- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer rhestr atodol i'r rhai sy'n helpu i gyflenwi gwasanaethau offthalmig cyffredinol sydd i'w cadw gan Fyrddau Iechyd Lleol yn unol â darpariaethau adran 43D o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“Deddf 1977”).
Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau ar gyfer y Rheoliadau.
Mae Rheoliad 3 yn darparu bod rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol baratoi a chyhoeddi rhestr atodol. Mae hefyd yn darparu na all ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd (“ymarferydd”) helpu i berfformio gwasanaethau offthalmig cyffredinol oni bai bod ei enw wedi ei gynnwys ar restr o'r fath neu ar restr offthalmig.
Mae Rheoliad 4 yn nodi sut mae gwneud cais i fod yn gynwysedig ar y rhestr ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth arbennig gael ei rhoi. Mae'n llacio'r gofynion ar gyfer ymarferydd sydd wedi ei gynnwys ar restr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.
Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer ailgynnwys ymarferydd ar y rhestr atodol ar ôl apelio'n llwyddiannus yn erbyn collfarn.
Mae Rheoliad 6 yn nodi ar ba sail y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wrthod neu ar ba sail y mae'n rhaid iddo wrthod derbyn ymarferydd i'r rhestr atodol, a'r materion y mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd roi sylw iddynt.
Mae Rheoliad 7 yn nodi'r amgylchiadau lle y caiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried cais i gynnwys ymarferydd ar y rhestr atodol ac yn nodi'r weithdrefn i'w dilyn mewn perthynas â hynny.
Mae Rheoliad 8 yn caniatáu i Fwrdd Iechyd Lleol gynnwys enw ymarferydd ar y rhestr atodol yn ddarostyngedig i amodau. Mae hefyd yn caniatáu i enw ymarferydd gael ei gynnwys ar y rhestr honno, hyd nes bydd unrhyw apêl yn erbyn yr amodau wedi cael ei phenderfynu, cyn belled â bod yr ymarferydd yn cytuno i gael ei rwymo gan yr amodau hyd nes y bydd yr apêl wedi cael ei phenderfynu.
Mae Rheoliad 9 yn darparu ar gyfer gofyniad bod ymarferydd yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig, o fewn 7 diwrnod, os bydd yr ymarferydd, neu gwmni y mae'n gyfarwyddwr iddo, yn destun unrhyw gollfarn droseddol neu os bydd materion penodol eraill yn digwydd.
Mae Rheoliad 10 yn darparu y caiff Bwrdd Iechyd Lleol dynnu'n orfodol oddi ar ei restr atodol unrhyw ymarferydd sydd wedi cael ei gollfarnu o lofruddiaeth neu dramgwydd troseddol ac wedi cael ei ddedfrydu i dros 6 mis o garchar, ac mae'n rhoi disgresiwn i dynnu'r ymarferydd oddi ar y rhestr ar seiliau penodol eraill.
Mae Rheoliad 11 yn nodi'r meini prawf ar gyfer penderfyniadau ynglyn â thynnu enwau oddi ar y rhestr atodol yn ôl disgresiwn.
Mae Rheoliad 12 yn darparu bod Bwrdd Iechyd Lleol yn gosod amodau ar ymarferydd sydd â'i enw wedi ei gynnwys ar y rhestr atodol ac i'r ymarferydd gael ei dynnu oddi ar y rhestr os na fydd yn cydymffurfio â'r amodau hynny.
Mae Rheoliad 13 yn darparu bod Bwrdd Iechyd Lleol yn atal ymarferydd dros dro o'r rhestr atodol, os bodlonir amodau penodol, mae'n darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn ac ar gyfer taliadau i ymarferwyr sydd wedi eu hatal dros dro.
Mae Rheoliad 14 yn darparu ar gyfer adolygu ac ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn gan Fyrddau Iechyd Lleol lle mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu cynnwys yn amodol, tynnu ymarferydd yn amodol, neu atal ymarferydd dros dro, o'r rhestr atodol.
Mae Rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth i'r FHSAA i wrando ar apeliadau i benderfyniadau penodol.
Mae Rheoliad 16 yn darparu ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol i hysbysu personau penodol ynglyn â gwybodaeth benodol sy'n ymwneud â phenderfyniadau i wrthod derbyn, i osod amodau, i dynnu ymarferydd (neu i dynnu'n amodol) neu i atal ymarferydd dros dro o'r rhestr atodol.
Mae Rheoliad 17 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle y caiff a lle na chaiff ymarferydd dynnu ei enw yn ôl o'r rhestr atodol ac mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle na all ymarferydd dynnu ei enw yn ôl o'r rhestr atodol.
Mae Rheoliad 19 yn diwygio'r cyfnodau statudol ar gyfer adolygu sydd wedi eu nodi yn adran 49N o Ddeddf 1977 mewn amgylchiadau penodol.
Mae Rheoliad 20 yn darparu ar gyfer datgelu gwybodaeth i bersonau penodol.
Mae Rheoliad 21 yn gwneud darpariaethau trosiannol i ymarferwyr a oedd eisoes yn helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym barhau i wneud hynny hyd at 1 Awst 2006, tra bod eu cais i gael eu cynnwys ar restr atodol yn cael ei benderfynu. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth debyg ar gyfer y rhai sy'n gwneud cais i gael eu cynnwys ar restr yn ystod y chwe wythnos gyntaf ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac mae'n gwneud darpariaeth i drosglwyddo, i restr atodol, enwau sydd wedi cael eu cynnwys yn anghywir ar restr offthalmig.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 22 i 41) yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”), sy'n rheoleiddio telerau ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan Ddeddf 1977, er mwyn sicrhau darpariaeth debyg mewn perthynas â rhestri offthalmig i'r hyn a ddarperir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer rhestri atodol.
Mae Rhan 2 hefyd yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer optegwyr sy'n gyrff corfforaethol sy'n ymarfer fel optegwyr offthalmig (“optegwyr corfforaethol”), mae'n ymestyn categorïau personau y gellir eu cynnwys ar restr offthalmig (yn rheoliad 39(2) i (5)) ac yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwasanaethau symudol (yn rheoliadau 23(2) a (3), 24(3), 25(2) a 39(2), (3) a (5)). Mae'n diwygio Rheoliadau 1986 ymhellach (yn rheoliad 39(9) er mwyn gwneud yn glir pwy all lofnodi cais am daliad ac yn darparu ar gyfer achosion pan fo angen ail lofnod hefyd.
Mae Rhan 2 hefyd yn diwygio Rheoliadau 1986 (yn rheoliad 39(10)) er mwyn darparu ar gyfer optegwyr fel y gallant gyfeirio cleifion at feddyg yng ngwasanaeth llygaid yr ysbyty, rhoi gwybod i feddyg y claf a rhoi datganiad i'r claf i'r perwyl hwnnw. Mae'n ofynnol yn ôl Rheoliad 41 bod optegwyr corfforaethol sydd eisoes wedi eu cynnwys ar restr offthalmig yn darparu gwybodaeth bellach sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn erbyn 1 Awst 2006 ac yn gwneud darpariaethau trosiannol eraill.
Mae Rhan 3 yn cynnwys diwygiad (rheoliad 43) i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau a Thaliadau Optegol) 1997 i wneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno rhestri atodol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys