xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17.—(1) Mae'n rhaid i arolygwr, ar ôl dangos, lle bo'r angen, dogfen ddilys yn dangos ei awdurdod, gael yr hawl ar bob awr resymol, i fynd mewn i unrhyw safle (gan gynnwys unrhyw safle domestig os yw'n cael ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas mewn cysylltiad â Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn) er mwyn sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae “safle”yn cynnwys unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu strwythur (symudol neu beidio).
(2) Gydag ef neu hi gall arolygwr fynd â–
(a)unrhyw bersonau eraill yr ystyria bod eu hangen; ac
(b)unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddiben gorfodi rhwymedigaeth Gymunedol.
(3) Os bydd arolygydd yn mynd mewn i unrhyw safle sydd heb ei feddiannu mae'n rhaid iddo ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol yn erbyn mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 17 mewn grym ar 3.5.2006, gweler rhl. 1