xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
PYSGODFEYDD MôR, CYMRU
Wedi'u gwneud
6 Mehefin 2006
Yn dod i rym
9 Mehefin 2006
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006.
(2) Daw y Rheoliadau hyn, sy'n berthnasol mewn perthynas â Chymru, i rym ar 9 Mehefin 2006.
(3) Gellir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac i bob diben achlysurol, gellir ymdrin â'r drosedd fel pe bai wedi'i chyflawni yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr “cwch pysgota trwyddedig” (“licensed fishing vessel”) yw cwch pysgota y rhoddwyd trwydded iddo o dan adran 4 o Ddeddf (Cadwraeth) Pysgod Môr 1967(3) neu ddarpariaethau cyffelyb yn ymwneud â physgodfeydd gan Aelod-Wladwriaeth arall neu gan yr awdurdodau priodol yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu wlad arall;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darpariaethau cywerth” (“equivalent provisions”) yw unrhyw ddarpariaeth yn unrhyw reoliadau eraill a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 at ddibenion gweithredu Erthygl 9, neu Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP, yn ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y mae ei heffaith yn gyfwerth ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn;
mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys gwybodaeth a gofnodwyd mewn unrhyw ffurf;
ystyr “Erthygl 9” (“Article 9”) yw Erthygl 9 Rheoliad Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 yn sefydlu system reoli sy'n gymwys i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (4) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Cyngor (EC) Rhif 768/2005(5);
ystyr “gwerthwr pysgod cofrestredig” (“registered fish seller”) yw person a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 3;
ystyr “PLN” (“PLN”) yw Rhif porthladd cwch o fewn ystyr rheoliad 31 Rheoliadau Llongau Masnach (Cofrestru Llongau) 1993(6);
ystyr “prynwr pysgod cofrestredig” (“registered fish buyer”) yw person a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7;
ystyr “pysgod” (“fish”) yw cynnyrch pysgodfeydd a gaiff eu glanio o gwch pysgota y mae Erthygl 9 neu Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP yn berthnasol iddo;
ystyr “pysgod gwerthiant cyntaf” (“first sale fish”) yw pysgod sy'n cael eu marchnata am y tro cyntaf; ac
ystyr “y Rheoliad CFP” (“the CFP Regulation”) yw Rheoliad Cyngor 2371/2002 ar warchod a datblygu adnoddau pysgodfeydd yn gynaliadwy o dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (7).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, bydd unrhyw gyfeiriad at unrhyw werthwr pysgod yn cynnwys–
(a)asiant sy'n gwerthu pysgod ar ran y gwerthwr; a,
(b)masnachwr mewn arwerthiant.
(3) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nad ydynt wedi'i diffinio ym mharagraffau (1) na (2) uchod ac sy'n ymddangos yn y Rheoliad CFP neu Erthygl 9, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion y Rheoliad CFP neu Erthygl 9.
3.—(1) Mae gwerthwr pysgod cofrestredig wedi'i awdurdodi at ddibenion Erthygl 9, i'r graddau y bo'r person hwnnw'n gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf drwy unrhyw fath o fidio cystadleuol mewn safle arwerthu dynodedig un ai ar ei ran ei hun neu fel asiant y gwerthwr,
(2) Caiff unrhyw berson wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gofrestru'n werthwr pysgod, gan ddefnyddio ffurflen o'r math a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r sawl sy'n gwneud cais i gofrestru'n werthwr pysgod gynnwys datganiad gyda'r cais yn nodi'r cyfleusterau a'r dulliau gweithredu arfaethedig y mae'n fwriad gan yr ymgeisydd eu defnyddio a'r man lle mae'r ymgeisydd yn bwriadu cadw'r cofnodion gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf.
(4) Wrth ystyried cais i gofrestru rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried a yw'r datganiad ynglŷn â'r cyfleusterau a dulliau gweithredu arfaethedig yr ymgeisydd, a'r man ble mae'r ymgeisydd yn bwriadu cadw'r cofnodion gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf yn gyfryw ag y byddant o gymorth i'r ymgeisydd gydymffurfio ag Erthygl 9, Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP a'r Rheoliadau hyn.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ymgeisydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ynglŷn â chais a wnaed iddo'n unol â'r rheoliad hwn.
(6) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu cofrestriad bydd yn ddarostyngedig i Atodlen 1 a rhaid iddo bennu'r amodau a restrir ynddi.
(7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o werthwyr pysgod cofrestredig yn y fath fodd ag y gwêl yn dda.
(8) Gellir atal cofrestriad gwerthwr pysgod lle bo'r gwerthwr pysgod, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, heb–
(a)gydymffurfio ag un o amodau cofrestru; neu,
(b)gydymffurfio ag un o ofynion Erthygl 9, Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP neu'r Rheoliadau hyn.
(9) Mae unrhyw berson sy'n gwneud datganiad ffug yn ymwybodol neu'n fyrbwyll at ddibenion cais o dan y rheoliad hwn yn euog o drosedd.
(10) Mae unrhyw werthwr pysgod cofrestredig sy'n gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf yn groes i un o amodau cofrestru'n euog o drosedd.
4. Bydd unrhyw berson sydd yn–
(a)gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf trwy unrhyw fath o fidio cystadleuol mewn safle arwerthu dynodedig, un ai ar ran y person hwnnw ei hun neu fel asiant i'r gwerthwr; a
(b)heb fod yn werthwr pysgod cofrestredig,
yn euog o drosedd.
5.—(1) Rhaid i werthwr pysgod cofrestredig gadw cofnodion, pob gwerthiant pysgod gwerthiant cyntaf a wneir gan y gwerthwr pysgod cofrestredig mewn man a hysbysir i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r cofnodion y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn gynnwys yr holl wybodaeth a ganlyn ar gyfer pob gwerthiant–
(a)dyddiad a lleoliad y gwerthiant;
(b)nifer pob rhywogaeth a werthwyd;
(c)y pris a dalwyd am bob rhywogaeth a werthwyd;
(ch)enw a PLN y cwch a laniodd y pysgod;
(d)enw, cyfeiriad a Rhif cofrestru'r prynwr pan fo ar gael;
(dd)Rhif cyfeirnod yr anfoneb neu'r contract gwerthu.
(3) Rhaid i werthwr pysgod cofrestredig gadw cofnodion pob gwerthiant fel sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw.
(4) Rhaid i werthwr pysgod cofrestredig sicrhau fod y cofnodion gwerthiant pysgod ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol yn y man a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Rhaid i werthwr pysgod cofrestredig nad yw ei fusnes yn gweithredu o'r Deyrnas Unedig neu nad yw wedi'i sefydlu yno–
(a)un ai–
(i)enwi man yn y Deyrnas Unedig lle bydd y cofnodion ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant y mae a wnelo'r cofnodion ag ef; neu
(ii)gyflwyno'r cofnodion yn flynyddol o'r dyddiad cofrestru; a
(b)chyflwyno'r cofnodion o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn cais gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(6) Rhaid i werthwr pysgod cofrestredig nad yw ei fusnes yn gweithredu o'r Deyrnas Unedig neu nad yw wedi'i sefydlu yno gadw cofnodion pob gwerthiant fel sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw.
(7) Mae gwerthwr pysgod cofrestredig nad yw'n cadw'r cofnodion neu'n trefnu iddynt fod ar gael fel sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn yn euog o drosedd.
6.—(1) Caiff unrhyw berson wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan ddefnyddio ffurflen o'r math a ragnodir gan y Cynulliad, i ddynodi man at ddibenion Erthygl 9 ac Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP fel safle arwerthu pysgod.
(2) Rhaid i gais i ddynodi o dan y rheoliad hwn gynnwys datganiad ynglŷn â'r cyfleusterau a'r dulliau gweithredu arfaethedig a ddefnyddir ar y safle.
(3) Wrth ystyried cais i ddynodi o dan y rheoliad hwn, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd i gyfrif a yw'r datganiad ynglŷn â'r cyfleusterau a'r dulliau gweithredu arfaethedig ar y safle yn gyfryw ag y byddant o gymorth i gydymffurfio gydag Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP a'r Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ymgeisydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ynglŷn â chais i ddynodi a wnaed yn unol â'r rheoliad hwn.
(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo dynodiad bydd yn ddarostyngedig i Atodlen 2 a rhaid iddo bennu'r amodau a restrir ynddi.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o safleoedd arwerthu pysgod dynodedig yn ôl fel y gwêl yn dda.
(7) Gellir atal dynodiad safle arwerthu pysgod pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn–
(a)na chydymffurfiwyd ag amod yr oedd y dynodiad a ganiatawyd yn ddarostyngedig iddo; neu
(b)nad yw'r dulliau gweithredu a'r cyfleusterau ar y safle'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 9, Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP neu'r Rheoliadau hyn.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n gwneud datganiad ffug yn ymwybodol neu'n fyrbwyll at ddibenion y rheoliad hwn yn euog o drosedd.
(9) Bydd unrhyw berson sy'n rheoli safle arwerthu pysgod dynodedig, neu ran o safle o'r fath, ac sy'n torri un o amodau dynodi'r safle, yn euog o drosedd.
(10) Yn y rheoliad hwn–
mewn cysylltiad â safle arwerthu pysgod dynodedig neu unrhyw ran o safle o'r fath, bydd “person sy'n rheoli safle arwerthu pysgod dynodedig” yn cynnwys, perchennog y safle neu'r rhan honno, neu asiant y perchennog, neu unrhyw berson sy'n rheoli mewn unrhyw fodd neu'n meddu ar y safle neu'r rhan honno.
7.—(1) At ddibenion Erthygl 22(2)(b) o'r Rheoliad CFP caiff unrhyw berson wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gofrestru'n brynwr pysgod, gan ddefnyddio'r ffurflen a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i gais i gofrestru'n brynwr pysgod gynnwys datganiad ynglŷn â'r cyfleusterau a'r dulliau arfaethedig y bwriada'r ymgeisydd eu defnyddio a'r man lle mae'r ymgeisydd yn bwriadu cadw'r cofnodion gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf.
(3) Wrth ystyried cais rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried a yw'r datganiad ynglŷn â dulliau gweithredu arfaethedig yr ymgeisydd, a'r man lle mae'r ymgeisydd yn bwriadu cadw'r cofnodion prynu pysgod gwerthiant cyntaf yn gyfryw ag y byddant o gymorth i gydymffurfio gydag Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP a'r Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ymgeisydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ynglŷn â chais a wnaed iddo'n unol â'r rheoliad hwn.
(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo cofrestriad bydd yn ddarostyngedig i Atodlen 3 ac yn gorfod pennu'r amodau a restrir ynddi.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o brynwyr pysgod cofrestredig yn ôl fel y gwêl yn dda.
(7) Gellir atal cofrestriad prynwr pysgod, pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r prynwr pysgod cofrestredig wedi–
(a)cydymffurfio ag amod cofrestru; neu,
(b)cynnal busnes mewn modd sy'n cydymffurfio gyda gofynion Erthygl 9, Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP neu'r Rheoliadau hyn.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n gwneud datganiad ffug yn ymwybodol neu'n fyrbwyll at ddibenion cais o dan y rheoliad hwn yn euog o drosedd.
(9) Bydd unrhyw brynwr pysgod sy'n gwrthod cydymffurfio ag amod cofrestru'n euog o drosedd.
8.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n prynu pysgod yn groes i Erthygl 22(2)(b) o'r Rheoliad CFP, o'i darllen gydag is-baragraff olaf Erthygl 22(2), yn euog o drosedd.
(2) Bydd unrhyw berson sydd–
(a)yn prynu pysgod ac a fyddai oni bai am is-baragraff olaf Erthygl 22(2) yn euog o drosedd o dan baragraff (1); ac
(b)ar y dydd y mae'r person hwnnw'n prynu'r pysgod yn prynu cyfanswm o dros 25 kilogram o bysgod,
yn euog o drosedd.
(3) Bydd unrhyw berson sy'n prynu pysgod gwerthiant cyntaf gan unrhyw un heblaw gwerthwr pysgod cofrestredig ac yntau heb fod yn brynwr pysgod cofrestredig, yn euog o drosedd.
(4) Nid yw person yn euog o drosedd o dan baragraff (3) os–
(a)nad yw'r person hwnnw'n prynu mwy na 25 kilogram o bysgod ar y diwrnod dan sylw; ac
(b)mae'r person hwnnw'n gallu'n dangos mai ar gyfer treuliant preifat y mae'r holl bysgod a brynwyd ar y diwrnod hwnnw.
9.—(1) Rhaid i brynwr pysgod cofrestredig gadw cofnodion pob pryniant pysgod gwerthiant cyntaf a wneir ganddo ynghyd â'u darparu i'w harchwilio.
(2) Rhaid i'r cofnodion y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn gynnwys yr holl wybodaeth a ganlyn parthed pob pryniant unigol–
(a)dyddiad a lleoliad y pryniant;
(b)nifer pob rhywogaeth a brynwyd;
(c)y pris a dalwyd am bob rhywogaeth a brynwyd;
(ch)enw a PLN y cwch a laniodd y pysgod;
(d)enw, cyfeiriad a Rhif cofrestru'r gwerthwr pan fo ar gael;
(dd)Rhif cyfeirnod yr anfoneb neu'r contract gwerthu.
(3) Rhaid i brynwr pysgod cofrestredig gadw cofnodion pob gwerthiant fel sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn yn y man a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw.
(4) Rhaid i brynwr pysgod cofrestredig drefnu fod cofnodion pryniant pysgod ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol yn y man a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Rhaid i brynwr pysgod cofrestredig nad yw ei fusnes yn gweithredu o'r DU ac nad yw wedi'i sefydlu yno–
(a)un ai–
(i)enwi lle yn y DU lle bydd y cofnodion ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr ar ôl y pryniant; neu
(ii)gyflwyno'r cofnodion bob blwyddyn o'r dyddiad cofrestru; a
(b)chyflwyno'r cofnodion o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn cais gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(6) Rhaid i brynwr pysgod cofrestredig nad yw ei fusnes yn gweithredu o'r DU gadw cofnodion pob pryniant fel sy'n orfodol gan y rheoliad hwn hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y pryniant hwnnw.
(7) Mae prynwr pysgod cofrestredig nad yw'n cadw'r cofnodion neu'n trefnu iddynt fod ar gael fel sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn yn euog o drosedd.
10. Mae unrhyw berson sy'n gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf sydd wedi'u glanio yng Nghymru mewn unrhyw ffordd ac eithrio gan gwch pysgota trwyddedig yn euog o drosedd.
11.—(1) Mae unrhyw berson sy'n prynu pysgod gwerthiant cyntaf sydd wedi'u glanio mewn unrhyw ffordd ac eithrio gan gwch pysgota trwyddedig yn euog o drosedd.
(2) Mewn unrhyw achos a ddygir am drosedd o dan baragraff (1), mae'n amddiffyniad i berson ddangos–
(a)nad oedd y person ddim yn gwybod; a'i
(b)bod yn rhesymol i'r person hwnnw beidio ag amau,
nad oedd y pysgod wedi'u glanio gan gwch pysgota trwyddedig.
12.—(1) Mae person a gollfernir o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored–
(a)ar gollfarn ddiannod i ddirwy dim uwch na'r uchafswm statudol; neu
(b)ar gollfarn o dditiad, i ddirwy.
(2) Yn ychwanegol at y cosbau ym mharagraff (1), bydd gan lys hawl hefyd–
(a)mewn cysylltiad â throsedd o dan reoliadau 3(9), 3(10) neu 5(7), i orchymyn fod cofrestriad y person a gollfarnwyd yn cael ei ddiddymu a bod y person yn cael ei anghymwyso rhag gwneud cais i gofrestru o dan reoliad 3, neu'n cael ei anghymwyso rhag gwneud cais o dan reoliad 3 am gyfnod penodol;
(b)mewn cysylltiad â throsedd o dan reoliad 6(8) neu 6(9), i orchymyn fod dynodiad y safle'n cael ei ddiddymu neu orchymyn fod y sawl a gollfarnwyd yn cael ei anghymwyso rhag gwneud cais i ddynodi safle o dan reoliad 6 neu'n cael ei anghymwyso rhag gwneud cais i ddynodi safle o dan y rheoliad hwnnw am gyfnod penodol; ac
(c)mewn cysylltiad â throsedd o dan reoliadau 7(8), 7(9) neu 9(7), i orchymyn fod cofrestriad person a gollfarnwyd yn cael ei ddiddymu a bod y person hwnnw'n cael ei anghymwyso rhag gwneud cais i gofrestru o dan reoliad 7 neu'n cael ei anghymwyso rhag gwneud cais i gofrestru o dan y rheoliad hwnnw am gyfnod penodol.
13.—(1) At ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaethau cywerth, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydain arfer y pwerau a gyflwynir gan yr erthygl hon mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota o fewn Cymru.
(2) Bydd hawl gan y swyddog i fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a aseiniwyd i gynorthwyo gyda dyletswyddau'r swyddog hwnnw, a chaiff ofyn am stopio'r cwch a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso un ai mynd ar fwrdd y cwch neu ddod oddi arno.
(3) Caiff y swyddog fynnu fod y meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn dod ger ei fron a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymholiad sy'n angenrheidiol yn ôl ei farn ef at y diben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) y rheoliad hwn ac, yn arbennig–
(a)bydd hawl ganddo i chwilio am bysgod neu daclau pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys y taclau pysgota, a bydd hawl ganddo i fynnu fod personau ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r swyddog i hwyluso'r archwiliad;
(b)bydd hawl ganddo ofyn i unrhyw berson ar fwrdd y cwch ddangos unrhyw ddogfen yn ymwneud â'r cwch, yn ymwneud ag unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol at hynny neu i'r personau ar y bwrdd sydd yng nghadwraeth neu berchnogaeth y person hwnnw;
(c)at ddibenion canfod a gyflawnwyd trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu ddarpariaethau cywerth, bydd hawl ganddo i chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a bydd hawl ganddo i fynnu fod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r swyddog er hwyluso'r archwiliad;
(ch)bydd hawl ganddo i archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a roddir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi ar y cwch;
(d)heb ragfarnu is-baragraffau (c) ac (ch), caiff fynnu fod y meistr ac unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cwch ar y pryd yn trosi pob dogfen o'r fath sydd ar system cyfrifiadur i ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu fod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chynhyrchu mewn ffurf gludadwy; a
(dd)pan fo'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm dros amau fod trosedd wedi'i gyflawni arno o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaethau cywerth, bydd hawl ganddo i atafaelu a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a roddir i'r swyddog ar y cwch at ddibenion gallu defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth o'r drosedd mewn achos;
ond nid oes dim yn is-baragraff (dd) uchod yn caniatáu atafaelu a chadw unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chario ar y cwch yn ôl y gyfraith ac eithrio tra bo'r cwch yn cael ei gadw'n gaeth mewn porthladd.
(4) Pan fo'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydain fod trosedd wedi'i chyflawni o dan y Rheoliadau hyn neu ddarpariaethau cywerth ar unrhyw adeg, bydd hawl gan y swyddog i–
(a)ofyn i feistr y cwch mewn cysylltiad â'r hwn y digwyddodd y drosedd, neu caiff y swyddog, fynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf; a
(b)chadw neu fynnu fod y meistr yn cadw'r cwch yn gaeth yn y porthladd;
a lle bo swyddog o'r fath yn cadw cwch yn gaeth, neu'n mynnu fod cwch yn cael ei gadw'n gaeth rhaid i'r swyddog gyflwyno rhybudd ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y cedwir y cwch yn gaeth neu ei bod yn ofynnol ei gadw'n gaeth hyd nes bydd y rhybudd yn cael ei ddiddymu trwy gyflwyno rhybudd ysgrifenedig pellach i'r meistr wedi'i lofnodi gan swyddog pysgodfeydd môr Prydain.
14.—(1) At ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn neu ddarpariaethau cywerth, caniateir i unrhyw swyddog pysgodfeydd môr yng Nghymru–
(a)fynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg resymol unrhyw fangre a ddefnyddir ar gyfer cynnal unrhyw fusnes mewn cysylltiad â gweithredu cychod pysgota neu weithgareddau cysylltiedig â hynny neu ategol at hynny neu gysylltiedig â thrin, storio, prynu neu werthu pysgod;
(b)mynd ag unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r swyddog gydag ef ynghyd ag unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau;
(c)archwilio unrhyw bysgod sydd yn y fangre a mynnu fod personau sydd yn y fangre'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r swyddog i hwyluso'r archwiliad;
(ch)cynnal unrhyw archwiliadau neu brofion eraill o'r fath allai fod yn rhesymol angenrheidiol mewn mangre felly;
(d)mynnu nad yw unrhyw berson yn symud pysgod neu'n peri i bysgod gael eu symud o fangre o'r fath am gyfnod angenrheidiol resymol at ddibenion sefydlu a gyflawnwyd trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaethau cywerth;
(dd)mynnu fod unrhyw berson yn y fangre'n dangos unrhyw ddogfennau sydd yng ngofal neu berchnogaeth y person hwnnw mewn cysylltiad â dal, glanio, cludo, trawslwytho, gwerthu neu waredu unrhyw bysgod neu'n gysylltiedig ag unrhyw gwch pysgota'n mynd i mewn i unrhyw borthladd neu harbwr neu'n ymadael oddi yno;
(e)at ddibenion cadarnhau a yw unrhyw berson yn y fangre wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaethau cywerth, chwilio'r fangre am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu fod unrhyw berson yn y fangre'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r swyddog er hwyluso'r chwiliad;
(f)archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu a ddarganfyddir yn y fangre;
(ff)mynnu fod unrhyw berson priodol neu gyfrifol yn trosi unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadur i ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu ei bod yn cael ei chynhyrchu mewn ffurf gludadwy; a
(g)os oes rheswm gan y swyddog i amau fod trosedd wedi'i gyflawni o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaethau cywerth, i atafaelu a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog hwnnw neu a ddarganfuwyd yn y fangre fel y gellir defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ar gyfer y drosedd.
(2) Mae darpariaethau paragraff (1) uchod hefyd yn gymwys gydag addasiadau angenrheidiol mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu yng nghyswllt unrhyw gerbyd neu gynhwysydd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydain achos rhesymol dros gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo cynhyrchion pysgodfeydd, fel y maent yn gymwys yn achos mangre ac, yn achos cerbyd, yn cynnwys yr hawl i fynnu fod y cerbyd yn aros ar unrhyw adeg ac, os oes angen cyfeirio'r cerbyd i rywle arall i hwyluso'r archwiliad.
(3) Os yw ynad heddwch yn fodlon, ar sail gwybodaeth ar lw ysgrifenedig–
(a)fod achos rhesymol dros gredu fod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr yr hawl i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn yn unrhyw fangre a bod eu harchwilio'n debygol o ddatgelu tystiolaeth fod trosedd wedi'i chyflawni o dan y Rheoliadau hyn neu ddarpariaethau cywerth; ac
(b)un ai–
(i)y gwrthodwyd mynediad i'r fangre neu'i bod yn debygol y'i gwrthodir a bod y deiliad wedi cael rhybudd o'r bwriad i wneud cais am warant; neu
(ii)y byddai cais am fynediad neu roi rhybudd o'r fath yn gwadu pwrpas mynediad, neu fod y fangre'n wag, neu fod y deiliad yn absennol dros dro ac y gallai aros i'r deiliad ddychwelyd wadu pwrpas mynediad;
bydd hawl gan yr ynad, trwy warant a lofnodir ganddo, ac sy'n ddilys am un mis, i awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydain i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen, ac i'r swyddog fynd â'r bobl hynny yr ymddengys iddo eu bod yn angenrheidiol i'w ganlyn.
15.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw gwch pysgota yng Nghymru.
(2) Lle bo'r rheoliad hwn yn gymwys, bydd hawl gan unrhyw swyddog pysgod môr Prydain i atafaelu unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy'n dal pysgod) y mae gan y swyddog achos rhesymol dros amau y cyflawnwyd trosedd mewn cysylltiad â hwy o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaeth gywerth.
16. Ni fydd swyddog Pysgodfeydd môr Prydain na pherson sy'n cynorthwyo swyddog o'r fath yn rhinwedd rheoliadau 13(2) neu 14(1)(b) neu awdurdod a roddwyd o dan reoliad 14(3) o'r Rheoliadau hyn yn atebol mewn unrhyw achos suful neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth arfer yn honedig y pwerau a roddwyd i'r person hwnnw gan reoliadau 13 i 15 o'r Rheoliadau hyn os yw'r llys yn fodlon y gwnaed y weithred yn ddidwyll, fod achos rhesymol dros wneud hynny a'i bod wedi ei wneud gyda medr a gofal rhesymol.
17.—(1) Mae unrhyw berson–
(a)nad yw'n cydymffurfio heb reswm digonol ag unrhyw ofyniad a orfodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydain o dan bwerau a gyflwynir i swyddogion pysgodfeydd môr Prydain gan reoliadau 13, 14 a 15 o'r Rheoliadau hyn;
(b)heb reswm digonol yn rhwystro neu'n ceisio rhwystro unrhyw berson arall rhag cydymffurfio gydag unrhyw ofyniad o'r fath; neu
(c)sy'n ymosod ar unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw rai o'r pwerau a gyflwynwyd i'r swyddog o dan reoliadau 13, 14 a 15 o'r Rheoliadau hyn neu'n fwriadol yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sy'n arfer unrhyw rai o'r pwerau hynny,
yn euog o drosedd.
(2) Mae person sy'n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored–
(a)ar gollfarn ddiannod i ddirwy dim uwch na'r uchafswm statudol; neu
(b)ar gollfarn o dditiad i ddirwy.
18.—(1) Pan brofir bod unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaeth gywerth a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i chyflawni gyda chaniatâd neu oddefiad, neu i'w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb i'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni gweithredu mewn unrhyw awdurdod o'r fath, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i'w gosbi'n unol â hynny.
(2) Pan brofir bod unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaeth gywerth a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i chyflawni gyda chaniatâd neu oddefiad, neu i'w phriodoli i esgeulustod ar ran partner, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i'w gosbi'n unol â hynny.
(3) Lle profir bod unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaeth gywerth a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth), wedi'i chyflawni gyda chaniatâd neu oddefiad, neu i'w phriodoli i esgeulustod ar ran unrhyw swyddog i'r gymdeithas neu unrhyw aelod o'i gorff llywodraethu, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i'w gosbi'n unol â hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mehefin 2006
Erthygl 3
1. Rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y cais i gofrestru o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r newid digwydd.
2. Rhaid cyflwyno nodiadau gwerthiant yn unol â darpariaethau Erthygl 9.
Erthygl 6
1. Rhaid cynnal arwerthiannau ar yr adegau a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ac ar yr amod yr hysbysir swyddog pysgodfeydd môr Prydain am unrhyw amrywiad, a'i fod yn gymeradwy.
2. Rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y cais i ddynodi o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r newid ddigwydd.
Erthygl 7
1. Rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y cais i gofrestru o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r newid digwydd.
2. Rhaid cyflwyno nodiadau gwerthiant yn unol ag Erthygl 22(2) o'r Rheoliad Cyngor (EC) 2371/2002.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi Erthygl 22 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2371/2002, “y Rheoliad CFP”, (O.J. Rhif L 358, 31.12.02, t.59) ac Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 (O.J. Rhif . L 261, 20.10.93, t.1) sy'n gorfodi gofynion o ran marchnata a phrynu pysgod gyntaf (pysgod gwerthiant cyntaf). Daw y rheoliadau i rym ar 9 Mehefin 2006 ac maent yn gymwys yng nghyswllt Cymru.
Mae'r Rheoliadau'n darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gofrestru gwerthwyr pysgod gwerthiant cyntaf (rheoliad 3), dynodi safleoedd arwerthu pysgod (rheoliad 6) a chofrestru prynwyr pysgod gwerthiant cyntaf (rheoliad 7). Yn ôl Rheoliad 5 mae'n ofynnol i werthwyr pysgod cofrestredig gadw cofnodion o'r pysgod gwerthiant cyntaf a werthir ganddynt ac yn ôl Rheoliad 9 mae'n ofynnol i brynwyr pysgod gwerthiant cyntaf gadw cofnodion o'r pysgod gwerthiant cyntaf a brynir ganddynt. Ac mae'r Rheoliadau'n darparu troseddau at ddibenion gorfodi'r cofrestriadau a'r dynodiadau hyn (rheoliadau 3(9), 3(10), 5(7), 6(8), 6(9), 7(8), 7(9) a 9(7)).
Mae'r Rheoliadau'n darparu troseddau o ran prynu a gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf. Mae Rheoliad 4 yn ei gwneud yn drosedd i unrhyw un werthu pysgod gwerthiant cyntaf mewn safle arwerthu dynodedig oni bai ei fod wedi cofrestru'n werthwr pysgod. Yn ôl rheoliad 8 mae'n drosedd prynu pysgod gwerthiant cyntaf yn groes i Erthygl 22(2)(b) o'r Rheoliad CFP (gofyniad fod prynwyr pysgod gwerthiant cyntaf wedi'u cofrestru) o'i ddarllen gydag is-baragraff olaf Erthygl 22(2), sy'n eithrio pysgod a brynir ar gyfer treuliant preifat. Yn ôl rheoliad 10 mae'n drosedd gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf a gaiff eu glanio mewn unrhyw ffordd ac eithrio gan gwch pysgota trwyddedig. Ac yn ôl rheoliad 11 mae'n drosedd prynu pysgod gwerthiant cyntaf oni bai fod y pysgod wedi cael eu glanio gan gwch pysgota trwyddedig.
Mae rheoliad 12 yn darparu cosbau ar gyfer y troseddau hyn: am gollfarn ddiannod, dirwy heb fod dros yr uchafswm statudol, am gollfarn o dditiad, dirwy. Pan gollfernir person am drosedd o dan reoliadau 3(9), 3(10), 5(7) 6(8), 6(9), 7(8), 7(9) neu 9(7) bydd gan lys hawl i ddirymu'r cofrestriad neu'r dynodiad dan sylw hefyd a gall orchymyn fod person a gollfernir yn cael ei anghymhwyso rhag gwneud cais i gofrestru neu am ddynodiad am gyfnod penodol.
Mae'r Rheoliadau'n cyflwyno pwerau gorfodi ar swyddogion pysgodfeydd môr Prydain at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn. Gellir arfer y pwerau hyn mewn cysylltiad â safleoedd ac unrhyw gwch pysgota o fewn Cymru (rheoliadau 13 i 15). Mae rheoliad 16 yn darparu i ddiogelu swyddogion pysgodfeydd môr Prydain ac mae rheoliad 17 yn darparu troseddau a chosbau i'w rhwystro. Mae rheoliad 18 yn darparu o ran troseddau gan gorfforaethau.
OJ Rhif L261, 20.10.1993, t.1.
OJ Rhif L128, 21.05.2005, t.1.
O.S. 1993/3138; yr offeryn diwygio perthnasol yw 1999/3206.
OJ Rhif L358, 31.12.2002, t.59.