- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 6
1.Rheoli a dileu TSE - hysbysiad
2.Cyfyngu ar anifail y rhoddwyd hysbysiad yn ei gylch
3.Cigydda anifail sydd dan amheuaeth
4.Adnabod a chyfyngu ar epil a chohortau
5.Camau gweithredu yn dilyn cadarnhad
6.Marwolaeth tra o dan gyfyngiadau
7.Rhoi epil gwartheg ar y farchnad
1.—(1) At ddibenion Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, mae'n rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail buchol yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth sydd dan amheuaeth o fod wedi ei heffeithio gan TSE hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith a'i chadw ar y safle hyd nes y bydd wedi cael ei harchwilio gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i unrhyw filfeddyg sy'n archwilio unrhyw anifail o'r fath, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib.
(3) Rhaid i unrhyw berson (ar wahân i'r Cynulliad Cenedlaethol) sy'n archwilio corff unrhyw anifail buchol neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac sy'n amau'n rhesymol bod TSE yn bresennol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono hyd nes y bydd arolygydd milfeddygol wedi awdurdodi ei waredu.
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.
2. Os rhoddir hysbysiad am anifail o dan baragraff 1 gall arolygydd roi hysbysiad yn gwahardd ei symud o'r safle hyd nes y ceir penderfyniad a yw dan amheuaeth o fod wedi ei effeithio gan BSE neu beidio.
3.—(1) At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail buchol wedi cael ei effeithio gan BSE, mae'n rhaid iddo naill ai–
(a)ei ladd ar y daliad ar unwaith;
(b)tynnu'r pasbort gwartheg yn ôl a rhoi hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes y bydd wedi ei ladd; neu
(c)sicrhau bod ei basbort gwartheg wedi ei stampio “Not for human consumption”a rhoi hysbysiad yn cyfarwyddo'r perchennog i'w anfon i safle arall i'w gael ei ladd a gwahardd symud ar wahân i symud yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.
(2) Mae'n rhaid iddo gyfyngu ar symud anifeiliaid buchol eraill o'r daliad yn unol â'r ail a'r pedwerydd paragraff o Erthygl 12(1) o Reoliad TSE y Gymuned ac Erthygl 2(1)(a) o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC.
(3) Yn unol ag Erthygl 12(3) o Reoliad TSE y Gymuned, os caiff yr anifail ei ladd ar y daliad, mae'n drosedd symud y corff o'r daliad hwnnw ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.
(4) Os na chaiff yr anifail ei ladd ar unwaith, mae'n rhaid i'r ceidwad gael gwared â'i laeth mewn ffordd fel na ellir ei fwyta gan bobl nac anifeiliaid ar wahân i'w llo ei hun neu anifeiliaid a gedwir at bwrpas ymchwil, ac mae peidio â chydymffurfio â'r is-baragraff hwn yn drosedd.
4.—(1) Yn unol ag Erthyglau 12(1) a 13(2) o Reoliad TSE y Gymuned, os bydd–
(a)arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail buchol wedi ei effeithio gan BSE;
(b)monitro carcarau o dan Atodlen 2 neu o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned yn cadarnhau bod anifail dan amheuaeth o fod wedi'i effeithio gan BSE; neu
(c)awdurdod cymwys mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig neu aelod-wladwriaeth arall yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol bod buwch dan amheuaeth o fod wedi'i heffeithio gan BSE,
rhaid i arolygydd adnabod–
(a)(os yw'r anifail sydd dan amheuaeth yn fenyw) holl epil yr anifail a anwyd o fewn dwy flynedd cyn cychwyn clinigol y clefyd neu o fewn dwy flynedd ar ôl hynny; a
(b)phob un o'i gohortau buchol a anwyd ar neu ar ôl 1 Awst 1996,
ac i'r dibenion hyn dyddiad geni'r anifail yw'r un sydd wedi ei ddangos ar ei basbort gwartheg.
(2) Mae'n rhaid i arolygydd roi hysbysiadau yn gwahardd symud yr anifeiliaid hynny o'r daliad lle maent yn cael eu cadw neu lle mae'n amau eu bod yn cael eu cadw (boed yr un daliad â daliad yr anifail sydd dan amheuaeth neu beidio) a thynnu eu pasbort gwartheg.
(3) Os nad yw ef neu hi yn gallu adnabod yr anifeiliaid yn is-baragraff (1) ar unwaith mae'n rhaid i arolygydd wahardd symud pob anifail buchol o'r daliad hyd nes y cânt eu hadnabod.
(4) Ni chaniateir symud anifeiliaid dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 20.
5.—(1) Yn unol ag Erthygl 13(1)(c) o Atodiad VII a phwynt 2 ohono, i Reoliad TSE y Gymuned, os caiff ei gadarnhau bod yr anifail sydd dan amheuaeth wedi'i effeithio gan BSE mae'n rhaid i arolygydd–
(a)ladd pob un o'i hepil a anwyd o fewn dwy flynedd cyn cychwyn clinigol y clefyd neu o fewn dwy flynedd ar ôl hynny, os yw'r anifail yn fenyw; ac
(b)ym mhob achos, lladd pob un o'r anifeiliaid buchol yn ei gohort a anwyd ar neu ar ôl 1 Awst 1996 ac eithrio lle–
(i)bod yr arolygydd wedi'i fodloni nad oedd gan yr anifail fynediad i'r un bwyd â'r anifail yr effeithiwyd arno; neu
(ii)bod yr anifail yn darw sy'n cael ei gadw mewn canolfan casglu semen, ac ni fydd yn cael ei symud oddi yno, ond mae'n drosedd symud yr anifail o'r ganolfan ac eithrio i gael ei ladd, a phan gaiff ei ladd mae'r perchennog yn cyflawni trosedd oni bai ei fod yn sicrhau bod y carcas wedi ei ddinistrio'n llwyr.
(2) Os na chaiff yr anifail ei ladd ar y daliad, mae'n rhaid i'r arolygydd sicrhau fod ei basbort wedi ei stampio “Not for human consumption” a rhaid iddo gyfarwyddo'r perchennog mewn ysgrifen i'w anfon i safle arall i gael ei ladd fel y nodwyd yn y cyfarwyddiad.
(3) Os bydd y prawf yn negyddol mae'n rhaid iddo dynnu'r holl gyfyngiadau a osodwyd oherwydd yr anifail a oedd dan amheuaeth a dychwelyd y pasbort gwartheg.
(4) Pan gaiff anifail ei ladd o dan y rheoliad hwn, mae'n drosedd i symud y carcas oddi ar y safle lle cafodd ei ladd ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig oddi wrth arolygydd.
6. Os bydd anifail yn marw neu'n cael ei ladd tra ei fod o dan gyfyngiad am unrhyw reswm o dan yr Atodlen hon, mae'n rhaid i'r perchennog hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith, a chadw'r corff ar y safle hyd nes y bydd wedi cael ei gyfarwyddo'n ysgrifenedig gan arolygydd i'w symud neu ei waredu, ac mae'n drosedd peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn neu beidio â chydymffurfio gyda'r cyfarwyddyd o dan y paragraff hwn.
7. Mae unrhyw berson sy'n rhoi unrhyw anifail buchol ar y farchnad yn groes i Erthygl 15(2) o Reoliad TSE y Gymuned a Phennod B o Atodiad VIII i'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys