Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN IIY DULLIAU AR GYFER YNYSU SALMONELA

A.Y DULL BACTERIOLEGOL

1.—(1Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar y diwrnod y daw'r sampl i law rhaid ei storio mewn oergell hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf bedair awr cyn i'r prawf ddechrau.

(2Rhaid gweithredu'r profion yn ddyblyg gan ddefnyddio dwy gyfran 25 gram yr un o bob sampl a anfonwyd i'w phrofi.

Diwrnod un

2.  Ar y diwrnod cyntaf, rhaid rhoi'r ddwy sampl 25 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 225 ml o Ddwr Pepton Byfferog (BPW) a'u deor ar 37°C±1°C am 18 awr±2 awr.

Diwrnod dau

3.  Ar yr ail ddiwrnod, rhaid plannu 0.1 ml o'r cynhwysydd BPW wedi'i ddeor mewn 10 ml o gawl Rappaports Vassiliadis (cawl RV)(1) a'i ddeor ar 41.5°C±0.5°C am 24 awr ±3awr.

Diwrnod tri

4.  Ar y trydydd diwrnod, rhaid gosod y cawl RV ar ddau blât 90 milimetr o Agar Gwyrdd Gloyw (BGA)(2) neu ar un plât 90 milimetr o BGA ac un plât 90 milimetr o Agar Sylos Lysin Deocsicolad (XLD)(3) gan ddefnyddio dolen 2.5 mm mewn diamedr. Rhaid plannu defnyn yn y platiau sydd wedi'i gymryd o ymyl wyneb yr hylif drwy dynnu'r ddolen dros y cyfan o un plât mewn patrwm igam-ogam gan fynd ymlaen i'r ail blât heb aildrydanu'r ddolen. Rhaid i'r bwlch rhwng llinellau'r ddolen fod yn 0.5 cm- 1.0 cm. Rhaid deor y platiau ar 37°C ±2°C dros nos am 24 ± 3 awr. Rhaid ailddeor y cawl RV gweddilliol ar 41.5°C±0.5°C am 24 awr ychwanegol.

5.  The residual RV broth must be reincubated at 41.5°C±0.5°C for a further 24 hours.

Diwrnod pedwar

6.  Ar y pedwerydd diwrnod, rhaid archwilio'r platiau a rhaid is-feithrin lleiafswm o dair cytref o bob plât sy'n dangos amheuaeth o dyfiant Salmonela–

(a)ar blât agar gwaed;

(b)ar blât agar MacConkey(4); ac

(c)i gyfrwng biocemegol sy'n addas i adnabod Salmonela.

Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.

7.  Rhaid i'r cawl RV a ailddeorwyd gael ei osod ar blatiau fel a ddisgrifir ym mharagraff 4.

Diwrnod pump

8.  Ar y pumed diwrnod, rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a rhaid cofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent “O”ac amryfalent “H” (cyfnod 1 a 2) sera cyflynedig ar gytrefi detholedig a amheuir ac a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau gyda un o'r sera neu yn y ddau rhaid dosbarthu'r cytrefi drwy seroleg sleidiau. Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i weithredydd y labordy anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer dosbarthu ymhellach.

9.  Rhaid archwilio'r platiau y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 a chymryd camau pellach yn ôl paragraff 6 ac 8.

B.Y DULL DARGLUDIANT TRYDANOL

10.  Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar ddiwrnod cael y sampl rhaid ei storio mewn oergell hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf bedair awr cyn i'r prawf ddechrau.

Diwrnod un

11.  Ar y diwrnod cyntaf rhaid gweithredu'r profion yn ddyblyg drwy ddefnyddio dwy gyfran 25 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid rhoi'r ddwy sampl 25 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 225 ml o Ddŵr Pepton/Lysin/Glwcos Byfferog (BPW/L/G)(5) a'u deor ar 37°C am 18 awr.

