Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005

Rhoi cynhyrchion gerbron mewn safleoedd arolygu ar y ffin

18.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch sy'n cael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu am gynnyrch Erthygl 9 y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan wedi'i leoli yng Nghymru ac sy'n cael ei gyflwyno i Gymru, roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol, yn ddi-oed, i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r safle arolygu ar y ffin y rhoddwyd iddo hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch gerbron yn y man hwnnw yn unol â rheoliad 17, neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi iddo.

(6Pan fydd safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig a'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cynnyrch ar ôl ei symud o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol, yn ddi-oed, i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer y gyrchfan y rhoddwyd hysbysiad o roi'r cynnyrch iddo yn unol â rheoliad17, neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi iddo.

(7Rhaid i berson sy'n rhoi cynnyrch gerbron, ac eithrio cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo, yn unol â pharagraff (1) neu (2), roi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud ag ef ac sydd wedi'u llunio yn Gymraeg neu yn Saesneg.

(8Rhaid i berson sydd, yn unol â pharagraff (1) neu (2), yn rhoi gerbron gynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo ynghyd â dogfen ofynnol mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, roi ar yr un pryd gyfieithiad i'r Gymraeg neu i'r Saesneg o'r ddogfen ofynnol, a rhaid i'r cyfieithiad hwnnw fod yn un y mae arbenigwr â chymhwyster priodol wedi cadarnhau ei fod yn gyfieithiad cywir.