Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L25, 8.2.2005, t.1), (“Rheoliad 183/2005”) a Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1), (“Rheoliad 178/2002”), a hefyd yn gwneud darpariaethau ynglŷn â gweinyddu cyffredinol, yn arbennig er mwyn rhoi effaith i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â rheolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y dilysir cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), (“Rheoliad 882/2004”).

2.  Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â gweithredu a gorfodi Rheoliad 183/2005, sy'n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 95/69/EC a Chyfarwyddeb y Comisiwn 98/51/EC. (Gweithredwyd y Cyfarwyddebau hynny yn y Deyrnas Unedig drwy Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S.1999/1872) yn bennaf.) Mae Rheoliad 183/2005 yn darparu y dylai bron pob busnes sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid, yn masnachu ynddo neu'n ei ddefnyddio, naill ai gael ei gofrestru, neu fel y digwydd, ei gymeradwyo, gan yr awdurdodau cymwys. Nodir y gweithgareddau sydd wedi'u heithrio nad yw Rheoliad 183/2005, ac o ganlyniad, Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn, yn gymwys iddynt yn Erthygl 2 o Reoliad y CE ac maent yn cynnwys—

(a)cynhyrchu'n breifat yn y cartref fwyd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cadw ar gyfer eu bwyta neu a gedwir ar gyfer eu bwyta'n breifat yn y cartref yn unig;

(b)bwydo anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd;

(c)bwydo anifeiliaid a gedwir ar gyfer eu bwyta'n breifat yn y cartref neu ar gyfer cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bychain o gynhyrchion crai gan y cynhyrchydd i'r defnyddiwr terfynol neu fanwerthwyr lleol;

(ch)cyflenwi'n uniongyrchol, gan y cynhyrchydd, feintiau bychain o fwyd anifeiliaid a gynhyrchir drwy broses sylfaenol, i ffermydd lleol i'w ddefnyddio ar y ffermydd hynny;

(d)manwerthu bwyd anifeiliaid anwes.

3.  Yn benodol gwneir darpariaeth yn Rhan 2 i—

(a)dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion yr amrywiol swyddogaethau y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 183/2005 (rheoliad 4);

(b)nodi'r darpariaethau hynny o Reoliad 183/2005 pan fo methiant i gydymffurfio yn arwain at dramgwydd, a chysylltu cosbau â'r tramgwyddau hynny (rheoliad 5);

(c)nodi'r gofynion y mae'n rhaid iddynt gael eu dilyn gan unrhyw un—

(i)sy'n hysbysu'r awdurdod gorfodi gyda'r bwriad o gofrestru sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 6);

(ii)sy'n gwneud datganiad o gydymffurfiaeth ag amodau Rheoliad 183/2005 (rheoliad 7); neu

(iii)sy'n gwneud cais am gymeradwyo sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 8);

(ch)yn gosod y gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan awdurdod gorfodi wrth—

(i)atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 9);

(ii)codi ataliad dros dros ar gofrestriad neu gymeradwyaeth (rheoliad 10); neu

(iii)dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad busnes bwyd anifeiliaid (rheoliad 11);

(d)gosod y gofynion sydd i'w dilyn gan unrhyw un sy'n gwneud cais i ddiwygio cofrestriad neu gymeradwyaeth (rheoliad 12);

(dd)darparu ar gyfer hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau yn ymwneud â chofrestriadau neu gymeradwyaethau a wneir gan awdurdodau gorfodi (rheoliad 13); a

(e)pennu'r ffioedd sy'n daladwy gan ymgeisydd ar gyfer cymeradwyo neu ddiwygio cymeradwyaeth (rheoliad 14 ac Atodlen 2).

4.  Mae'r Rheoliadau hyn yn Rhan 3 yn dirymu ac yn ail-ddeddfu gyda mân ddiwygiadau y darpariaethau a geid gynt yn Rheoliadau Porthiant (Gofynion Diogelwch ar gyfer Bwyd ar gyfer Anifeiliaid sy'n Cynhyrchu Bwyd) 2004 (O.S. 2004/3254) a ddarparodd ar gyfer gweithredu a gorfodi gofynion diogelwch o ran bwyd anifeiliaid a geir yn Rheoliad 178/2002.

5.  Nid yw'r darpariaethau yn Rhan 3 ond yn gymwys i fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd, ac maent yn ei gwneud yn dramgwydd i dorri amrywiol ddarpariaethau penodedig Rheoliad 178/2002 (rheoliad 15). Y darpariaethau penodedig hynny yw—

(a)Erthygl 12, sy'n pennu o dan ba amodau y gellir allforio bwyd anifeiliaid o Aelod-wladwriaethau i wledydd y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd;

(b)Erthygl 15, sy'n gwahardd marchnata neu fwydo bwyd anifeiliaid anniogel;

(c)Erthygl 16, sy'n mynnu bod yn rhaid i fwyd beidio â chael ei hysbysebu, ei labelu, ei becynnu neu ei gyflwyno fel arall yn y cyfryw fodd ag sy'n camarwain cwsmeriaid;

(ch)Erthygl 18, sy'n ei gwneud yn ofynnol i fusnes bwyd anifeiliaid roi systemau ar waith sy'n ei alluogi i nodi'r person y mae wedi caffael cynnyrch ganddo a'r person y mae'n cyflenwi unrhyw gynnyrch iddo; ac

(d)Erthygl 20, sy'n gosod amrywiol gyfrifoldebau gweithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid, gan gynnwys y ddyletswydd i dynnu bwyd anifeiliaid anniogel yn ôl neu ei adalw, ei ddinistrio os cred yr awdurdod cymwys fod hynny'n angenrheidiol, a throsglwyddo pob darn o wybodaeth berthnasol a chydweithredu'n gyffredinol â'r awdurdod cymwys ac eraill er budd diogelwch bwyd anifeiliaid.

6.  Mae'r Rheoliadau hyn yn Rhan 4 yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a geir mewn nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth fel y'u rhestrir yn Atodlen 1. Wrth wneud hynny mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325), yn ail-ddeddfu gyda diwygiadau y rhan fwyaf o'r darpariaethau a geir yn y Rheoliadau hynny, ac yn cyflwyno darpariaethau eraill sydd eu hangen i gydymffurfio â gofynion Rheoliad 882/2004. Diddymodd y Rheoliad hwnnw gan y CE Gyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n rheoli trefnu archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid, sef Cyfarwyddeb a weithredwyd yn rhannol gan O.S. 1999/2325 y cyfeirir ato uchod.

7.  Yn benodol mae Rhan 4—

(a)yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiad gwella os ymddengys i'r awdurdod gorfodi fod busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio â chyfraith bwyd (rheoliad 17);

(b)yn darparu ar gyfer hawl i apelio i lys yr ynadon yn erbyn hysbysiad gwella, ac yn nodi'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn (rheoliad 18);

(c)yn caniatáu apêl i lys y Goron yn erbyn penderfyniad gan lys ynadon o dan ddarpariaethau penodol y Rheoliadau hyn (rheoliad 19);

(ch)yn pennu pan fo apêl yn cael ei chyflwyno yn erbyn hysbysiad gwella, bod y cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad yn peidio â pharhau tra bod yr apêl yn mynd rhagddi (rheoliad 20);

(d)yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle y caiff llys osod gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid, a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn (rheoliad 21);

(dd)yn darparu i'r awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad gwahardd brys, i'w gadarnhau ai peidio yn ôl y digwydd gan y llys o fewn cyfnod penodedig (rheoliad 22);

(e)yn pennu'r cosbau sy'n gymwys i dramgwyddau mewn perthynas â hysbysiadau gwella, gorchmynion gwahardd, hysbysiadau gwahardd brys a gorchmynion gwahardd brys (rheoliad 23);

(f)yn darparu ar gyfer y pwerau sydd eu hangen i alluogi swyddogion awdurdodedig awdurdodau gorfodi i fynd i mewn i fangreoedd, archwilio bwydydd anifeiliaid, peiriannau ac offer, cofnodion dogfennol etc, a chymryd samplau o fwyd anifeiliaid a chopïau o gofnodion (rheoliad 24);

(ff)yn rhoi'r pŵer i swyddogion awdurdodedig atafaelu a chadw bwyd anifeiliaid yr ymddengys nad yw'n cydymffurfio â chyfraith bwyd, ac yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth ddwyn y mater gerbron llys yr ynadon (rheoliad 25);

(g)yn pennu'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn wrth gyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 26);

(ng)yn nodi'r tramgwyddau penodol yn ymwneud ag arfer pwerau swyddog awdurdodedig, gan gynnwys rhwystro swyddog neu ffugio bod yn swyddog, neu ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol gan swyddog (rheoliad 27); a

(h)yn darparu i awdurdod gorfodi adennill gwariant yr eir iddo o ganlyniad i fethiant busnes bwyd anifeiliaid i gydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid (rheoliad 28).

8.  Yn Rhan 4, mae'r Rheoliadau hyn hefyd—

(a)yn cymhwyso, fel y'u haddaswyd, amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663), (rheoliad 29);

(b)yn gosod gweithdrefnau yn ymwneud â dadansoddi sampl o fwyd anifeiliaid a gymerwyd gan swyddog awdurdodedig (rheoliad 30), ac ail sampl gan labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 31);

(c)yn gwneud darpariaethau cyffredinol pellach yn ymwneud â samplu a dadansoddi gan gynnwys y tramgwydd o ymyrryd â sampl (rheoliad 32);

(ch)yn pennu'r amgylchiadau lle y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benodi personau i weithredu yn lle swyddogion awdurdodedig (rheoliad 33(1)), ac yn gosod amodau ar swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu y tu allan i'w ardal (rheoliad 33(2));

(d)yn darparu ar gyfer cyfyngiadau ar atebolrwydd swyddog awdurdodedig neu ddadansoddwr amaethyddol (rheoliad 34);

(dd)yn gwneud darpariaethau yn ymwneud ag amrywiol amddiffyniadau i dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 35);

(e)yn darparu ar gyfer atebolrwydd personol potensial swyddogion o gyrff corfforaethol neu bartneriaid mewn partneriaethau yn yr Alban sy'n mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn (rheoliad 36);

(f)yn pennu ym mha le y gellir cymryd camau cyfreithiol a'r terfynau amser ar gyfer cychwyn erlyniadau (rheoliad 37); a

(ff)yn dirymu'r Rheoliadau hynny neu'r rhannau o'r Rheoliadau hynny a restrir yn Atodlen 3 (rheoliad 38).

9.  Mae Arfarniad Rheoliadd llawn am yr effaith a gaff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copiau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill