- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Yn y rheoliad hwn —
(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1895/2005;
(b)mae paragraffau (2) i (5) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (eithriad yn ymwneud â chynwysyddion storio a phiblinellau penodol);
(c)at ddibenion Erthygl 6(4) yr awdurdod cymwys yw'r awdurdod a ddynodir yn rheoliad 14.
(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) (darpariaethau trosiannol) a (4) ( gofynion labelu), ni chaiff neb —
(a)Gweithgynhyrchu,
(b)defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes,
(c)gwerthu at ddibenion trin bwyd, neu
(ch)gwerthu at ddibenion trin bwyd
unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 neu Erthygl 4 (gwaharddiadau yn ymwneud â BFDGE a NOGE yn eu trefn).
(3) Ni chaiff neb weithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem mewn modd sy'n groes i ofynion Erthygl 2 (rheolaethau ar ymfudiad BADGE o ddeunyddiau ac eitemau).
(4) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), ni chaiff neb—
(a)defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes,
(b) gwerthu at ddibenion trin bwyd, neu
(c) mewnforio at ddibenion trin bwyd
unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi cael ei weithgynhyrchu mewn modd sy'n groes i ofynion Erthygl 2.
(5) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(3) (darpariaethau trosiannol yn ymwneud â deunyddiau ac eitemau y daethpwyd â hwy i gysylltiad â bwyd cyn 1 Ionawr 2007), ni chaiff neb fynd yn groes i na methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 5 (rhwymedigaeth ynghylch darparu datganiad ysgrifenedig wrth farchnata deunyddiau neu eitemau sy'n cynnwys BADGE neu ddeilliadau ohono).
(6) Ni chaiff neb fethu â chydymffurfio â chais a wneir o dan Erthygl 6(4) (gofyniad i ddatgelu'r dyddiad llenwi i'r awdurdod cymwys).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys