xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
38.—(1) Os yw myfyriwr yn syrthio i fwy nag un o'r categorïau yn rheoliad 35 yn ystod y flwyddyn academaidd—
(a)uchafswm y benthyciad am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas ag ef;
(b)uchafswm y benthyciad am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac
(c)yn ddarostyngedig i baragraff (2), y categori sy'n gymwys i chwarter yw'r canlynol—
(i)y categori y mae'r myfyriwr yn syrthio iddo am y cyfnod hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu
(ii)os yw'r myfyriwr yn syrthio i fwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â'r gyfradd uchaf o fenthyciad am y flwyddyn academaidd.
(2) Ni ellir cymhwyso categori 3 at chwarter oni bai bod y myfyriwr yn bresennol mewn sefydliad dros y môr am hanner o leiaf o gyfnod y chwarter hwnnw.