- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
23.—(1) Lle mae cwota cyfanwerthol deiliad cwota yn cael ei gynyddu neu ei leihau yn unol â deddfwriaeth y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn, mae cwota prynwr unrhyw brynwr y mae'r cwota cyfanwerthol yn gymwys iddo neu iddi yn cael ei gynyddu neu ei leihau i gyfateb â hynny.
(2) O ran trosglwyddiad y mae Erthygl 11(2) Rheoliad y Cyngor yn gymwys iddo (sy'n ymwneud â chynhyrchwyr yn amnewid ac yn newid prynwyr), mae'n rhaid i brynwr y cynyddwyd ei gwota/chwota drwy'r cyfryw drosglwyddiad gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais am i'w gwota/chwota fel prynwr gael ei gynyddu yn ôl y maint penodol.
(3) mae'n rhaid i gais y cyfeirir ato ym mharagraff (2) gynnwys —
(a)datganiad yn nodi manylion y trosglwyddiad; a
(b)datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan y cynhyrchwr fod y prynwr y bydd ei gwota/chwota yn lleihau wedi'i hysbysu o'r manylion a nodir yn y cais y cyfeirir ato ym mharagraff (2).
(4) Mae'n rhaid i'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (2) —
(a)cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 14 Mai yn y flwyddyn gwota yn union ar ôl y flwyddyn gwota y digwyddodd y trosglwyddiad;
(b)cael ei wneud yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.
(5) Ni ddylai'r maint penodol gynnwys y cwota cyfanwerthol cofrestredig sy'n weddill ac eithrio i'r graddau y mae'r cynnydd a gofrestrir yn unol â pharagraff (8) yn cynnwys y cwota hwnnw.
(6) Bydd y cwota cyfanwerthol cofrestredig sydd ar ôl yn dal i fod ar gael i'r prynwr gwreiddiol.
(7) Os na chofrestrir digon o gwota gyda'r prynwr gwreiddiol i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed gan y cynhyrchwr cyn y dyddiad y newidiwyd y prynwr, mae'n rhaid dyrannu unrhyw gwota ychwanegol a geir gan y cynhyrchwr i'r prynwr gwreiddiol nes y darperir ar gyfer yr holl ddanfoniadau i'r prynwr gwreiddiol a wnaed gan y cynhyrchwr cyn y dyddiad hwnnw ar ôl unrhyw addasiad ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.
(8) Ar ddechrau'r flwyddyn gwota yn union ar ôl y flwyddyn gwota y cafwyd y cynnydd y cyfeirir ato ym mharagraff (2), mae'n rhaid cynyddu cwota prynwr y prynwr y mae'r cynhyrchwr newydd gofrestru ag ef neu â hi yn ôl y cyfryw ran o'r cwota cyfanwerthol cofrestredig sy'n weddill gan y cynhyrchwr ag a gynhwysir yn y maint penodol.
(9) Os effeithir ar y cwota sydd ei angen i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed i brynwr gwreiddiol gan —
(a)cwota yn cael ei drosglwyddo i'r cynhyrchwr o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b)addasiad ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn,
mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (10), wneud y cyfryw addasiadau yng nghwota prynwr y prynwr gwreiddiol y mae'r cynhyrchwr newydd gofrestru ag ef neu â hi, ag sydd eu hangen i sicrhau bod digon o gwota wedi'i gofrestru gyda'r prynwr gwreiddiol i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed.
(10) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud addasiad yn unol â pharagraff (9) ar ôl i'r flwyddyn gwota dan sylw ddod i ben.
(11) Lle mae gan gynhyrchwr gwota sydd wedi'i gofrestru â dau neu ragor o brynwyr, caiff y cynhyrchwr wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i newid y cwota sydd wedi'i gofrestru rhyngddynt dros dro, ac eithrio i'r graddau y mae angen y cwota sydd wedi'i gofrestru â phob un ohonynt i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed ganddo neu ganddi cyn dyddiad y trosglwyddiad ar ôl unrhyw addasiad ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.
(12) mae'n rhaid i gynhyrchwr sy'n gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (11) gyflwyno gyda'i gais/chais —
(a)datganiad yn nodi manylion y cwota sydd i'w ailgofrestru dros dro; a
(b)datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan y cynhyrchwr fod y prynwr y bydd ei gwota/chwota yn lleihau wedi'i hysbysu o'r manylion a nodir yn y datganiad.
(13) mae'n rhaid i'r ddau ddatganiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (12) —
(a)fod yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu; a
(b)cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 15 Mehefin yn y flwyddyn gwota yn union ar ôl y flwyddyn gwota y gwneir y cais am yr ailgofrestriad dros dro ar ei chyfer.
(14) Yn y rheoliad hwn —
(a)ystyr “cwota cyfanwerthol cofrestredig sy'n weddill” yw'r cwota sydd ei angen i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed gan gynhyrchwr cyn y dyddiad y newidiodd y prynwr (wedi'i addasu yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn); a
(b)ystyr “maint penodol” yw maint sy'n cyfateb i gymaint o gwota cyfanwerthol cofrestredig cynhyrchwr ag a nodir gan y cynhyrchwr hwnnw.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys