gyfer pob un o'r ardaloedd a nodir yng ngholofn 1 o Atodlen 1.
(a)(2) (a) Bydd pob Tribiwnlys yn dwyn yr enw a roddir iddo yng ngholofn 2 o Atodlen 1.
(b)Dangosir enw Cymraeg pob Tribiwnlys Prisio yng ngholofn 2 o Atodlen 1 yn union ar ôl yr enw Saesneg.
12.—(1) Bydd y canlynol yn aelodau Tribiwnlys Prisio a sefydlir o dan reoliad 11, yn ddarostynedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn,;
(a)rhai a benodir gan y cynghorau a nodwyd yn benodol mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio hwnnw yng ngholofn 4 o Atodlen 1 (“y cynghorau”) a'r Llywydd ar y cyd, a
(b)rhai a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio.
(2) Uchafswm y nifer o aelodau y gall y cynghorau a'r Llywydd eu penodi yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio hwnnw yng ngholofn 3 o Atodlen 1, ac uchafswm y nifer o aelodau y gall cyngor a'r Llywydd eu penodi yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 5 o Atodlen 1.
(3) Isafswm y nifer o aelodau y mae'n rhaid i'r cynghorau a'r Llywydd eu penodi yw dwy ran o dair o'r nifer a bennir mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio hwnnw yng ngholofn 3 o Atodlen 1, ac isafswm y nifer o aelodau y mae'n rhaid i gyngor a'r Llywydd eu penodi yw dwy ran o dair o'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 5 o Atodlen 1.
(4) Yn ddarostynedig i reoliad 13(2), ar 3 Ionawr 2006, bydd pob aelod o hen Dribiwnlys a benodir gan Gyngor a Llywydd yr hen Dribiwnlys hwnnw'n cael eu penodi'n aelodau o'r Tribiwnlys Prisio ar gyfer yr ardal yr oedd yr hen Dribiwnlys yn gweithredu ynddi'n flaenorol.
(5) I bwrpas y rheoliad hwn, ystyrir penodiadau a wnaed dan baragraff (4) fel pe baent wedi'u gwneud gan y cyngor a benododd yr aelod i wasanaethu ar yr hen Dribiwnlys, a'r Llywydd.
(6) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benodi aelodau i bob Tribiwnlys Prisio a enwir yng ngholofn 2 o Atodlen 1.
(7) Ar 3 Ionawr 2006, bydd pob aelod o hen Dribiwnlys a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu penodi'n aelodau o'r Tribiwnlys Prisio ar gyfer yr ardal yr oedd yr hen Dribiwnlys hwnnw'n gweithredu ynddo'n flaenorol.
(8) Ar derfyn tri mis ers i sedd ddod yn wag ar Dribiwnlys Prisio, lle bo cyngor a Llywydd y Tribiwnlys Prisio wedi methu â gwneud penodiad yn unol â pharagraff (1), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud y penodiad hwnnw, yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio.
(9) Ni fydd unrhyw benodiad o dan baragraff (1) yn ddilys, os bydd ei effaith yn golygu fod y nifer o aelodau o'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd ac sy'n aelodau o'r cyngor, yn uwch na'r un rhan o dair o gyfanswm aelodau'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd.
(10) Ni ddylid dehongli fod paragraff (9) yn effeithio ar ddilysrwydd penodiad aelod o Dribiwnlys Prisio sy'n dod yn aelod o gyngor ar ôl i benodiad y person hwnnw ddod i rym.
(11) Ni ddylid dehongli fod paragraff (9) yn effeithio ar ddilysrwydd penodiad aelod o Dribiwnlys Prisio a oedd, ac sy'n parhau'n aelod o gyngor, os, ar yr adeg y daeth penodiad y person hwnnw i rym, nad oedd y nifer o aelodau o'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd, a oedd yn aelodau o'r cyngor, yn fwy na chyfanswm y nifer o aelodau'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd.
(12) Os bydd nifer yr aelodau o Dribiwnlys Prisio, a benodir gan gyngor a'r Llywydd, sy'n aelodau o'r cyngor hwnnw, yn uwch nag un rhan o dair o gyfanswm aelodau'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd, rhaid i'r cyngor hwnnw a'r Llywydd, o fewn chwe mis, wneud y fath benodiadau ar y cyd ag sy'n angenrheidiol dan baragraff (1)(a) i alluogi penodiadau'r cyngor hwnnw a'r Llywydd dan baragraff (1)(a) i gydymffurfio â pharagraff (9) y rheoliad hwn.