Diwrnod dau

12.  Ar yr ail ddiwrnod rhaid ychwanegu'r BPW/L/G a ddeorwyd at gyfrwng Dwlsitol Selenit Cystin Trimethylamin-N-Ocsid (SC/T/D)(6) a Glwcos Lysin Decarbocsylas (LD/G)(7) mewn celloedd neu bantiau dargludo trydanol. Ar gyfer celloedd neu bantiau sy'n cynnwys cyfrwng mwy na 5 ml rhaid ychwanegu 0.2 ml o BPW/L/G ac ar gyfer celloedd neu bantiau sy'n cynnwys cyfrwng 5 ml neu lai rhaid ychwanegu 0.1 ml o BPW/L/G. Rhaid bod y celloedd neu'r pantiau wedi'u cysylltu â chyfarpar mesur dargludiant trydanol addas a osodwyd i fonitro a chofnodi newidiadau yn y dargludiant trydanol fesul 6 munud dros gyfnod o 24 awr. Rhaid cadw tymheredd y celloedd a'r pantiau ar 37°C.

Diwrnod tri

13.  Ar y trydydd diwrnod, ar ddiwedd y cyfnod 24 awr, rhaid i'r wybodaeth a gofnodwyd gan y cyfarpar mesur dargludiant gael ei dadansoddi a'i dehongli gan ddefnyddio'r meini prawf a ddiffinnir gan weithgynhyrchwyr y cyfarpar. Os dynodir dros dro bod pant neu gell yn cadarnhau bod Salmonela'n bresennol, rhaid cadarnhau'r canlyniad drwy is-feithrin cynnwys y pant neu'r gell ar ddau blât 90 milimetr o BGA neu ar un plât 90 milimetr o BGA ac un plât 90 milimetr o Agar Sylos Lysin Deocsicolad (XLD) sy'n defnyddio dolen 2.5 mm ei diamedr. Rhaid plannu defnyn yn y platiau sydd wedi'i gymryd o ymyl wyneb yr hylif drwy dynnu'r ddolen dros y cyfan o'r naill blât mewn patrwm igam-ogam gan fynd ymlaen i'r plât arall heb ailwefru'r ddolen. Rhaid i'r bwlch rhwng llinellau'r ddolen fod yn 0.5 cm- 1.0 cm. Rhaid deor y platiau ar 37°C dros nos.

Diwrnod pedwar

14.  Ar y pedwerydd diwrnod, rhaid archwilio'r platiau a rhaid is-feithrin lleiafswm o 3 cytref o bob plât sy'n dangos amheuaeth o dyfiant Salmonela–

(a)ar blât agar gwaed;

(b)ar blât agar MacConkey; ac

(c)i gyfrwng biocemegol sy'n addas i adnabod Salmonela.

Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.

Diwrnod pump

15.  ar y pumed diwrnod, rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a rhaid cofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent “O”ac amryfalent “H” (cyfnod 1 a 2) sera cyfludol ar gytrefi detholedig a amheuir ac a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau yn un o'r sera neu yn y ddau rhaid dosbarthu'r cytrefi drwy seroleg sleidiau. Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i weithredydd y labordy anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer dosbarthu ymhellach.

(1)

Rappaports Vassiliadis Broth – Gweler Vassiliadis P, Pateraki E, Papaiconomou N, Papadkis J A, a Trichopoulos D (1976) Annales de Microbiologie (Institute Pasteur) 127B: 195-200. Elsevier, 23 rue Linois, 75724 Paris, Cedex 15, Ffrainc.

(2)

Brilliant Green Agar – Gweler Edel W and Kampelmacher E H (1969) Bulletin of World Health Organisation 41:297-306, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir (ISSN 0042-9686).

(3)

Xylose Lisene Deoxycholate Agar – Gweler Taylor W I, (1965) American Journal of Clinical Pathology, 44:471-475, Lippincott and Raven, 227E Washington Street, Philadelphia PA 19106, UDA.

(4)

MacConkey Agar – Gweler (1963) International Standards for Drinking Water, World Health Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir.

(5)

Buffered Peptone Water/Lysine/Glucose – Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbiology 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).

(6)

Selenite Cystine Trimethylamine-N-Oxide Dulcitol – Gweler Easter, M C and Gibson, D M, (1985) Journal of Hygiene 94:245-262, Cambridge University Press, Caer-grawnt

(7)

Lysine Decarboxylase Glucose – Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbilogy 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill