xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
33.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn, ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, pan fo incwm yr aelwyd uwchlaw £37,900.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yn hafal i (X−Y)—
Os
X
i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,415;
i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,170;
i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £5,255;
i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £5,255;
i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,405;
Y yw swm y grant cynhaliaeth.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yn hafal i (X−Y)—
Os
X
i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,085;
i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £5,620;
i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,570;
i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,570;
i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,080;
Y yw swm y grant cynhaliaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”)—
(a)os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 29 i gael swm o grant cynhaliaeth heb fod uwchlaw £1,200, yw swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy;
(b)os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 29 i gael swm o grant cynhaliaeth uwchlaw £1,200, yw £1,200; ac
(c)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, yw dim.