Y weithdrefn sydd i'w dilyn yn y gwrandawiad
6.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, mae'r weithdrefn mewn adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar i'w phenderfynu gan y person sy'n cynnal yr adolygiad.
(2) Mae gan y tenant hawl—
(a)i gael ei wrando ac i gael person arall gydag ef neu ei gael ei gynrychioli gan berson arall;
(b)i alw personau i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad; ac
(c)i ofyn cwestiynau i unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad.
(3) Mae unrhyw gynrychiolydd y tenant i gael yr un hawliau a phwerau â'r rhai sydd gan y tenant o dan y Rheoliadau hyn.