Newidiadau dros amser i: ATODLEN 3A
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 14/12/2019.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, ATODLEN 3A.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliad 17(5)
[ATODLEN 3ALL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(5)
Y gofynion yw—
(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995();
(b)mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o garnolion domestig a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;
(c)pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy;
(ch)pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(i)enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;
(ii)enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;
(iii)nifer y carcasau neu'r darnau; a
(iv)rhywogaeth yr anifail; a
(d)nad oes unrhyw waith prosesu at ddibenion eu bwyta gan bobl yn cael ei wneud ar anifeiliaid buchol y mae'n ofynnol, yn unol â phwynt 2 Rhan I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, eu profi i weld a oes BSE arnynt adeg eu cigydda neu anifeiliaid o deulu'r mochyn (anifeiliaid hela domestig a rhai a ffermir), uncarnolion a rhywogaethau eraill anifeiliaid a allai gael Trichinosis y mae'n ofynnol, [o dan Erthygl 18(2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gydag Erthygl 31 o Reoliad 2019/627, eu harchwilio i weld a oes Trichinella arnynt yn unol ag Erthygl 2 o Reoliad 2015/1375].
At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “Rheoliad TSE y Gymuned” (“Community TSE Regulation”) yw [Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/893] ac fel y'i darllenir gyda'r canlynol—
(i)
Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad 2005/598/EC(),
(ii)
Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC sy'n sefydlu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â'u risg BSE(), a
(iii)
Penderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE() fel y diwygiwyd y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/66/EU sy'n diwygio Penderfyniad 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE().]
Yn ôl i’r brig