xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 663 (Cy.53)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

8 Mawrth 2005

Yn dod i rym

11 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 11 Ebrill 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y swm y mae ei angen at anghenion personol

2.  Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £19.10 yr wythnos.

Dirymu

3.  Drwy hyn, dirymir Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004(3).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, pan nad oes amgylchiadau arbennig, y bydd ei angen ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 at eu hanghenion personol.

0 11 Ebrill 2005 ymlaen, rhagdybir y bydd angen £19.10 yr wythnos ar bob preswylydd o'r fath at eu hanghenion personol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004 sy'n cael eu dirymu ac a oedd yn rhagnodi swm wythnosol o £18.40.

(1)

1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ar gyfer y diffiniadau o “the Minister” a “prescribed” yn ôl eu trefn, ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).