- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob modd i ddianc rhag tân yn y tŷ amlfeddiannaeth—
(a)yn cael ei gadw'n rhydd rhag rhwystr; a
(b)yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da.
(2) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod unrhyw gyfarpar diffodd tân a larymau tân yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da ac sy'n gweithio.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob hysbysiad sy'n dangos y modd i ddianc rhag tân yn cael eu harddangos mewn mannau yn y tŷ amlfeddiannaeth sy'n sicrhau bod y meddianwyr yn gallu eu gweld yn glir.
(4) Rhaid i'r rheolwr gymryd y mesurau hynny sy'n rhesymol ofynnol i ddiogelu meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth rhag niwed, gan roi sylw i—
(a)dyluniad y tŷ amlfeddiannaeth;
(b)cyflyrau yn y tŷ amlfeddiannaeth o ran strwythur; ac
(c)nifer y meddianwyr yn y tŷ amlfeddiannaeth.
(5) Wrth gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (4) rhaid i'r rheolwr yn benodol—
(a)o ran unrhyw do neu falconi nad yw'n ddiogel, naill ai sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn ddiogel neu gymryd pob cam rhesymol i rwystro mynediad atynt cyhyd ag y maent yn anniogel; a
(b)o ran unrhyw ffenestr y mae ei sil ar lefel y llawr neu'n agos ato, sicrhau bod bariau neu gyfarpar diogelu arall o'r fath fel a all fod yn ofynnol yn cael ei ddarparu i ddiogelu'r meddianwyr rhag perygl damweiniau a allai ddigwydd mewn cysylltiad â'r ffenestri hynny.
(6) Nid yw'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (3) yn gymwys os oes gan y tŷ amlfeddiannaeth bedwar meddiannydd neu lai.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys