xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 603 (Cy.51)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

8 Mawrth 2005

Yn dod i rym

1 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16BB(4), 17 a 126(4) a pharagraffau 2, 3 a 4 o Atodlen 7A i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004(2).

Diwygio rheoliad 1(2) o'r Prif Reoliadau

2.—(1Yn rheoliad 1(2) o'r Prif Reoliadau mewnosodir y diffiniad canlynol yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor

ystyr “aelod o'r Bwrdd” (“Board member”) yw aelod o Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a sefydlwyd yn unol â rheoliad 23 o'r Rheoliadau hyn.

(2Hepgorir y geiriau canlynol o'r diffiniad o “aelod” (“member”): “neu aelod o Fwrdd CIC yn ôl y digwydd”.

Dirymu rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau a'i ailddeddfu gyda newidiadau

3.  Dirymir rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau a rhoddir y canlynol yn ei le:

Tymor gwasanaethu'r aelodau

3(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 8 (aelodau sy'n gymwys i'w hailethol), tymor gwasanaethu unrhyw aelod, a benodwyd neu a ailbenodwyd ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny, yw rhwng un a phum mlynedd yn ôl yr hyn a bennwyd gan y corff penodi adeg penodi'r aelod hwnnw.

(2) Pan fydd Cyngor newydd i'w sefydlu o dan adran 20A(2)(b) o'r Ddeddf ar gyfer ardal neu ran o ardal Cyngor sy'n bodoli eisoes, caiff y Cynulliad benderfynu y bydd swydd unrhyw aelod o'r Cyngor sy'n bodoli eisoes yn dod i ben yn union cyn sefydlu'r Cyngor newydd.

(3) Pan fydd Cyngor yn cael ei ddiddymu o dan adran 20(A)(2)(b) o'r Ddeddf, caiff y Cynulliad benderfynu y bydd swydd ynrhyw aelod o'r Cyngor a ddiddymwyd yn dod i ben yn union.

Ychwanegu rheoliad 3A at y Prif Reoliadau

4.  Yn dilyn rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau, mewnosodir y rheoliad 3A newydd canlynol:

Tymor gwasanaethu'r aelodau — trefniadau trosiannol ar gyfer aelodau a benodwyd eisoes gan y corff sy'n penodi ar 31 Mawrth 2005

3A  Gweddill ei dymor gwasanaethu cyfredol fydd tymor gwasanaethu unrhyw aelod sydd eisoes wedi'i benodi gan y corff sy'n penodi ar 31 Mawrth 2005.

Diwygio rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau

5.—(1Dileir y geiriau “baragraff (2) ac i reoliad 9” yn rheoliad 8(1) o'r Prif Reoliadau a rhoddir y geiriau “baragraffau (2) a (3)” yn eu lle.

(2Dirymir rheoliad 8(2) o'r Prif Reoliadau a rhoddir y y canlynol yn ei le:

(2) Caiff person wasanaethu fel aelod o Gyngor am gyfnod o ddeng mlynedd ar y mwyaf.

(3Yn dilyn y rheoliad 8(2) newydd mewnosodir

(3) Wrth gyfrifo'r cyfnod o ddeng mlynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (2) uchod, caiff pob cyfnod o wasanaeth fel aelod mewn unrhyw Gyngor ei agregu, gan gynnwys gwasanaeth mewn Cyngor y cafodd ei ardal ei newid ac mewn Cyngor sydd wedi'i ddiddymu ond heb fod yn gyfyngedig i'r cyfnod gwasanaeth hwnnw.

Ychwanegu rheoliad 8A at y Prif Reoliadau.

6.  Yn dilyn rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, mewnosodir y canlynol:

Aelodau sy'n gymwys i'w hailethol — darpariaethau trosiannol

8A(1) Caiff yr aelodau hynny a benodwyd cyn 1 Ebrill 2005, yn unol â rheoliad 3A, fwrw gweddill eu tymor gwasanaethu cyfredol, er y gall hynny olygu y byddant yn treulio mwy na'r uchafswm o ddeng mlynedd a ragnodir yn rheoliad 8 uchod.

(2) Pan fydd yr aelodau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod wedi treulio eu tymor gwasanaethu cyfredol, byddant, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 8.

Diwygio rheoliad 12 o'r Prif Reoliadau

7.  Yn dilyn y geiriau “i gyd yn aelodau o'r Cynghorau hynny” yn ail linell rheoliad 12(3) o'r Prif Reoliadau mewnosodir y geiriau canlynol, “ac, os bydd angen, yn swyddogion i'r Cynghorau hynny”.

Diwygio rheoliad 23 o'r Prif Reoliadau

8.  Yn dilyn rheoliad 23(ch) o'r Prif Reoliadau, ychwanegir y canlynol:

(d)sefydlu gweithdrefn gwynion yn unol â rheoliad 23A.

