Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw awdurdod a grybwyllir yn rheoliad 5;
ystyr “eitem geramig” (“ceramic article”) yw eitem—
a weithgynhyrchwyd o gymysgfa o ddeunyddiau anorganig gyda chynnwys cleiog neu silicad uchel yn gyffredinol y cafodd symiau bach o ddeunyddiau organig efallai eu hychwanegu atynt. Caiff y cyfryw eitem ei siapio'n gyntaf ac mae'r siâp a geir drwy hyn yn cael ei osod yn barhaol drwy ei gwresogi. Gellid ei gwydro, ei henamlo a/neu ei haddurno;
y mae bwriad iddi, yn ei chyflwr gorffenedig, ddod i gyffyrddiad â bwydydd, neu sydd mewn cyffyrddiad â bwydydd, a bwriadwyd hi at y diben hwnnw;
ond nid yw'n cynnwys eitem a gyflenwir fel hynafolyn;
ystyr “y Gymuned” (“the Community”) yw'r Aelod-wladwriaethau a Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein;
ystyr “mewnforio” (“import”) yw rhyddhau rhywbeth yn y DU i gylchrediad rhydd yn y Gymuned;
ystyr “rhoi ar y farchnad” (“place on the market”) yw dal eitemau ceramig ar gyfer eu gwerthu, gan gynnwys cynnig eu gwerthu neu unrhyw ffurf arall ar drosglwyddo p'un ai'n ddi-dâl ai peidio, a'r gwerthu, dosbarthu a ffurfiau eraill ar drosglwyddo eu hunain.