(13) Ar derfyn tri mis, pan fo cyngor a'r Llywydd wedi methu â gwneud y fath benodiadau ag sydd angen yn unol â pharagraffau (1)(a) a (12), caiff y penodiadau hynny eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio hwnnw.
13.—(1) Bydd aelodau a benodir o dan reoliad 12(4) a (7) yn dal y swydd hyd ddiwedd y cyfnod a bennir gan—
(a)gyngor a Llywydd yr hen Dribiwnlys; neu
(b)Gynulliad Cenedlaethol Cymru
a wnaeth y penodiad.
(2) Bydd penodiad pob aelod yn parhau am ba gyfnod bynnag a bennir gan y person neu'r personau sy'n gwneud y penodiad, ond ddim hwy na chwe blynedd, yn dilyn ymgynghori, yn achos penodiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, â Llywydd y Tribiwnlys Prisio.
(3) Bydd pob aelod yn dal y swydd hyd nes i ba un bynnag o'r canlynol ddigwydd gyntaf—
(a)terfyn y cyfnod a bennir dan baragraff (2);
(b)hysbysiad o dynnu enw'r aelod ymaith dan baragraff (4) neu (5) yn dod i rym;
(c)bod yr aelod yn dod yn anghymwys i ddal aelodaeth, yn unol â'r ddarpariaeth yn rheoliad 16;
(ch)bod yr aelod yn ymddiswyddo drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd.
(4) Rhaid i'r Prif Weithredwr, os cyfarwyddir ef felly gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori â'r cyngor a chyda Llywydd Tribiwnlys Prisio, drwy gyfrwng hysbysiad ysgrifenedig, yn rhoi i'r aelod hwnnw ba gyfnod o hysbysiad bynnag a gyfarwyddir, fod ei gyfnod yn y swydd i'w derfynu dan y paragraff hwn.
(5) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio, roi i unrhyw aelod a benodir ganddo hysbysiad ysgrifenedig yn nodi pa gyfnod o hysbysiad bynnag, ag a benderfynir ganddo, o derfynu swydd.
(6) Pan benodir aelod yn Llywydd neu Gadeirydd Tribiwnlys Prisio yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac y byddai hyd aelodaeth yr aelod hwnnw o'r Tribiwnlys Prisio'n dod i ben drwy weithredu paragraff (3)(a), bydd aelodaeth yr aelod hwnnw'n parhau, ac eithrio i bwrpas rheoliadau 14(3), 15(3) a 15(12) am gyfnod a ddaw i ben gyda therfyn y cyfnod a bennir ar gyfer ethol Llywydd i lenwi'r swydd wag dan reoliad 14, neu Gadeirydd i lenwi'r swydd wag dan reoliad 15, yn ôl y digwydd, neu pan fo etholiad Llywydd neu Gadeirydd yn cael ei gynnal, yn ôl y digwydd, pa un bynnag ddaw gyntaf, ac y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel y “cyfnod interim”.
(7) Pan fo aelodaeth Llywydd neu Gadeirydd yn parhau yn ystod y cyfnod interim yn unol â pharagraff (6), cyfyd lle gwag i bwrpas y Rheoliadau hyn yn achos Llywydd, ar gyfer aelod, Cadeirydd a Llywydd, ac yn achos Cadeirydd, am aelod a Chadeirydd, o ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), ac yn benodol, o'r dyddiad hwnnw ni fydd y Llywydd neu'r Cadeirydd hwnnw, yn rhinwedd gweithredu'r paragraff hwn, yn un o'r nifer o aelodau a bennir yn unol â rheoliad 12(2) nac yn un o'r nifer o aelodau i'w penodi'n Gadeirydd, a bennir dan reoliad 15(1).
(8) Yn y rheoliad hwn, mae “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yn golygu Prif Weithredwr interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).
14.—(1) Ar 3 Ionawr 2006, bydd pob Llywydd ar hen Dribiwnlys yn cael ei benodi'n Llywydd y Tribiwnlys Prisio dros yr ardal y gweithredai'r hen Dribiwnlys ynddo.
(2) O fewn tri mis gan ddechrau gyda lle gwag yn swydd y Llywydd, rhaid i aelodau Tribiwnlys Prisio'r Llywydd hwnnw, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn, benodi person i fod yn Llywydd y Tribiwnlys Prisio hwnnw.
(3) Rhaid i'r person a benodir fod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio ac fe'i pennir drwy etholiad, drwy fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd, gyda phob aelod yn cael un bleidlais.
(4) Pan gynhelir etholiad o dan baragraff (3) neu (11), a bod y canlyniad yn un cyfartal, penderfynir pa berson sydd i'w benodi o blith yr ymgeiswyr gyda nifer cyfartal o bleidleisiau, drwy fwrw coelbren.
(5) Ni chynhelir etholiad i benodi Llywydd yn unol â'r rheoliad hwn cyn terfyn pythefnos gan ddechrau ar ddiwrnod cyhoeddi hysbysiad o'r etholiad yn unol â pharagraff (6) gan y Prif Weithredwr. Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw etholiad gan fodolaeth lle gwag ymysg aelodau'r Tribiwnlys Prisio.
(6) Rhaid i'r hysbysiad sy'n ofynnol o dan baragraff (5) gael ei gyflwyno i bob person sy'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio a rhaid i'r hysbysiad hwnnw gael ei gyflwyno ar y dyddiad y bydd yn cael ei gyhoeddi.
(7) Ar derfyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2), pan na chynhaliwyd etholiad yn unol â darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Tribiwnlys Prisio ag yr ystyria'n addas, benodi un o aelodau'r Tribiwnlys Prisio i fod yn Llywydd.
(8) Bydd y Llywydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes y bo pa un bynnag o'r canlynol yn digwydd gyntaf—
(a)terfyn y cyfnod interim y cyfeirir ato yn rheoliad 13(6);
(b)bod y Llywydd hwnnw'n peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;
(c)hysbysiad o ymddiswyddiad y Llywydd hwnnw o dan baragraff (9) yn dod i rym;
(ch)hysbysiad terfynu dan baragraff (10) yn dod i rym.
(9) Caiff Llywydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad o ddim llai nag un mis yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(10) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Tribiwnlys Prisio ag yr ystyria'n addas, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd, derfynu cyfnod y Llywydd hwnnw yn y swydd.
(11) Os nad oes modd i'r Llywydd, oherwydd gwaeledd neu absenoldeb neu unrhyw reswm arall, gyflawni swyddogaethau'r Llywydd dan y rheoliadau hyn, yna bydd y swyddogaethau hynny, gydag awdurdod ysgrifenedig y Llywydd, neu os na all y Llywydd ei ddarparu, y Prif Weithredwr, yn cael eu cyflawni gan un o Gadeiryddion y Tribiwnlys Prisio a benodir i'r diben hwn gan aelodau'r Tribiwnlys Prisio ac a etholwyd ganddynt drwy fwyafrif syml o bleidleisiau a fwriwyd, gyda phob aelod yn cael un bleidlais.
(12) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “Llywydd hen Dribiwnlys” (“President of an old Tribunal”) yw Llywydd hen Dribiwnlys sydd yn ei swydd ar 14 Chwefror 2006;
ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).
15.—(1) Ar 3 Ionawr 2006, bydd pob cadeirydd ar hen Dribiwnlys yn cael ei benodi i swydd Cadeirydd Tribiwnlys Prisio dros yr ardal y gweithredai'r hen Dribiwnlys ynddo.
(2) Yn ddarostynedig i baragraff (1), pennir y nifer o aelodau Tribiwnlys Prisio sydd i'w penodi i swydd Cadeirydd, gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i Gymru.
(3) Bydd y Llywydd yn un o'r Cadeiryddion a rhaid i aelodau Tribiwnlys Prisio, yn unol â'r rheoliad hwn, benodi gweddill nifer y Cadeiryddion o fewn y cyfnod a bennir, drwy etholiad ymhlith eu haelodau.
(4) Ni chynhelir etholiad yn unol â'r rheoliad hwn cyn terfyn pythefnos gan ddechrau ar ddiwrnod dyroddi hysbysiad o'r etholiad yn unol â pharagraff (5) gan y Prif Weithredwr.
(5) Rhaid i'r hysbysiadau sy'n ofynnol o dan baragraff (4) gael eu cyflwyno i bob person sy'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio a rhaid i'r hysbysiadau hynny gael eu cyflwyno ar y dyddiad y byddant yn cael eu cyhoeddi.
(6) Yr aelodau a benodir yn Gadeiryddion fydd y nifer priodol o aelodau sydd â'r nifer uchaf o bleidleisiau o'u plaid.
(7) I bwrpas paragraff (6) bydd gan bob aelod nifer o bleidleisiau yn cyfateb i'r nifer priodol, ac ni chaniateir iddynt fwrw ond un bleidlais dros bob ymgeisydd, a lle, mewn perthynas ag unrhyw le gwag, bod y canlyniad yn gyfartal, bydd y person neu'r personau sydd i'w penodi o blith yr ymgeiswyr â nifer cyfartal o bleidleisiau yn cael eu penderfynu drwy fwrw coelbren.
(8) Ar derfyn y cyfnod a bennir, pan nad oes etholiad wedi digwydd yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â'r Llywydd, benodi nifer priodol o aelodau i fod yn Gadeiryddion.
(9) Bydd Cadeirydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes y bo pa un bynnag o'r canlynol yn digwydd gyntaf—
(a)terfyn y cyfnod interim y cyfeirir ato yn rheoliad 13(6);
(b)bod y Cadeirydd hwnnw'n peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;
(c)bod y Cadeirydd hwnnw'n ymddiswyddo drwy rybudd ysgrifenedig i'r Llywydd;
(ch)rhybudd terfynu dan baragraff (10) yn dod i rym.
(10) O ran y Llywydd—
(a)caiff, wedi iddo ymgynghori â phob un o Gadeiryddion eraill y Tribiwnlys Prisio, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gadeirydd, derfynu swydd y Cadeirydd hwnnw; a
(b)rhaid iddo, os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i Gadeirydd, yn terfynu swydd y Cadeirydd hwnnw, ac a fydd yn dod i rym ar derfyn pa gyfnod bynnag y cyfarwyddir felly.
(11) Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (10)(b) rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori â'r Llywydd.
(12) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cadeirydd hen Dribiwnlys” (“chairman of an old Tribunal”) yw cadeirydd hen Dribiwnlys sydd yn ei swydd ar 14 Chwefror 2006;
ystyr “cyfnod a bennir” (“the prescribed period”) yw tri mis gan ddechrau gyda lle gwag yn dod ymysg y nifer a nodwyd, neu le gwag o'r fath a fyddai'n dod oni bai am gymhwyso rheoliad 13(6), yn ôl y digwydd;
ystyr “nifer a bennir” (“the determined number”) yw'r nifer a nodwyd gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn unol â pharagraff (2);
ystyr “nifer priodol” (“the appropriate number”) yw'r nifer a bennir wedi tynnu'r nifer o bersonau sydd ar am y tro yn dal swydd Cadeirydd;
ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).
16.—(1) Bydd person yn cael ei wahardd rhag cael ei benodi neu rhag parhau'n aelod o Dribiwnlys Prisio os—
(a)yw'r person hwnnw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr; neu
(b)fod y person hwnnw wedi gwneud trefniant gyda chredydwyr, neu
(c)fod y person hwnnw yn ystod y pum mlynedd yn union cyn penodiad y person hwnnw, neu ers penodiad y person hwnnw, wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, ac y gorchmynnwyd iddo gael ei garcharu am gyfnod o dri mis neu fwy heb yr opsiwn o gael dirwy, boed y ddedfryd honno'n ohiriedig ai peidio; neu
(ch)fod y person hwnnw wedi'i wahardd am y tro rhag bod yn aelod o awdurdod lleol; neu
(d)fod y person hwnnw neu ei gymar neu bartner sifil yn gyflogai neu'n dod yn gyflogai i'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i Gymru.
(2) Bydd gwaharddiad sy'n gysylltiedig â pherson oherwydd paragraff (1)(a) yn dod i ben—
(a)oni fo gorchymyn methdaliad a wnaed yn erbyn y person hwnnw wedi'i ddirymu'n flaenorol, ar y diwrnod pryd y rhyddheir y person hwnnw o fethdaliad; neu
(b)os diddymir y gorchymyn methdaliad, yna ar y diwrnod y diddymir ef.
(3) Bydd gwaharddiad sy'n gysylltiedig â pherson oherwydd paragraff (1)(b) yn dod i ben—
(a)os bydd y person hwnnw'n talu dyledion y person hwnnw'n llawn, ar y dyddiad pryd y cwblheir y taliad; neu
(b)yn unrhyw achos arall, ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad pryd y cyflawnir telerau'r weithred gompowndio neu'r trefniant.
(4) At ddibenion paragraff (1)(c) ystyrir mai'r dyddiad cyffredin pryd y daw'r cyfnod a ganiateir ar gyfer apelio i ben, neu, os gwneir apêl o'r fath, y dyddiad pryd y penderfynir yn derfynol arni, neu y rhoir gorau iddi, neu ei bod yn methu oherwydd methiant i erlyn, fydd dyddiad yr gollfarn.
(5) I ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod o Dribiwnlys Prisio” (“member of a Valuation Tribunal”) yw aelod—
(a)o Dribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 12; neu
(b)o Gyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 8.
17.—(1) Bydd gan aelodau hawl i ba lwfansau teithio, cynhaliaeth ac eraill ag y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu pennu o dro i dro.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o Dribiwnlys Prisio neu aelod o Gyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.