Gwahardd cyflwyno cynhyrchion ac eithrio wrth safleoedd arolygu ar y ffin
16.—(1) Ni chaniateir cyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru o drydedd wlad ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.
(2) Ni chaniateir cyflwyno i Gymru unrhyw gynnyrch Erthygl 9, y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno wedi'i leoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan wedi'i leoli yng Nghymru, ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.
(3) Bydd y rheoliad hwn yn cael ei orfodi—
(a)wrth bwyntiau mynediad gan y Comisiynwyr;
(b)mewn mangreoedd y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(b) gan yr Asiantaeth; ac
(c)mewn unrhyw fan arall gan yr awdurdod lleol.
(4) Mewn achosion lle y mae swyddog awdurdod lleol, wrth arfer unrhyw swyddogaeth statudol, yn darganfod, wrth bwynt mynediad, lwyth neu gynnyrch y mae'r swyddog o'r farn y gallai fod wedi'i gyflwyno yn groes i'r rheoliad hwn, rhaid i'r swyddog hysbysu swyddog tollau a dal ei afael ar y llwyth neu'r cynnyrch nes bod swyddog tollau yn ei gymryd dan ei ofal.
(5) At ddibenion cymhwyso Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(1) i gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno yn groes i'r rheoliad hwn, amser eu mewnforio fydd yr amser cyflwyno yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf honno.