xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
rheoliadau 4 a 9
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “grid” (“grid”) yw grid o bwyntiau fector—
a chanddynt fylchau 10 metr wrth 10 metr rhyngddynt,
a chanddynt gyfeiriad gofodol i system gyfeirio'r Grid Cenedlaethol Prydeinig a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans, a hynny fel pâr o gyfanrifau i ddangos mewn metrau Ddwyreiniau ac yna Ogleddiadau o'r tarddiad, ac
sydd wedi'u halinio â fertigau 10 metr system gyfeirio'r Grid Cenedlaethol Prydeinig a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans a hynny fel bod y cyfeiriadau'n diweddu â'r Rhif sero;
ystyr “y gellir eu golygu” (“editable”) yw eu bod ar fformat sy'n caniatáu cynhyrchu'n electronig (heb fod angen trin y fformat)—
data Rhif iadol mewn tablau, a
plotiau graffigol,
er mwyn arddangos yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 1.5, 1.6, 1.7, 2.5, 2.6 a 2.7 o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb.
2.—(1) Rhaid i fapiau sŵn strategol a'u diwygiadau—
(a)bodloni'r lleiaf o'r gofynion a osodir yn Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb; a
(b)bod yn glir ac yn ddealladwy.
(2) Wrth gymhwyso paragraff 1(a) mae unrhyw gyfeiriad yn Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb at—
(a)Erthygl 8 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliadau 15, 17 ac 19 o'r Rheoliadau hyn;
(b)Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliad 29 o'r Rheoliadau hyn.
3.—(1) Dim ond i'r canlynol y mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a)map sŵn strategol a wnaed o dan reoliad 7(1)(a), 7(2)(a), 12(1) neu 12(2); neu
(b)diwygiad o'r cyfryw fap sŵn strategol.
(2) Rhaid i fapiau sŵn strategol—
(a)cynnwys (ar fformat electronig) yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 1.1 i 1.4 yn gynhwysol o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb; a
(b)cynnwys ar fformat electronig ddata Rhif iadol y gellir eu golygu sy'n cynnwys y gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol ar grid.
4.—(1) Dim ond i'r canlynol y mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a)unrhyw fap sŵn strategol a wnaed o dan—
(i)rheoliad 7(1)(b) i (ch),
(ii)rheoliad 7(2)(b) i (ch),
(iii)rheoliad 11(2); neu
(b)unrhyw ddiwygiad o'r cyfryw fap.
(2) Rhaid i fapiau sŵn strategol—
(a)cynnwys yr wybodaeth (ar fformat electronig) a ddisgrifir ym mharagraffau 2.1 i 2.4 yn gynhwysol o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb; a
(b)cynnwys ar fformat electronig ddata Rhif iadol y gellir eu golygu sy'n cynnwys gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol ar grid.