- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
19.—(1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle mae gan gynhyrchwr gwota sydd wedi'i gofrestru fel ei gwota/chwota mewn perthynas â daliad sydd —
(a)unrhyw bryd yn ystod blwyddyn gwota yn gyfan neu'n rhannol yn destun hysbysiad a gyflwynwyd, neu ddatganiad a wnaed, o dan orchymyn a wnaed yn unol ag adran 17(1) Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwahardd neu'n rheoleiddio symud gwartheg godro; neu
(b)wedi'i leoli yn gyfan neu'n rhannol o fewn ardal a ddynodwyd, unrhyw bryd yn ystod blwyddyn gwota, gan orchymyn a wnaed yn unol ag adran 1 Deddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985(2).
(2) At ddibenion ailddyrannu cwota y cyfeirir ato yn Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor ac yn ddarostyngedig i baragraff (10), caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud dyfarniad yn ailddyrannu dros dro i gynhyrchwr ran o unrhyw gwota sydd dros ben yn unol â darpariaethau paragraffau (3) i (5).
(3) Dim ond ar gyfer blwyddyn gwota pryd y mae'r hysbysiad, y datganiad neu'r gorchymyn y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn effeithiol neu'n parhau i fod mewn grym y gellir gwneud dyfarniad.
(4) Maint unrhyw gyfryw ddyfarniad yw'r isaf o —
(a)y swm yn cyfateb i 16 litr fesul buwch gymwys fesul diwrnod cymwys yn y flwyddyn gwota y cyfeirir ati ym mharagraff (3); a
(b)y swm yn cyfateb i gynhyrchiant y cynhyrchwr sy'n fwy na'r cwota y mae ganddo neu ganddi hawl iddo yn y flwyddyn gwota honno.
(5) Nid yw dyfarniad a wneir i gynhyrchwr o dan y rheoliad hwn ar gael mewn perthynas â blwyddyn gwota pryd y mae'r cynhyrchwr yn —
(a)trosglwyddo cwota nas defnyddiwyd yn unol â rheoliad 9 neu 13;
(b)trosglwyddo cwota dros dro yn unol â rheoliad 15; neu
(c)prynu buchod neu heffrod cyflo at ddibenion llaeth,
oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon i'r cytundeb i drosglwyddo, trosglwyddo dros dro neu brynu cwota, gael ei wneud cyn cyflwyno'r hysbysiad neu wneud y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu, yn ôl y digwydd, cyn i'r gorchymyn y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) ddod i rym.
(6) Os bydd angen dyraniad cwota dros dro ar gynhyrchwr o dan y rheoliad hwn, mae'n rhaid iddo neu iddi gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.
(7) mae'n rhaid i gais y cyfeirir ato ym mharagraff (6) gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill ar ôl i'r flwyddyn gwota pryd roedd y daliad, neu ran o'r daliad, dan sylw —
(a)yn destun hysbysiad perthnasol neu ddatganiad perthnasol; neu
(b)mewn ardal a oedd wedi'i dynodi drwy orchymyn perthnasol, ddod i ben.
(8) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dyfarnu i gynhyrchwr ailddyraniad dros dro o unrhyw gwota sydd dros ben yn unol â'r rheoliad hwn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr y mae'r cynhyrchwr yn danfon cynnyrch iddo neu iddi o'r ailddyraniad hwnnw.
(9) Dim ond o gyfanswm y cwotâu y cyfeirir atynt yn rheoliad 27(3)(a) a 30(9)(a) y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu ailddyraniad cwota dros dro unwaith y penderfynir ar y cyfanswm o dan y rheoliadau hynny.
(10) Ni fydd heffer gymwys sy'n fuwch gymwys at ddibenion blwyddyn gwota yn fuwch gymwys at ddibenion unrhyw flwyddyn gwota ar ôl hynny.
(11) Yn y rheoliad hwn —
(a)ystyr “heffer gymwys” yw heffer gymwys sy'n bwrw llo am y tro cyntaf ar ddiwrnod lloia perthnasol;
(b)ystyr “buwch gymwys”, at ddibenion blwyddyn gwota, yw heffer gymwys sy'n bwrw llo am y tro cyntaf pan fydd nifer y heffrod cymwys yn fwy na'r rhif cyfnewid, p'un a yw adeg y cyfryw loia yn dod o fewn y flwyddyn gwota honno ai peidio;
(c)ystyr “heffer gymwys” yw heffer a oedd —
(i)ar y dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad perthnasol neu y gwnaed datganiad perthnasol, naill ai ar dir a oedd yn destun yr hysbysiad hwnnw neu, yn ôl y digwydd, y datganiad hwn; neu
(ii)ar y dyddiad y daeth gorchymyn perthnasol i rym, ar dir a oedd yn destun y gorchymyn hwnnw;
(ch)ystyr “diwrnod cymwys”, o ran unrhyw fuwch gymwys, yw'r diwrnod y mae'n bwrw llo a phob diwrnod ar ôl hynny neu ran o ddiwrnod ar ôl hynny pan fydd yr hysbysiad perthnasol, y datganiad perthnasol neu'r gorchymyn perthnasol dan sylw yn effeithiol neu, yn ôl y digwydd, yn parhau i fod mewn grym;
(d)ystyr “datganiad perthnasol” yw datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a);
(dd)ystyr “hysbysiad perthnasol” yw hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a);
(e)ystyr “gorchymyn perthnasol” yw gorchymyn y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b).
(12) Yn y rheoliad hwn, ystyr “diwrnod bwrw llo perthnasol”, o ran heffer gymwys, yw diwrnod sy'n dod —
(a)mewn achos lle mae'r hysbysiad perthnasol, y datganiad perthnasol neu'r gorchymyn perthnasol dan sylw yn effeithiol neu mewn grym am gyfnod sy'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn gwota pryd y'i cyflwynir neu, yn ôl y digwydd, pryd y'i gwneir neu cyn diwedd y flwyddyn gwota honno, o fewn y cyfnod o ddeuddeg mis yn dod i ben ar y dyddiad y mae'r hysbysiad, y datganiadau neu'r gorchymyn hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol neu, yn ôl y digwydd, mewn grym; a
(b)mewn unrhyw achos arall, o fewn y flwyddyn gwota y cyflwynir neu y gwneir yr hysbysiad perthnasol, y datganiad perthnasol neu'r gorchymyn perthnasol neu unrhyw bryd ar ôl hynny pan fydd yr hysbysiad perthnasol, y datganiad perthnasol neu'r gorchymyn perthnasol yn effeithiol neu mewn grym.
(13) Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhif cyfnewid” yw'r cyfanrif agosaf i 20% o gyfanswm y buchod llaeth ar dir —
(a)mewn achos lle mae'r tir yn destun hysbysiad perthnasol neu ddatganiad perthnasol, ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad neu'r datganiad hwnnw; neu
(b)mewn achos lle mae'r tir yn destun gorchymyn perthnasol, ar y dyddiad y daw'r gorchymyn hwnnw i rym,
a lle mae 20% o'r cyfanswm hanner ffordd rhwng dau gyfanrif, y cyfanrif gwastad agosaf y tybir mai ef yw'r un agosaf.
1985 p.48; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diogelu Bwyd 1991 (p.16), adran 51(2), gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), adran 40(1) ac Atodlen 5, paragraff 6(1) a (3), gan O.S. 1999/1756 a chan O.S. 2000/2040.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys