xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 158 19(1)

ATODLEN 1LL+CGofynion ychwanegol ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

RHAN 1LL+CMangreoedd

1.—(1Rhaid bod–LL+C

(a)man derbyn lle y mae sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn cael eu derbyn;

(b)man lle y mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio gyda chyfleusterau digonol ar gyfer gwneud hynny; ac

(c)man glân lle y mae compost neu weddill traul yn cael ei storio.

(2Rhaid i'r man glân fod wedi'i wahanu'n ddigonol oddi wrth y man derbyn a'r fan lle y mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio er mwyn atal y deunydd sydd wedi'i drin rhag cael ei halogi. Rhaid gosod lloriau fel na all hylifau ollwng i'r man glân o'r mannau eraill.

(3Rhaid i'r man derbyn fod yn un hawdd i'w lanhau a'i ddiheintio a rhaid bod yno le neu gynhwysydd sydd wedi'i amgáu ac y gellir ei gloi i dderbyn a storio'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

2.  Rhaid dadlwytho'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn y man derbyn a naill ai–LL+C

(a)eu trin ar unwaith; neu

(b)eu storio yn y man derbyn a'u trin heb oedi amhriodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

3.  Rhaid i'r gwaith gael ei weithredu yn y fath fodd–LL+C

(a)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin ei halogi â deunydd sydd heb ei drin neu sydd wedi'i drin yn rhannol neu hylifau sy'n dod ohono; a

(b)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin yn rhannol ei halogi â deunydd nad yw wedi'i drin i'r un graddau neu â hylifau sy'n dod ohono.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

4.  Rhaid i'r gweithredydd nodi, rheoli a monitro pwyntiau critigol addas yng ngweithrediad y gwaith i ddangos–LL+C

(a)y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn ac â Rheoliad y Gymuned;

(b)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin ei halogi a deunydd sydd heb ei drin neu sydd wedi'i drin yn rhannol neu a hylifau sy'n dod ohono, a

(c)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin yn rhannol ei halogi a deunydd nad yw wedi'i drin i'r un graddau neu a hylifau sy'n dod ohnono.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

5.  Rhaid glanhau cynwysyddion, llestri a cherbydau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin yn y man pwrpasol cyn iddynt adael y fangre a chyn bod unrhyw ddeunydd sydd wedi'i drin yn cael ei lwytho. Yn achos cerbydau sy'n cludo dim ond gwastraff arlwyo heb ei drin ac nad ydynt yn cludo deunydd sydd wedi'i drin ar ôl hynny, dim ond olwynion y cerbyd y mae angen eu glanhau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

RHAN IILL+CSystemau a pharamedrau ar gyfer trin gwastraff arlwyo

1.  Oni fydd cymeradwyaeth yn benodol yn caniatáu system wahanol, rhaid trin gwastraff arlwyo drwy un o'r systemau a bennir yn y tabl isod. Rhaid i'r system sicrhau y bydd y deunydd yn cael ei drin yn ôl y paramedrau canlynol:LL+C

Compostio

SystemCompostio mewn adweithydd caeedigCompostio mewn adweithydd caeedigCompostio mewn rhenciau wedi'u hamgáu
Mwyafswm maint y gronyn40cm6cm40cm
Isafbwynt y tymheredd60°C70°C60°C
Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd2 ddiwrnod1 awr8 niwrnod (yn ystod y cyfnod hwn, rhaid troi'r rhenc o leiaf deirgwaith a hynny heb fod yn llai aml na phob deuddydd)

Rhaid bodlonir gofynion ynglŷn ag amser a thymheredd fel rhan o'r broses gompostio.

Bio-nwy

SystemBio-nwy mewn adweithydd caeedigBio-nwy mewn adweithydd caeedig
Mwyafswm maint y gronyn5cm6cm
Isafbwynt y tymheredd57°C70°C
Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd5 awr1 awr

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

2.  Fel rheol rhaid i'r gymeradwyaeth bennu un o'r dulliau yn y tabl, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo system wahanol os yw wedi'i fodloni ei fod yn sicrhau'r un gostyngiad mewn pathogenau â'r dulliau hynny (gan gynnwys unrhyw amodau ychwanegol sy'n cael eu gosod ar gyfer y dulliau hynny) ac os felly rhaid i'r system gyfan gael ei disgrifio'n llawn yn y gymeradwyaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Gweithfeydd compostioLL+C

3.  Os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer gwaith compostio yn pennu un o'r dulliau yn y tabl, rhaid iddi bennu pa un ac, yn ychwanegol at hynny, rhaid bod ynddi'r naill neu'r llall o'r amodau canlynol–

(a)y bydd mesurau yn cael eu cymryd yn y tarddle i sicrhau na chafodd cig ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo a bod y deunydd yn cael ei storio am 18 o ddiwrnodau o leiaf ar ôl ei drin (nid yw'n angenrheidiol ei storio mewn system wedi'i hamgáu), neu

(b)y bydd y deunydd yn cael ei drin eto, ar ôl y driniaeth gyntaf, gan ddefnyddio un o'r dulliau sydd yn y tabl ac sydd wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth (nid o reidrwydd yr un dull ag a ddefnyddiwyd ar gyfer y driniaeth gyntaf) ac eithrio, os yw'r driniaeth mewn rhenc, nad oes angen i'r ail driniaeth fod mewn rhenc wedi'i hamgáu.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Gweithfeydd bio-nwyLL+C

4.  Rhaid i gymeradwyaeth gwaith bio-nwy bennu un o'r dulliau yn y tabl ac, yn ychwanegol at hynny, ei gwneud yn ofynnol naill ai–

(a)bod camau wedi'u cymryd yn y tarddle i sicrhau na chafodd cig ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo; neu

(b)bod y deunydd, ar ôl iddo gael ei drin, yn cael ei storio am 18 o ddiwrnodau ar gyfartaledd.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1