Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig

2.—(1At ddibenion adran 78C(8) rhagnodir tir halogedig a ddisgrifir fel a ganlyn yn dir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig —

(a)tir sy'n effeithio ar ddyfroedd rheoledig yn yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 3;

(b)tir sy'n dir halogedig oherwydd tarau asid gwastraff yn y tir, arno neu oddi tano;

(c)tir y cynhaliwyd unrhyw un neu rai o'r gweithgareddau canlynol arno ar unrhyw adeg —

(i)puro (gan gynnwys coethi) petroliwm crai neu olew a echdynnwyd o betroliwm, siâl neu unrhyw sylwedd bitwminaidd arall ac eithrio glo; neu

(ii)gweithgynhyrchu neu brosesu ffrwydron;

(ch)tir y mae proses ragnodedig a ddynodwyd i'w rheoli'n ganolog wedi'i chyflawni arno neu wrthi'n cael ei chyflawni arno o dan awdurdodiad pan nad yw'r broses yn cynnwys dim ond pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;

(d)tir lle mae gweithgaredd wedi, neu yn cael, ei gynnal mewn gweithfan Rhan A(1) neu trwy gyfrwng gwaith symudol Rhan A(1) o dan drwydded, pan nad yw'r gweithgaredd yn cynnwys pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;

(dd)tir o fewn safle niwclear;

(e)tir a berchenogir neu a feddiennir gan neu ar ran —

(i)yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn,

(ii)y Cyngor Amddiffyn,

(iii)pencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn, neu

(iv)awdurdod lluoedd arfog llu sydd ar ymweliad,

sef tir a ddefnyddir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu;

(f)tir y gwnaed gwaith arno i weithgynhyrchu, cynhyrchu neu waredu —

(i)arfau cemegol,

(ii)unrhyw gyfrwng neu ddiocsin biolegol sy'n dod o fewn adran 1(1)(a) o Ddeddf Arfau Biolegol 1974(1) (cyfyngiad ar ddatblygu cyfryngau a thocsinau biolegol), neu

(iii)unrhyw arf, offer neu fodd danfon sy'n dod o fewn adran 1(1)(b) o'r Ddeddf honno (cyfyngiad ar ddatblygu arfau biolegol),

ar unrhyw adeg;

(ff)tir sy'n fangre a ddynodir neu a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1(1) o Ddeddf y Sefydliad Arfau Niwclear 1991(2) (trefniadau ar gyfer datblygu etc dyfeisiau niwclear);

(g)tir y mae adran 30 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 1996(3) (tir a gedwir er budd Ysbyty Greenwich) yn gymwys ar ei gyfer;

(ng)tir sy'n dir wedi'i halogi'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn rhinwedd unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd yn y tir hwnnw, arno neu oddi tano, a

(h)tir —

(i)sy'n gyffiniol neu'n gyfagos â thir o ddisgrifiad a bennir yn is-baragraffau (b) i (ng) uchod; a

(ii)sy'n dir halogedig yn rhinwedd sylweddau y mae'n ymddangos eu bod wedi dianc o dir o'r disgrifiad hwnnw.

(2At ddibenion paragraff (1)(b), mae “tarau asid gwastraff” yn darau —

(a)sy'n cynnwys asid sylffwrig;

(b)a gynhyrchwyd o ganlyniad i goethi bensol, ireidiau a ddefnyddiwyd neu betroliwm; ac

(c)sydd, neu a oedd, yn cael eu storio ar dir a ddefnyddiwyd fel basn cadw ar gyfer gwaredu tarau o'r fath.

(3Ym mharagraff (1)(ch), mae i “awdurdodiad” a “proses ragnodedig” yr un ystyr ag “authorisation” a “prescribed process” yn Rhan I o Ddeddf 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol) ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli'n ganolog neu yn lleol).

(4Ym mharagraff (1)(d), mae i “gweithfan Rhan A(1), “gwaith symudol Rhan A(1)” a “trwydded” yr un ystyr â “Part A(1) installation”, “Part A(1) mobile plant” a “permit” yn Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000(4).

(5Ym mharagraff (1)(dd) uchod, ystyr “safle niwclear” yw—

(a)unrhyw safle y mae trwydded safle niwclear mewn grym am y tro ar ei gyfer, neu ar gyfer rhan ohono; neu

(b)unrhyw safle nad yw cyfnod cyfrifoldeb y trwyddedai wedi dod i ben ar ei gyfer neu ar gyfer rhan ohono, ar ôl iddo ddiddymu neu ildio trwydded safle niwclear.

(6Ym mharagraff (5) mae i “trwydded safle niwclear”, “trwyddedai” a “cyfnod cyfrifoldeb” yr ystyr a roddir i “nuclear site licence”, “licensee” a “period of responsibility” gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965(5).

(7At ddibenion paragraff (1)(e), dim ond os yw'r tir yn rhan o ganolfan a feddiennir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu y mae tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl gan Sefydliadau'r Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu i'w drin fel tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu.

(8Ym mharagraff (1)(e)—

  • ystyr “pencadlys rhyngwladol” a “corff amddiffyn” yw, yn eu tro, unrhyw bencadlys rhyngwladol, ac unrhyw gorff amddiffyn, a ddynodwyd at ddibenion Deddf Pencadlysoedd Rhyngwladol a Chyrff Amddiffyn 1964(6);

  • mae i “awdurdod lluoedd arfog” a “llu ar ymweliad” yr un ystyr â “service authority” a “visiting force” yn Rhan I o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(7).

(9Ym mharagraff (1)(f), mae i “arf cemegol” yr ystyr sydd i “chemical weapon” yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 1996(8), gan ddiystyru is-adran (2) o'r adran honno.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill