Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 12/05/2006.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
40.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os yw wedi'i fodloni bod cydymffurfio â gofynion Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn wedi digwydd.
(2) Lle y bo'n briodol, rhaid i gymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad bennu,–
(a)cyfeiriad y fangre a gweithredydd y fangre;
(b)y rhannau o'r fangre lle y gellir derbyn a phrosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid; ac
(c)y cyfarpar, y dulliau y mae'n rhaid prosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unol â hwy a'r paramedrau y mae'n rhaid prosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'u mewn.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad, neu'n ei rhoi neu'n ei roi yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo wneud y canlynol drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd–
(a)rhoi'r rhesymau; a
(b)egluro hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol at y diben.
(4) Tra byddo'r fangre'n cael ei dilysu at ddibenion rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddyd ysgrifenedig ynghylch sut y mae'n rhaid gwaredu'r deunydd a broseswyd neu a gafodd ei drin, ac mae methu cydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwn yn dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 40 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
41.—(1) Drwy gyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd–
(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal ar unwaith gymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os na chydymffurfir ag unrhyw un o'r amodau y rhoddwyd y gymeradwyaeth, yr awdurdodiad neu'r cofrestriad oddi tanynt, a
(b)caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os y'i bodlonir na chydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn.
(2) O ran ataliad neu ddiwygiad o dan baragraff (1)(b)–
(a)rhaid iddo gael effaith ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid;
(b)fel arall ni fydd yn cael effaith am o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
(3) Rhaid i'r hysbysiad–
(a)ddatgan pryd y mae'n dod yn effeithiol;
(b)rhoi'r rhesymau drosto; ac
(c)esbonio hawl gweithredydd y fangre i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Os na fydd yr hysbysiad yn cael effaith ar unwaith, a bod sylwadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 42, ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol hyd oni wneir y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad canlynol, onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, i'r diwygiad neu'r ataliad gael effaith ar unwaith a'i fod yn cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os yw wedi'i fodloni, yn dilyn sylwadau a gyflwynir o dan reoliad 42, os o gwbl, yn unol â'r rheoliad canlynol sy'n cefnogi ataliad, ac o gymryd holl amgylchiadau'r achos i ystyriaeth, na fydd y fangre'n cael ei rhedeg yn unol â'r Rheoliadau hyn ac â Rheoliad y Gymuned.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 41 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
42.—(1) Caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch gwrthodiad, ataliad neu ddiwygiad o dan reoliad 40 neu 41 o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl i hysbysiad o'r penderfyniad gael ei roi i berson a benodwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r person a benodwyd roi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi i'r apelydd hysbysiad ysgrifenedig o'i ddyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 42 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
43. Os bydd arolygydd yn barnu ei bod yn angenrheidiol at ddibenion iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd neu os na chydymffurfir ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned, caiff yr arolygydd–
(a)cyflwyno i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw waredu'r sgil-gynnyrch yn y modd a gaffo ei bennu yn yr hysbysiad (ac, os oes angen, yn pennu sut i'w storio hyd nes y'i gwaredir); neu
(b)cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre yn gwahardd dod â sgil-gynhyrchion anifeiliaid i mewn i'r fangre, neu'n caniatáu hyn mewn ffordd a bennir yn yr hysbysiad yn unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 43 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
44.—(1) Os bydd yn rhesymol i arolygydd amau bod unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu fangre y mae'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned yn gymwys iddo neu iddi yn risg i iechyd anifail neu'r cyhoedd, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal am y cerbyd neu'r cynhwysydd, neu i feddiannydd y fangre, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cerbyd neu i'r cynhwysydd gael ei lanhau a'i ddiheintio neu i'r fangre gael ei glanhau neu ei diheintio.
(2) Caiff yr hysbysiad–
(a)pennu'r dull glanhau a diheintio;
(b)pennu dull gwaredu unrhyw ddeunydd sydd ar ôl yn y cerbyd, y cynhwysydd neu yn y fangre; ac
(c)gwahardd symud unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid i mewn i'r cerbyd neu i'r cynhwysydd neu i'r fangre hyd nes bydd y gwaith glanhau a diheintio gofynnol wedi'i gwblhau'n foddhaol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 44 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
45.—(1) Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir ag ef ar draul y person hwnnw.
(2) Bydd unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r hysbysiad hwnnw neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 45 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
46.—(1) O ddangos, os bydd angen hynny, unrhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd, bydd hawl gan arolygydd i fynd i mewn, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre (gan gynnwys unrhyw fangre ddomestig os y'i defnyddir at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â Rheoliad y Gymuned neu â'r Rheoliadau hyn) a hynny at ddibenion sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae “fangre”yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.
(2) Caiff arolygydd–
(a)atafaelu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid a'u gwaredu yn ôl yr angen;
(b)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;
(c)cymryd unrhyw samplau;
(ch)gweld, ac archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y'u cedwir) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Gymuned, neu fynd â'r cofnodion hynny oddi yno i'w gwneud yn bosibl eu copïo;
(d)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'i archwilio a gwirio ei weithrediad; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano (gan gynnwys darparu ar gyfer yr arolygydd unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol) ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;
(dd)marcio unrhyw anifail, sgil-gynnyrch anifeiliaid neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac
(e)mynd â'r canlynol gydag ef–
(i)y cyfryw bersonau eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol; a
(ii)unrhyw un o gynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Rheoliad y Gymuned.
(3) Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu'n tynnu unrhyw farc a roddwyd o dan baragraff (2) yn euog o dramgwydd.
(4) Os bydd arolygydd yn mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw'n fangre wedi'i meddiannu rhaid i'r arolygydd ei gadael fel y'i cafodd, sef yn effeithiol o ddiogel fel na allo neb nad yw wedi'i awdurdodi fynd i mewn iddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 46 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
47. Bydd unrhyw berson yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw–
(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b)heb achos rhesymol, yn methu rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i'r person hwnnw ofyn i'r arolygydd amdano neu amdani er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(c)yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol; neu
(ch)yn methu dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 47 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
48.—(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliad hwn yn agored–
(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i'w gadw yn y carchar am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i'r ddau; neu
(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i'w gadw yn y carchar am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn y swyddogaeth honno,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(3) At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 48 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
49.—(1) Gorfodir y Rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn unrhyw ladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela, a gweithfeydd torri sy'n gosod cig ffres ar y farchnad a lle y'u gorfodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
(2) Ac eithrio fel a bennir ym mharagraffau (1) uchod (2) mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 49 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
50.—(1) Er gwaethaf rheoliadau 4 a 5, caiff gosod ar y farchnad fathau o ddeunydd Categori 1 a Chategori 2 y cyfeirir atynt yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 i'w traddodi i waith technegol pwrpasol a gymeradwywyd yn unol ag Erthygl 18 o Reoliad y Gymuned ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 2 o'r Rheoliad hwnnw.
(2) Mae methu cydymffurfio ag Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 (gosod ar y farchnad) neu Erthygl 5 o'r Rheoliad hwnnw (casglu a chludo) yn dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 50 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
51.—(1) Er gwaethaf rheoliad 4, yn unol ag Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC, awdurdodir defnyddio gelatin i weithgynhyrchu cynhyrchion ffotograffig os–
(a)y'i cynhyrchwyd o ddeunydd Categori 1 yn unol â'r Penderfyniad hwnnw; a
(b)y'i mewnforiwyd yn unol â'r Penderfyniad hwnnw.
(2) Rhaid i'r gwaith o weithgynhyrchu cynhyrchion ffotograffig fynd rhagddo yn y ffatri ffotograffig a restrir yn Atodiad I i'r Penderfyniad hwnnw, ac yn unol â chymeradwyaeth a roddwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal y gymeradwyaeth ar unwaith os na chydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwn.
(4) Ni chaiff unrhyw berson–
(a)cludo'r gelatin ffotograffig mewn cerbyd sy'n cludo ar yr un pryd unrhyw gynnyrch a fwriedir ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid, gan gynnwys gelatin a fwriedir at ddibenion ac eithrio'r diben o'i ddefnyddio yn y diwydiant ffotograffig;
(b)defnyddio'r gelatin a fewnforiwyd ac eithrio yn y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd;
(c)defnyddio'r gelatin at unrhyw ddiben ac eithrio cynhyrchu ffotograffig; neu
(ch)anfon y gelatin i Aelod-wladwriaeth arall.
(5) Rhaid i weithredydd y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd sicrhau bod unrhyw gelatin ffotograffig sydd dros ben neu weddillion y gelatin ffotograffig a gwastraff arall sy'n deillio ohono–
(a)yn cael eu cludo mewn cynhwysion dan sêl nad ydynt yn gollwng ac sydd wedi'u labelu ‘for disposal only’ mewn cerbydau o dan amodau hylendid boddhaol;
(b)yn cael eu gwaredu fel gwastraff drwy eu llosgi'n unol â Chyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 2000/76/EC(1) neu mewn safle tirlenwi yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC(2); neu
(c)yn cael eu hallforio i'r wlad y daeth y gelatin ohoni yn unol â Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 259/93 ar oruchwylio a rheoli llwythi o wastraff o fewn y Gymuned Ewropeaidd, i'r Gymuned ac o'r Gymuned(3).
(6) Rhaid i weithredydd y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd gadw cofnodion am ddwy flynedd o leiaf yn rhoi manylion ynghylch prynu a defnyddio gelatin ffotograffig, yn ogystal ag ynghylch gwaredu gweddillion a deunydd dros ben.
(7) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth unrhyw ddeunydd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac nad yw wedi'i gludo, ei ddefnyddio neu ei waredu'n unol â'r rheoliad hwn, yn ei gwneud yn ofynnol i'r ardygydd waredu'r deunydd fel a bennir yn yr hysbysiad.
(8) Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn neu ag hysbysiad a gyflwynir oddi tano'n dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 51 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
52. Awdurdodir casglu, cludo, prosesu, defnyddio a storio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005, a'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion dyroddi cofrestriadau ac awdurdodiadau'n unol â'r Rheoliad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 52 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
53.—(1) Diddymir y canlynol i'r graddau y maent yn effeithiol o ran Cymru–
(a)adrannau 1, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 12, 19 i 26, 29, 33 o Ddeddf Lladd-dai 1974(4) ac, yn adran 34, y diffiniad o “horse”, “construction regulations”, “licence”, “knacker’s yard”; a
(b)adran 6 o Ddeddf Cwn 1906(5).
(2) Dirymir Gorchymyn Rendro (Trin Hylif) (Cymru) 2001(6) a Dirymir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 53 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
OJ Rhif L332, 28.12.2000, t.91.
OJ Rhif L182, 16.7.1999, t.1; Cyfarwyddeb fel y"i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a"r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).
OJ Rhif L30, 6.2.1993, t.1; Rheoliad fel y"i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2557/2001 (L349, 31.12.2001, t.1).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys