xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6. At ddibenion adran 90(2)(b) y disgrifiad o riant a gaiff gyfeirio gwrthwynebiad sy'n ymwneud â threfniadau derbyn o dan yr is-adran honno yw unigolyn—
(a)os yw'r gwrthwynebiad yn dod o fewn rheoliad 7(1)(a), sy'n rhiant y mae ei blentyn o oedran ysgol gorfodol ac yn derbyn addysg gynradd; neu
(b)os yw'r gwrthwynebiad yn dod o fewn rheoliad 7(1)(b), sy'n rhiant y mae ei blentyn wedi cael ei ben blwydd yn ddwy oed ond heb gael ei ben blwydd yn bump oed, neu sy'n rhiant y mae ei blentyn o oedran ysgol gorfodol ac yn derbyn addysg gynradd,
ac sydd (yn y naill achos a'r llall) yn preswylio yn yr ardal berthnasol y mae ymgynghori o dan adran 89(2)(b) ynghylch y trefniadau derbyn hynny'n gymwys.
7.—(1) At ddibenion adran 90(2)(c) y disgrifiad o wrthwynebiad y caniateir ei gyfeirio o dan adran 90(2) yw—
(a)gwrthwynebiad sy'n ymwneud â threfniadau dethol sydd eisoes yn bodoli;
(b)gwrthwynebiad sy'n ymwneud â nifer derbyn ar gyfer unrhyw grŵp oedran perthnasol sy'n is na'r nifer derbyn a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn,
(a)ystyr “trefniadau dethol” (“selection arrangements”) yw'r trefniadau hynny (os oes rhai) yn y trefniadau derbyn a benderfynwyd ar gyfer ysgol ar gyfer blwyddyn ysgol benodol ac sy'n darparu ar gyfer dethol disgyblion yn ôl eu gallu o fewn ystyr adran 99(5); a
(b)mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sydd eisoes yn bodoli os ydynt—
(i)yn parhau o'r ddarpariaeth a wnaed yn nhrefniadau derbyn yr ysgol o dan sylw ar ddechrau blwyddyn ysgol 1997/98 ac a wnaed gan drefniadau derbyn olynol yr ysgol byth oddi ar hynny, a
(ii)yn llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon.
(3) At ddiben paragraff (2)(b)(ii), mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sy'n llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon os na chânt eu gwneud yn gyfreithlon yn rhinwedd adran 99(1) a (2)(c) (dosbarthiadau chwech), neu adran 101 (bandio disgyblion).
8.—(1) Rhaid i'r amod ym mharagraff (2) gael ei fodloni cyn bydd yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu gwrthwynebiad gan riant o dan adran 90(2).
(2) Yr amod yw bod nid llai na phump o rieni sy'n bodloni'r gofyniad yn rheoliad 6 wedi cyfeirio gwrthwynebiadau o dan adran 90(2) (neu un neu fwy o wrthwynebiadau ar y cyd)—
(a)sy'n ymwneud â'r un trefniadau derbyn; a
(b)sy'n codi'r un mater neu fater sy'n sylweddol yr un fath.