Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aderyn caeth arall” (“other captive bird”) yw unrhyw aderyn a gedwir yn gaeth ac nad yw'n ddofednyn ac mae'n cynnwys aderyn anwes ac unrhyw aderyn a gedwir ar gyfer sioeau, rasus, arddangosfeydd, cystadlaethau, bridio ac i'w werthu;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;

ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”), o ran ardal, yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “brechu” (“vaccinate”) yw trin dofednod neu adar caeth eraill â brechlyn yn erbyn ffliw adar;

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw'r person sy'n gyfrifol o ddydd i ddydd am ddofednod neu adar caeth eraill yn unrhyw fangre;

mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys—

(a)

trelar, lled-drelar neu rywbeth arall a ddyluniwyd neu a addaswyd i gael ei dynnu gan gerbyd arall;

(b)

rhan o unrhyw gerbyd y gellir ei datgysylltu; ac

(c)

cynhwysydd neu strwythur arall a ddyluniwyd neu a addaswyd ar gyfer ei gario ar gerbyd;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “diheintio” (“disinfect”) yw diheintio â diheintydd a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(1) i'w defnyddio o dan y Gorchymyn Clefydau Dofednod(2);

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw'r holl adar sy'n cael eu magu neu eu cadw'n gaeth i gynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta, cynhyrchu cynhyrchion masnachol eraill, i ailstocio cyflenwadau adar hela neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu'r categorïau adar hyn;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(3);

ystyr “ffliw adar” (“avian influenza”) yw haint mewn dofednod neu adar caeth eraill a achosir gan unrhyw firws ffliw A o'r is-deipiau H5 neu H7 neu firws y mae ei fynegrif pathogenedd mewnwythiennol mewn cywion ieir chwe wythnos oed yn uwch nag 1.2;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad neu le;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”), o ran unrhyw fangre, yw'r person sydd â gofal am y fangre honno;

ystyr “sw” (“zoo”) yw naill ai—

(i)

sefydliad parhaol lle mae anifeiliaid o rywogaeth wyllt yn cael eu cadw i'w harddangos i'r cyhoedd am saith niwrnod y flwyddyn neu fwy, ac eithrio syrcasau a siopau anifeiliaid anwes; neu

(ii)

corff, sefydliad neu ganolfan a gymeradwywyd, fel y'i diffinnir ym mhwynt (c) Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65 EC sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, neu fewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a osodir mewn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 90/425/EEC(4), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/68/EC(5).

(1)

O.S. 1978/32, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/583 (Cy.49) ac O.S. 2006/1762 (Cy.184). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

Diffinnir Gorchymyn Clefydau Dofednod yn O.S. 1978/32 fel Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1079 (Cy.148) a Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Tarddu o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1762 (Cy.184)).

(3)

1981, p. 22; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, (p. 42), O.S. 1992/3293 ac O.S. 2003/1734. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

OJ Rhif L 268, 14.9.1992, t. 54.

(5)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 321; gweler y testun sydd wedi'i gywiro fel y'i nodir yn y corigendwm i'r Gyfarwyddeb a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t.128.