Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

  • Regulations revoked by S.I. 2011/2377 reg. 29(a)
  • Regulations revoked by S.I. 2011/600 Sch. 3 (This amendment not applied to legislation.gov.uk. S.I. 2011/600 is revoked and the provisions revoked by those Regulations are revived by S.I. 2011/2377, reg. 28(1)(2))

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ail-wneud Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003, y gwnaed darpariaeth ganddynt yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta (OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1) (“Rheoliad y Gymuned”).

Maent yn gorfodi offerynnau Cymunedol ychwanegol. Mae'r offerynnau hyn yn atodol i Reoliad y Cyngor ac yn ei ddiwygio ymhellach ac yn gwneud mesurau trosiannol pellach.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn dileu mesurau darpariaethol Cymunedol sydd bellach wedi dod i ben.

At hyn, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae'r Rheoliadau'n diddymu'r darpariaethau hynny sy'n ymwneud â iardiau nacer yn Neddf Lladd-dai 1974 gan fod iardiau nacer yn cael eu rheoleiddio bellach o dan y Rheoliadau hyn.

I'r graddau y mae'r adran yn gymwys o ran Cymru, maent yn diddymu adran 6 o Ddeddf Cŵ n 1906 a oedd yn ymwneud â gadael carcasau yn y fath fodd fel y gallai cŵ n gael mynediad atynt, ac yn rhoi yn ei lle ddarpariaeth yn rheoliad 11 sy'n rheoleiddio mynediad pob anifail at sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Dyma'r offerynnau trosiannol sy'n diwygio–

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta(1);

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac o ran mesurau trosiannol penodol(2);

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran casglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd(3);

(ch)Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a rhai Categori 3(4);

(d)Penderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC ar reolau iechydol ac ardystio trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran mewnforio gelatin ffotograffig o drydydd gwledydd penodol(5);

(dd)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2004 sy'n diwygio Atodiadau penodol i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, o ran mewnforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o drydydd gwledydd(6);

(e)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 sy'n gosod mesurau trosiannol yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol a ddosberthir yn ddeunyddiau Categori 1 a Chategori 2 ac a fwriedir at ddibenion technegol (7);

(f)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran defnyddio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth, ac a ddiffinnir fel deunydd Categori 3 yn y Rheoliad hwnnw(8);

(ff)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y modd y gwaredir neu y defnyddir sgil-gynhyrchion anifeiliaid, ac sy'n diwygio Atodiad VI y Rheoliad o ran trawsffurfio bio-nwy a phrosesu brasderau a rendrwyd(9);

(g)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 93/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n dod o bysgod a dogfennau masnachol ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid(10).

Gwneir darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi mesurau yn Rheoliad y Gymuned o ran mewnforio, allforio a masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau gan offerynnau ar wahân.

Mae'r Rheoliadau'n darparu fel a ganlyn.

Mae categoreiddio, casglu, cludo, gwaredu, storio, prosesu neu ddefnyddio deunydd Categori 1, Categori 2 neu Gategori 3 ac eithrio yn unol â Rheoliad y Gymuned (rheoliadau 4, 5 a 6) yn dramgwydd penodol. Mae cymysgedd o sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaidd i'w trin fel pe baent yn sgil-gynhyrchion mamalaidd (rheoliad 7).

Mae casglu, cludo, adnabod neu storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac eithrio yn unol â Rheoliad y Gymuned (rheoliad 8) yn dramgwydd penodol.

Mae rheoliadau 9 a 10 yn gorfodi'r cyfyngiadau a geir yn Erthygl 22 o Reoliad y Gymuned ar roi yn fwyd wastraff arlwyo a phrotein anifail wedi'i brosesu. At hyn, mae rheoliad 9 yn gwahardd rhoi yn fwyd i anifeiliaid a ffermir sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill heb eu prosesu.

Mae rheoliad 11 yn cyfyngu ar fynediad at wastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill.

Mae rheoliad 12 yn gorfodi'r cyfyngiadau yn Erthygl 22 o Reoliad y Gymuned ar roi gwrtaith organig ar dir pori.

Mae rheoliadau 13 i 15 yn darparu ar gyfer cymeradwyo mangreoedd ar gyfer y gwahanol ddulliau o drin sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae Rheoliad 16 yn darparu nad oes angen cymeradwyaeth ar gyfer compostio mewn mangre y tarddodd y deunydd a gaiff ei gompostio ohoni os cydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwnnw.

Mae rheoliadau 17 i 21 yn darparu ar gyfer gwiriadau mewn gweithfeydd, wrth samplu ac mewn labordai a gymeradwywyd.

Mae rheoliadau 22 i 24 yn rheoleiddio rhoi ar y farchnad gynhyrchion amrywiol sy'n deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Mae rheoliadau 25 i 27 yn darparu rhanddirymiadau sy'n ymwneud â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi ac i'w rhoi'n fwyd i rai anifeiliaid penodedig. Mae Rheoliad 28 yn caniatáu claddu anifeiliaid anwes.

Mae rheoliad 29 yn caniatáu claddu a llosgi mewn ardaloedd pellennig, a ddiffinnir fel Ynys Enlli ac Ynys Bur. Mae rheoliadau 30 a 31 yn darparu ar gyfer claddu neu losgi yn achos brigiad clefyd neu ar gyfer llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna.

Mae rheoliadau 32 i 39 yn darparu ar gyfer cadw cofnodion.

Mae rheoliadau 40 i 42 yn darparu ar gyfer ceisiadau am gymeradwyaethau, awdurdodiadau a chofrestriadau, am eu hatal neu eu dirymu ac am sylwadau yn erbyn hysbysiad i'w diwygio, i'w hatal neu i'w dirymu.

O dan reoliadau 43 i 45 gall arolygydd gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynnyrch anifeiliaid neu wastraff arlwyo ac yn ei gwneud yn ofynnol glanhau a diheintio unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu fangre. Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn a hynny ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.

Mae rheoliadau 46 a 47 yn darparu pwerau mynediad a thramgwydd o rwystro arolygydd.

Gorfodir y Rheoliadau gan yr awdurdod lleol ac eithrio mewn mangreoedd penodol (rheoliad 49).

Mae rheoliadau 50 i 52 yn darparu ar gyfer mesurau trosiannol i gynhyrchion technegol, cynhyrchion ffotograffig o gelatin a llaeth (nad oes iddynt ddyddiad dod i ben).

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a chompostio.

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwaredu hylif o rendro sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cil.

Mae Atodlen 3 yn darparu ar gyfer dulliau profi.

Mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy hyd at yr uchafswm statudol neu gyfnod o dri mis yn y carchar. O gollfarnu ar dditiad, dirwy heb derfyn neu dymor o ddwy flynedd yn y carchar yw'r gosb (rheoliad 48).

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.

(2)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.

(3)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.

(4)

OJ Rhif L117,13.5.2003, t.24.

(5)

OJ Rhif L151, 30.4.2004, t.11 fel y"i cywirwyd gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L208, 10.6.2004, t.9 ac fel y"i cywirwyd ymhellach gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L396, 31.12.2004, t.63.

(6)

OJ Rhif L112, 19.4.2004, t.1.

(7)

OJ Rhif L162, 30.4.2004, t.62.

(8)

OJ Rhif L16, 20.1.2005, t.46.

(9)

OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.27.

(10)

OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.34.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill