Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Rheoliad 2(1)

[F1ATODLEN 1LL+CDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH UE

Ystyr “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/766/EC sy'n sefydlu rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad 2011/131;

Ystyr “Penderfyniad 2011/131” (“Decision 2011/131”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2011/131/EU sy'n diwygio Atodiad II i Benderfyniad 2006/766/EC sy'n ymwneud â chynnwys Fiji yn y rhestr o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd ohonynt ar gyfer eu bwyta gan bobl;

Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu rhai cyfarwyddebau ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu, a rhoi ar y farchnad, rhai cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC;

Ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 596/2009;

Ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad 2073/2005 [F2a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor];

Ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 16/2012 ac fel y'i darllenir ynghyd â Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1020/2008 a [F3Rheoliad 1079/2013];

Ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 739/2011 ac fel y'i darllenir ynghyd â Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005, Rheoliad 2076/2005, Penderfyniad 2006/766, Rheoliad 1021/2008 a [F4Rheoliad 1079/2013];

Ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau y gwirir cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 880/2011 ac fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 669/2009 a [F5Rheoliad 702/2013];

Ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer traddodi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1223/2011;

Ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar griteria microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1086/2011;

Ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 809/2011;

Ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ynghylch rheolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1109/2011;

Ystyr “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1020/2008 sy'n diwygio Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid a Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran marciau adnabod, llaeth crai a chynhyrchion llaeth, wyau a chynhyrchion wyau a chynhyrchion pysgodfeydd penodol;

Ystyr “Rheoliad 1021/2008” (“Regulation 1021/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1021/2008 sy'n diwygio Atodiadau I, II a III i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl a Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran molysgiaid deufalf byw, cynhyrchion pysgodfeydd penodol a staff sy'n cynorthwyo â'r rheolaethau swyddogol mewn lladd-dai;

Ystyr “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 219/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Dau(1);

Ystyr “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar(2), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1169/2011;

Ystyr “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch y cynnydd yn lefel y rheolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n tarddu o anifeiliaid ac yn diwygio Penderfyniad 2006/504/EC(3), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1277/2011;

F6...

Ystyr “Rheoliad 739/2011” (“Regulation 739/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 739/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(4);

Ystyr “Rheoliad 809/2011 (“Regulation 809/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 809/2011 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran dogfennau sy'n mynd gyda mewnforion o gynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi eu rhewi ac sy'n dod yn uniongyrchol o lestr rhewi;

Ystyr “Rheoliad 880/2011” (“Regulation 880/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 880/2011 sy'n cywiro Rheoliad (EU) Rhif 208/2011 sy'n diwygio Atodiad VII i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliadau'r Comisiwn (EC) Rhif 180/2008 ac (EC) Rhif 737/2008 o ran rhestrau o labordai cyfeirio UE a'u henwau;

Ystyr “Rheoliad 1086/2011” (“Regulation 1086/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1086/2011 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 o ran salmonella mewn cig dofednod ffres;

Ystyr “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1109/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005 o ran y dulliau cyfwerth o brofi am Trichinella;

Ystyr “Rheoliad 1169/2011” (“Regulation 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;

Ystyr “Rheoliad 1223/2011” (“Regulation 1223/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1223/2011 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1688/2005 o ran samplu'r heidiau y mae wyau'n tarddu ohonynt ac archwiliadau microbiolegol o samplau o'r fath a samplau o gig penodol a fwriedir ar gyfer y Ffindir a Sweden;

Ystyr “Rheoliad 1277/2011” (“Regulation 1277/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1277/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y lefel uwch o reolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n tarddu o anifeiliaid;

Ystyr “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 16/2012 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y gofynion sy'n ymwneud â bwyd wedi ei rewi, sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar ei fwyta gan bobl;

Ystyr “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 28/2012 sy'n gosod gofynion ardystio ar gyfer mewnforio cynhyrchion cyfansawdd penodol i'r Undeb, a chludo'r cynhyrchion hynny drwyddo, ac sy'n diwygio Penderfyniad 2007/275/EC a Rheoliad (EC) Rhif 1162/2009.]

[F7“ystyr “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 702/2013 ar fesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran achredu labordai swyddogol sy’n cynnal profion swyddogol ar gyfer Trichinella;

ystyr “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1079/2013 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor..]

(1)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(2)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(3)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(4)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).