Ychwanegu rheoliad 23A at y Prif Reoliadau

9.  Yn dilyn rheoliad 23 o'r Prif Reoliadau, ychwanegir y canlynol:

Gweithdrefn Gwynion

23A(1) Rhaid i'r Bwrdd wneud darpariaeth ynglyn â thrin ac ystyried cwynion a wneir am y ffordd y mae unrhyw swyddogaeth sydd gan Gyngor neu'r Bwrdd yn cael ei harfer.

(2) Cyn bod y weithdrefn gwynion a lunnir gan y Bwrdd yn unol â pharagraff (1) uchod yn cael ei gweithredu, rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod y weithdrefn yn cael ei chymeradwyo'n gyntaf gan y Cynulliad.

Diwygio rheoliad 24 o'r Prif Reoliadau

10.—(1Rhoddir “(1)” o flaen y geiriau “Bydd ar Fwrdd CIC” a rhoddir y geiriau “aelodau o'r Bwrdd” yn lle'r gair “aelodau” yn rheoliad 24 o'r Prif Reoliadau.

(2Yn dilyn rheoliad 24(1) o'r Prif Reoliadau mewnosodir y paragraffau newydd canlynol:

(2) Dim ond aelodau a swyddogion Cynghorau sy'n gymwys i'w penodi yn aelodau o'r Bwrdd.

(3) Bydd tymor gwasanaethu aelod o'r Bwrdd yn gyfnod hyd at dair blynedd, fel a bennir adeg ei benodi.

Diwygio Rheoliad 26 o'r Prif Reoliadau

11.  Ar ôl y gair “aelodau” yn seithfed linell rheoliad 26(1) o'r Prif Reoliadau rhodder y geiriau “o'r Bwrdd”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004 (O.S. 2004/905) (Cy.89) (“y Prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniad, sef “aelod o'r Bwrdd” ac yn diwygio'r diffiniad o “aelod” yn rheoliad 1(2) o'r Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig o reoliad 3 o'r Prif Reoliadau yn lle'r hen un. Mae'r prif newid yn newid tymor gwasanaethu aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned i gyfnod rhwng un a phum mlynedd, fel a bennir adeg eu penodi.

Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 3A newydd yn y Prif Reoliadau. Mae hwn yn darparu mai'r cyfnod sydd heb ddirwyn i ben o dymor cyfredol penodiad aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned a benodwyd ar 31 Mawrth 2005 neu cyn hynny yw eu tymor gwasanaethu.

Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 8(1), yn disodli rheoliad 8(2) ac yn ychwanegu paragraff (3) newydd at reoliad 8 o'r Prif Reoliadau. Effaith y newidiadau yw darparu mai deg yw uchafswm nifer y blynyddoedd y caiff person wasanaethu fel aelod o Gyngor Iechyd Cymuned. Caiff pob gwasanaeth fel aelod o Gyngor neu Gynghorau Iechyd Cymuned, heb ystyried unrhyw ad-drefniadau, ei agregu wrth gyfrifo'r cyfnod hwyaf o ddeng mlynedd.

Mae rheoliad 6 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 8A newydd yn y Prif Reoliadau. Mae rheoliad 8A newydd yn darparu bod aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned a oedd wedi'u penodi cyn 1 Ebrill 2005 yn cael treulio gweddill eu tymor gwasanaethu cyfredol hyd yn oed os byddai hynny'n golygu y byddent yn treulio mwy na'r uchafswm rhagnodedig o ddeng mlynedd.

Mae rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 12(3) o'r Prif Reoliadau i'w gwneud yn glir y byddai swyddogion i Gyngor Iechyd Cymuned yn ogystal ag aelodau yn cael eistedd ar gydbwyllgor.

Mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 23 o'r Prif Reoliadau i wneud sefydlu gweithdrefn gwynion yn un o swyddogaethau Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.

Mae rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod yn y Prif Reoliadau reoliad 23A newydd sy'n ymdrin â sefydlu gweithdrefn gwynion sydd i'w dilyn mewn perthynas â chwynion am Gynghorau, aelodau unigol a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.

Mae rheoliad 10 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 24 o'r Prif Reoliadau. Y prif newidiadau yw darparu mai dim ond aelodau a swyddogion Cyngor Iechyd Cymuned y caniateir eu penodi i Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru, ac y bydd tymor penodiad aelodau o'r Bwrdd yn gyfnod hyd at dair blynedd.

Mae rheoliad 11 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 26 o'r Prif Reoliadau i'w gwneud yn glir mai aelodau o Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yw'r “aelodau” y cyfeirir atynt.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(1)

1977 p.49. Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) a chan baragraff 37(6) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) a chan adran 1 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 (p.4) (“Deddf 2003”). Mewnosodwyd Adran 16BB(4) gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17). Mewnosodwyd Atodlen 7A gan adran 1 o Ddeddf 2003. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 17 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).