- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
9.—(1) Os yw'r amod ym mharagraff (2) wedi'i fodloni, caiff y Cynulliad Cenedlaethol—
(a)brechu unrhyw adar mewn unrhyw swau y mae'n credu ei bod yn angenrheidiol eu brechu (ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i feddianwyr y swau hynny);
(b)ei gwneud yn ofynnol (drwy hysbysiad ysgrifenedig i feddiannydd unrhyw sw) i unrhyw aderyn yn y sw gael ei frechu; neu
(c)trwyddedu meddiannydd sw i frechu unrhyw aderyn yn y sw.
(2) Yr amod yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal asesiad risg ac yn credu bod risg y byddai ffliw adar yn cael ei drosglwyddo i adar sw neu i gategorïau o'r adar hynny.
(3) Fel rhan o'i asesiad risg, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bwyso a mesur a yw sw—
(a)ar hynt ymfudo;
(b)yn agos at unrhyw grynofa ddŵr lle gall adar mudol ymdyrru;
(c)wedi'i leoli mewn ardal lle mae dwysedd adar mudol yn uchel.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu, mewn hysbysiad neu drwydded o dan y rheoliad hwn—
(a)nifer a rhywogaeth yr adar sydd i'w brechu;
(b)yr amodau bioddiogelwch sydd i'w bodloni yn y sw neu unrhyw ran o'r sw;
(c)amodau ynglyn â storio brechlyn a'i roi.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y brechu'n cael ei wneud yn unol â'r cynllun brechu ataliol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn 2006/474/EC ynghylch mesurau i atal ffliw adar pathogenig iawn a achosir gan firws ffliw A o'r is-deip H5N1 rhag ymledu i adar a gedwir mewn swau a mangreoedd cyrff, sefydliadau a chanolfannau a gymeradwywyd yn yr Aelod-wladwriaethau ac yn diddymu Penderfyniad 2005/744/EC(1).
OJ Rhif L187, 8.7.2006, t. 37. Mae copïau o' gynllun brechu ataliol y D.U. ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Yr Is-adran Atal a Rheoli Clefydau Ecsotig, 1A, Page Street, Llundain SW1P 4PQ ac yn http://www.defra.gov.uk/animalh/diseases/notifiable/pdf/euuk-zooplan.pdf.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys