Ychwanegu rheoliad 8A at y Prif Reoliadau.
6. Yn dilyn rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, mewnosodir y canlynol:
“Aelodau sy'n gymwys i'w hailethol — darpariaethau trosiannol
8A—(1) Caiff yr aelodau hynny a benodwyd cyn 1 Ebrill 2005, yn unol â rheoliad 3A, fwrw gweddill eu tymor gwasanaethu cyfredol, er y gall hynny olygu y byddant yn treulio mwy na'r uchafswm o ddeng mlynedd a ragnodir yn rheoliad 8 uchod.
(2) Pan fydd yr aelodau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod wedi treulio eu tymor gwasanaethu cyfredol, byddant, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 8.”