- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig o dan y Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi ei eithrio rhag bod yn gymwys gan y paragraff canlynol, gan reoliad 6 neu reoliad 7.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd—
(a)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(b)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(c)os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS(1) ac—
(i)bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a
(ii)bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(ch)os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-raddedig hyblyg.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw.
(2) Os yw myfyriwr cymwys dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant at ffioedd ac am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd, swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na'r swm a ddidynnwyd oddi ar ei grant at ffioedd yn unol â rheoliad 46.
(3) Os benthyciad at gyfraniad at ffioedd yw'r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,200 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys, £600.
(4) Caiff myfyriwr cymwys dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd—
(i)os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd un dim ynghynt) yr hysbyswyd y myfyriwr ohono mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesiad o gyfraniad y myfyriwr neu mewn modd arall; a
(ii)os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r cynydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys dan yr hen drefn—
(aa)methu â darparu yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae ganddo hawl i'w gael; neu
(bb)darparu gwybodaeth y mae unrhyw fanylyn perthnasol ohoni yn anghywir.
(5) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn swm sy'n fwy na'r uchafswm a gafodd ei gynyddu.
(6) Os yw myfyriwr cymwys dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth iddo mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
(7) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs mewn sefydliad preifat neu yng Ngholeg Heythrop.
17.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Rhaid i swm benthyciad at ffi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r isod—
(a)£3,000 neu, pan fo un o'r amgylchiadau ym mharagraff (3) yn gymwys, £1,500; a
(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(3) Yn yr achosion a bennir yn rheoliad 13(2), uchafswm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,500.
(4) Os caiff statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffi mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo iddo.
(5) Yr amgylchiadau yw—
(a)bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo ohono; neu
(b)bod blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd y myfyriwr hwnnw oddi arno.
(6) Pan fo paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm hafal i'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno, wedi didynnu oddi ar y swm hwnnw unrhyw fenthyciad at ffi y mae'r myfyriwr hwnnw wedi ei godi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwyddod oddi arni.
(7) Pan fo paragraff 5(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r isod—
(a)£3,000 neu, pan fo un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys, £1,500; a
(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(8) Pan fo myfyriwr cymwys dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffi sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys