Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006

Enwi a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.

2.  

(1Yn y Gorchymyn hwn–

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996(1);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(3); ac

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005.

(2Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.

Y Diwrnod penodedig

3.  Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru.

4.  

(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru a Lloegr.

(2Nid yw adrannau 41 a 42 i ddod i rym ond i'r graddau eu bod yn gymwys i ysgolion arbennig o'r disgrifiad sydd yn adran 28(2)(d).

5.  Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007 o ran Cymru a Lloegr.

Darpariaethau trosiannol ac arbedion

6.  Mae'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Mai 2006