Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

Tramgwyddau, cosbau a gorfodi

15.—(1Mae unrhyw berson sy'n torri darpariaethau penodedig Rheoliad 178/2002 a nodir ym mharagraff (2) neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored i

(a)yn achos paragraff (2)(a) a (b)

(i)ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu'r ddau; neu

(ii)ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu'r ddau;

(b)yn achos is-baragraffau 2(c), (ch), a (d), ar gollfarn ddiannod i garchariad nad yw'n fwy na thri mis neu ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.

(2Y darpariaethau penodedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)Erthygl 12 i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid (allforio neu ail-allforio i drydydd gwledydd);

(b)Erthygl 15, paragraff 1 (gwaharddiad ar osod bwyd anifeiliaid anniogel ar y farchnad neu ei fwydo i unrhyw anifail sy'n cynhyrchu bwyd);

(c)Erthygl 16 i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid (gwaharddiad ar gamarwain drwy labelu, hysbysebu neu gyflwyno);

(ch)Erthygl 18, paragraffau 2 a 3 (gofynion olrhain) i'r graddau y mae'n ymwneud â gweithredwyr busnes bwyd anifeiliaid;

(d)Erthygl 20 (cyfrifoldebau gweithredwyr busnes bwyd anifeiliaid).

(3Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthyglau 15 ac 18 yw'r awdurdod gorfodi ac at ddibenion Erthygl 20 yr awdurdod gorfodi neu'r Asiantaeth.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “bwyd anifeiliaid” yw bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.